CYNDDELW BRYDYDD MAWR (fl. 1155-1200), pencerdd pwysicaf Cymru yn y 12fed ganrif

Enw: Cynddelw Brydydd Mawr
Plentyn: Dygynnelw ap Cynddelw
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pencerdd pwysicaf Cymru yn y 12fed ganrif
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: David Myrddin Lloyd

Cyfeirir ato gan feirdd o'r ddwy ganrif ddilynol (The Myvyrian Archaiology of Wales , 111 A, 164 A, a 204 B) fel un o brif feistri'r canu mawl i dywysogion. Canai ar fesurau awdl ac englyn. Geilw'r gramadegwyr fesur clogyrnach yn 'ddull Cynddelw,' ac ef hefyd oedd y cyntaf hyd y gwyddom i wneud defnydd helaeth o fesur englyn unodl union. Gwelir dau draddodiad yn cyfarfod yn ei waith, sef y canu awdlau moliant a oedd yn drwm dan ddylanwad canu Aneirin a Thaliesin, a chanu englynol Powys.

Bu edliw i Gynddelw mewn canu 'amryson' (The Myvyrian Archaiology of Wales , 154 A) yn gynnar yn ei yrfa na tharddai o linach beirdd, a chan fod Seisyll Bryffwrch, er mynnu ohono ei fychanu, yn cyfeirio ato fel ' Cynddelw fawr cawr cyrdd,' ymddengys iddo gael ei alw'n fawr i ddechrau oblegid mawredd corff. Bu iddo o leiaf un mab, o'r enw Dygynnelw, a laddwyd ar faes y frwydr (The Myvyrian Archaiology of Wales , 185 A).

Dyrchafwyd Cynddelw yn bencerdd llys Madawg ab Maredudd, tywysog Powys (bu farw 1160), a dwy gerdd bwysicaf ei gyfnod yn y llys hwnnw oedd ' Rhieingerdd Efa,' sef merch y tywysog, a'r gyfres firain o ddeunaw englyn marwnad i Fadawg a'i fab Llywelyn lle y coffeir diwedd undod Powys. Yna trodd i ganu clod Owain Gwynedd, a gwelir ei awen yn ei hanterth ym ' Marwnad Owain ' (1170). O hynny ymlaen i ddiwedd y ganrif fe'i ceir yn canu i amryw o brif dywysogion Gwynedd, Powys, a Deheubarth, ac ar un olwg, felly, Cynddelw yw bardd cyntaf Cymru gyfan, a barnu wrth yr hyn sydd ar gadw o'n barddoniaeth. Canodd awdlau hefyd i Dduw. Mawl Feifod yn bennaf yw ei ' Gân Tysiliaw.' ' Marwysgafn Cynddelw ' yw ei unig gerdd grefyddol arall sydd ar gael. Ei nodwedd amlycaf yw'r 'hen gadernid moel-haearnaidd' y sonia W. J. Gruffydd amdano.

Yr olaf o'i weithiau y gellir ei ddyddio'i bendant yw'r englynion i Lywelyn ab Iorwerth (The Myvyrian Archaiology of Wales , 189B) lle y disgrifir twf y tywysog hyd at feddiannu'r Wyddgrug ganddo yn Ionawr 1199. (Y mae lle cryf i amau awduriaeth Cynddelw o'r englynion ' Cylch Llywelyn ' a geir yn y The Myvyrian Archaiology of Wales , 175-6.) Ceir rhan o'i farwysgafn yn ' Llyfr Du Caerfyrddin,' a chynhwysir peth o'i waith yn Peniarth MS. 3, sydd hefyd yn perthyn i hanner cyntaf y 13eg ganrif. Ceir y rhan fwyaf a gadwyd o waith Cynddelw yn Llsgr. Hendregadredd, rhan helaeth ohono hefyd yn ' Llyfr Coch Hergest,' a chrynhowyd y cwbl sydd ar gael i'r Myv. Arch.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.