Erthygl a archifwyd

IOLO GOCH (c. 1325 - c. 1400), bardd

Enw: Iolo Goch
Dyddiad geni: c. 1325
Dyddiad marw: c. 1400
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Dafydd Johnston

Bardd o Ddyffryn Clwyd oedd Iolo Goch, mab Ithel Goch ap Cynwrig ab Iorwerth ap Cynwrig Ddewis Herod o linach Hedd ab Alunog o Uwch Aled, un o Bymtheg Llwyth Gwynedd. Ail wraig Ithel Goch oedd ei fam, nas enwir yn yr ach [?]. Cofnodir enwau dau frawd iddo, sef Gruffudd a Thudur Goch.

Ffurf anwes ar Iorwerth (enw ei hen-daid) oedd Iolo'n wreiddiol, ond nid oes tystiolaeth mai Iorwerth oedd enw bedydd Iolo Goch. Mae'n bosibl mai cyfenw teuluol oedd Coch, ond eto mae Iolo'n cyfeirio ato ef ei hun yn un o'i gerddi fel 'cadno coch', felly mae'n debyg bod ganddo wallt coch.

Yn ôl arolwg arglwyddiaeth Dinbych 1334, treftadaeth Ithel Goch a'i gefnder Dafydd oedd gafael Cynwrig Ddewis Herod a Iorwerth Ddu yn Lleweni, ar lawr y dyffryn ger tref Dinbych. Ond yn unol â pholisi'r goresgynwyr, roedd pum rhan o chwech o'r afael honno yn fforffed gan yr arglwydd, a'r chweched ran wedi ei chyfnewid am ddaliad llai ffafriol yn Llechryd ar dir uwch i'r gogledd-orllewin o Ddinbych. Yn un o'i gerddi mae Iolo'n disgrifio ei daith adref i Lechryd ar gefn march newydd, a chyfeirir ato'n ddiweddarach fel 'Iolo Goch o Lechryd'.

Enw gwraig Iolo oedd Margred ferch Adda Fychan. Enwir un ferch iddynt yn yr achau, sef Nest, ond mae'n debygol mai meibion iddynt (neu feibion anghyfreithlon i Iolo) oedd Dafydd ab Iolo Goch ac Iolyn ab Iolo Goch y ceir eu henwau fel tystion mewn nifer o ddogfennau o Faelor Saesneg oddeutu diwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg.

Perthyn cerddi cynharaf Iolo Goch i'r 1340au, a thybir iddo gael ei eni tua 1325. Nid oes dim yn hysbys am ei hyfforddiant barddol, ond mae'r teitl 'Herod' ar un o'i hynafiaid yn ddiddorol o ystyried y sylw a roddir i herodraeth yn ei gerddi. Mae tystiolaeth yn un o'i gerddi i'w gaifn Ithel ap Robert o Goedymynydd, archddiacon Llanelwy, bod Iolo wedi cael addysg eglwysig fel corydd, mwy na thebyg yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Byddai'r addysg honno wedi cynnwys darllen ac ysgrifennu Lladin a Chymraeg, ac mewn darn cyfoes o lyfr gramadeg dywedir ei fod yn fardd a allai 'ysgrivennu y gerd yn yawn'. Mae'n bosibl bod y llinellau o'i awdl i'r Forwyn Fair a ychwanegwyd ar ymyl y ddalen yn Llyfr Ancr Llanddewibrefi yn llaw'r bardd ei hun.

