LLYWELYN GOCH ap MEURIG HEN (fl. c. 1360-90)

Enw: Llywelyn Goch ap Meurig Hen
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

Un o'r olaf o'r Gogynfeirdd, a brodor o Feirionnydd. Cadwyd llawer o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau, e.e. awdl grefyddol, awdlau i Dafydd ap Cadwaladr o Fachelldref a Goronwy ap Tudur o Benmynydd, ac i'r Deheuwyr, Hopcyn ap Tomas o Ynys Dawy, Llywelyn Fychan a Rhydderch ei frawd, a Rhys ap Gruffudd ab Ednyfed. Cadwyd hefyd ei gywydd marwnad enwog i Leucu Llwyd o Bennal, a phriodolir nifer o gywyddau eraill hefyd i'r bardd. Ceir peth o'i waith yn y The Myvyrian Archaiology of Wales . Canodd Iolo Goch farwnad iddo.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.