SEISYLL BRYFFWRCH (fl. 1155-75), bardd

Enw: Seisyll Bryffwrch
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: David Myrddin Lloyd

Y peth cyntaf a wyddom amdano yw iddo ymryson â Chynddelw am benceirddiaeth Madog ap Maredudd, tywysog Powys (bu farw 1160). Ceir yr englynion ymryson yn llawysgrif Hendregadredd 71b-72a, ac yn The Myvyrian Archaiology of Wales 154a. Dywed Seisyll yn un o'r englynion hyn ei fod o linach ' Culfardd,' sef, y mae'n debyg ' Culfardd hardd hen ' y sonia ' Iolo Goch ' amdano (I.G.E., xvii, 36). Canodd Seisyll awdl-farwnad i Owain Gwynedd, ac un arall i Iorwerth Drwyndwn ei fab (sef tad Llywelyn Fawr). Yr ail farwnad hon yw un o ffynonellau pwysicaf ein gwybodaeth brin am Iorwerth (Lloyd, A History of Wales , 549-50). Ceir canu hefyd i'r arglwydd Rhys gan y bardd hwn lle y mae'n cyfeirio at yr ymladd yn 1159 yn erbyn y pum iarll Normanaidd, ac at ddigwyddiadau eraill yng ngyrfa Rhys mor ddiweddar â'r ymladd yng Nghyfeiliog yn 1167 ac ym Mrycheiniog yn 1168.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.