Mab Gruffudd frawd Madog ap Maredudd, tywysog Powys. Yn 1149 fe'i gosodwyd o dan Fadog yn arglwydd ar Gyfeiliog. Tua 1153 ymosodwyd ar Gyfeiliog gan Rys ap Gruffudd, ac er i Owain yn ddiweddarach briodi ei ferch, buont yn elynion am flynyddoedd. Wedi marw Madog yn 1160, Owain oedd ben ar Gyfeiliog, ac yn 1163 ymunodd ag Owain Fychan i gipio a chwalu castell brenhinol Carreg Hofa. Yn 1165 fe'i ceid gyda thywysogion eraill Powys a thaleithiau eraill Cymru yn y dygyfor mawr Cymreig o dan arweiniad Owain Gwynedd yn wynebu ymosodiad Harri II yn ardal y Berwyn. Eithr y flwyddyn ddilynol ymunodd ag Owain Fychan i yrru Iorwerth Goch allan o Fochnant, a'i rhannu rhyngddynt. (Ffin yw hon sy'n aros hyd heddiw rhwng siroedd Dinbych a Threfaldwyn.) Yn 1167 dychwelodd at hen bolisi ei ewythr, Madog ap Maredudd, o gyfeillgarwch â Lloegr, a glynodd yn bur gyson wrth y polisi hwn o hyn ymlaen. Yn 1167 ymosodwyd arno gan Owain Gwynedd a Rhys ap Gruffudd o Ddeheubarth, cipiasant gwmwd Caereinion oddi arno a'i roi i Owain Fychan, ond enillodd Owain Cyfeiliog ef yn ôl yn fuan trwy gymorth y Saeson.
Yn 1170 sefydlodd fynachlog Sistersaidd Ystrad Marchell. Cefnogodd y Saeson eto yn 1173, ac fe'i gwelid yng Nghyngor Rhydychen yn 1177. Ef oedd yr unig dywysog Cymreig i wrthod cefnogi ymgyrch yr archesgob Baldwin a Gerallt Gymro dros y Groesgad yn 1188, ac esgymunwyd ef am hynny. Ymddengys iddo estyn yr awenau i Wenwynwyn, ei fab, yn 1195, ac ymddeol i fynachlog Ystrad Marchell, lle y bu farw yn 1197, ac yno y claddwyd ef. Ei wraig gyntaf oedd Gwenllian, ferch Owain Gwynedd (hi oedd mam Gwenwynwyn); merch Rhys ap Gruffudd oedd ei ail wraig.
Ym more'i yrfa ymddisgleiriai fel milwr, a'r wedd hon a glodforir gan Gynddelw yn y 'canu' iddo, ond yn ddiweddarach sonia Gerallt amdano fel un o'r tri thywysog yng Nghymru a ' ymddisgleiriai mewn cyfiawnder, doethineb a chymedroldeb yn ei reolaeth.' Sonia hefyd am ei dafod huawdl, a'i synnwyr craff. Eto fe arhosodd cof am ei yrfa filwrol hyd yn oed ymhlith y Normaniaid fel y gwelir yn chwedl Fulk Fitz Warin. Y wedd hon a adlewyrchir gan Owain ei hun yn ei ' Hirlas Owain,' cerdd yn null y ' Gododdin,' sef canu yn eu tro i nifer o filwyr ifainc a oedd yn aelodau o'i 'deulu' neu ei osgordd. Y gerdd hon yw'r darlun gorau sydd gennym o fywyd tywysog Cymreig, y gwmnïaeth agos rhyngddo a'i osgordd, a holl afiaith eu bywyd anturus. Ceir hefyd (The Myvyrian Archaiology of Wales , 192, a Llyfr Coch Hergest, 1395-6) gyfres o ' Englynion a gant teulu Ywein Kyveilyawc i gylchyau Kymry ' - ond Gwynedd a Phowys yw'r wlad a gyrchir ganddynt.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.