Derbyniodd Iolo Goch nawdd gan eglwyswyr esgobaeth Llanelwy ar hyd ei yrfa, gan gynnwys dau esgob, Dafydd ap Bleddyn yn y 1340au ac Ieuan Trefor yn y 1390au, yr Archddiacon Ithel ap Robert a'r Deon Hywel Cyffin. Noddwyr blaenllaw eraill iddo oedd teulu Penmynydd (gw. Ednyfed Fychan) ym Môn, Syr Hywel y Fwyall, cwnstabl Castell Cricieth, ac Owain Glyndŵr. Tua diwedd ei yrfa, yn 1394, canodd gywydd cyngor i Syr Rosier Mortimer sy'n dangos gwybodaeth fanwl am wleidyddiaeth Prydain ac Iwerddon. Yr unig gerdd ganddo i uchelwr o'r de sydd wedi goroesi yw ei farwnad i Syr Rhys ap Gruffudd sy'n disgrifio ei angladd yng Nghaerfyrddin yn 1356, ac mae'n debyg mai ar anogaeth yr uchelwr pwerus hwnnw y canodd Iolo ei gywydd i'r brenin Edward III. Ond mae cywydd ar ffurf ymddiddan rhwng ei gorff a'i enaid yn amlinellu taith glera i'r de-orllewin ac yn enwi nifer o noddwyr yno, gan gynnwys abadau yr Hendy Gwyn ar Daf ac Ystrad Fflur a Rhydderch ab Ieuan Llwyd.

Roedd Iolo Goch yn un o'r Cywyddwyr cynnar, ac mae ei farwnad i Ddafydd ap Gwilym, tua 1350 efallai, yn tystio i ddylanwad y bardd mawr hwnnw arno. Yn ddiweddarach yn y ganrif canodd farwnad i'w gyfaill barddol Llywelyn Goch ap Meurig Hen. Mae canon diweddaraf ei waith yn cynnwys cyfanswm o 39 o gerddi (er bod llawer mwy wedi eu priodoli iddo yn y llawysgrifau), ac mae hwn yn gorff o farddoniaeth amrywiol iawn. Mae ganddo ychydig o gywyddau serch, gan gynnwys disgrifiad gorchestol o ferch, yr unig gywydd a gynhwyswyd yn Llyfr Coch Hergest. Cadwyd cryn dipyn o ganu dychan ganddo, peth ohono'n ddiddanwch defodol rhwng beirdd a pheth o ddifrif, gan gynnwys dau gywydd yn lladd ar Frawd Llwyd o Gaer am bregeth yn collfarnu gwŷr eglwysig am odineb. Mae ei ganu crefyddol yn amlygu ei ddefosiwn i'r Forwyn Fair, Dewi Sant a'r saint eraill. Canodd gywydd hir yn erchi nawdd Mair a'r apostolion ar Ddydd y Farn, ac mae ei weddi am nawdd Crist a'r saint rhag angau efallai'n adlewyrchu'r pryder a achoswyd gan y Pla Du yn ystod ei oes.

Cyfraniad mwyaf Iolo Goch i'r traddodiad barddol oedd sefydlu'r cywydd yn gyfrwng ar gyfer canu mawl, gan drosglwyddo iddo rai o ddulliau awdlau Beirdd y Tywysogion. Roedd yn ei elfen yn dathlu campau milwrol ei noddwyr, ac mae un cyfeiriad ganddo yn awgrymu iddo wasanaethu fel milwr ei hun. Mae trefn sefydlog y gymdeithas yn ddelfryd bwysig yn ei gerddi, fel y gwelir yn ei ddarlun o lys Owain Glyndŵr yn Sycharth ac yn 'Cywydd y Llafurwr' sy'n canmol y llafurwr cyffredin am dderbyn ei safle'n ostyngedig - ymateb efallai i'r anesmwythyd cymdeithasol adeg Gwrthryfel y Werin yn Lloegr yn 1381.

Dengys tystiolaeth ei gerddi fod gyrfa farddol Iolo Goch wedi ymestyn dros gyfnod o hanner can mlynedd a mwy, hyd 1397 o leiaf, a thybir iddo farw'n hen ŵr cyn Gwrthryfel Glyndŵr. Ond y mae dadl gref wedi ei chyflwyno dros ddilysrwydd cerdd a wrthodwyd o'r canon ac sy'n perthyn i gyfnod y gwrthryfel tua 1403; os derbynnir y gerdd honno yn waith Iolo Goch rhaid symud dyddiad ei farw ychydig yn ddiweddarach.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2024-04-17

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Erthygl a archifwyd Frig y dudalen

IOLO GOCH (c. 1320 - c. 1398), bardd

Enw: Iolo Goch
Dyddiad geni: c. 1320
Dyddiad marw: c. 1398
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Henry Lewis

Brodor o ddyffryn Clwyd, mab Ithel Goch ap Cynwrig ab Iorwerth Ddu ap Cynwrig Ddewis Herod ap Cywryd. Yn ôl stent arglwyddiaeth Dinbych gan Hugh de Beckele yn 1334, daliai Ithel Goch ddarn bach o hen etifeddiaeth y teulu ar rent yn nhref Lleweni, ac yr oedd ganddo dŷ i fyw ynddo yno. Yn ychwanegol rhentai oddi wrth yr arglwydd ddarnau bychain o dir yn Llechryd ac ym Merain.

O'r gweithiau a briodolir i Iolo yn y llsgrau, yr hynaf a ellir ei ddyddio yw awdl i Dafydd ap Bleddyn, esgob Llanelwy o 1314-46, ac un o'r rhai diweddaraf yw cywydd i Ieuan Trefor II, esgob Llanelwy, a ganwyd yn ôl pob tebyg yn 1397. Rhwng y ddau begwn hyn ceir cywyddau ganddo fel hyn: mawl i Edward III, diwedd 1347; marwnad Syr Rhys ap Gruffudd a fu farw yn 1356 (yr oedd Iolo yn ei angladd yng Nghaerfyrddin); marwnad Tudur Fychan, Tre'r Castell, Môn, a fu farw yn 1367; mawl i Syr Hywel y Fwyall, cyn 1381; marwnad Ithel ap Robert, archddiacon Llanelwy, a fu farw 1382; marwnad Ednyfed a Gronwy, meibion Tudur Fychan (boddodd Gronwy yn 1382); mawl i Ieuan ab Einion o Chwilog pan oedd yn siryf Caernarfon (1385-90); mawl i Syr Rosier Mortimer,, iarll Mars (a iarll Dinbych), a ganwyd rhwng 1395 a 1398; ac awdl fendith ar lys Hywel Cyffin, deon Llanelwy o 1385-97. Ceir tri chywydd a ganodd i Owain Glyndŵr, ond prin iawn y gellir dyddio'r olaf o'r tri wedi 1386. Perthynai Iolo felly yn hollol i'r 14eg ganrif, ac yr oedd yn gyfoeswr â Dafydd ap Gwilym a Llywelyn Goch Amheurig Hen; canodd farwnadau i'r ddau. Bu hefyd yn ffraeo'n farddol gyda Gruffydd Gryg.

Canodd awdlau yn null y Gogynfeirdd, a hyd yn oed yn ei gywyddau ceir digon o olion hynafiaeth o ran geirfa a chystrawen. Fel Dafydd ap Gwilym cwerylodd yn bur gas gyda'r Brodyr Llwyd. Mewn un cywydd, ar ddull ymddiddan rhwng yr enaid a'r corff (hen thema lenyddol), disgrifia daith glera drwy Geri, y Drenewydd, Maelienydd, Elfael, Buallt, Blaenau Taf, Caeo, Cydweli, Ystrad Tywi, yr Hen Dygwyn-ar-Daf, Ceredigion hyd Ystrad Fflur, a hynny efallai tua 1387. Un o'i gywyddau enwocaf yw hwnnw i'r llafurwr, gyda'i ddisgrifiad gwych o'r aradr.

Pennaf noddwr Iolo Goch oedd Ithel ap Robert. Yr oedd y rhan fwyaf a folodd yn bleidwyr selog i goron Lloegr, ac ni chododd ei lef mewn gwrthryfel.

Awdur

  • Yr Athro Emeritus Henry Lewis, (1899 - 1968)

    Ffynonellau

  • H. Lewis, Thomas Roberts, Ifor Williams (goln), Cywyddau Iolo Goch ac Eraill, 1350–1450 ( Bangor 1925 ), ix-lxxvii
  • H. Lewis, Thomas Roberts, Ifor Williams (goln), Cywyddau Iolo Goch ac Eraill, 1350–1450 ( Caerdydd 1937 ), ix-xii

    Darllen Pellach

  • Erthygl Wicipedia: Iolo Goch

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Erthygl a archifwyd

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.