HOPCYN ap TOMAS (c. 1330 - wedi 1403), uchelwr

Enw: Hopcyn ap Tomas
Dyddiad geni: c. 1330
Dyddiad marw: wedi 1403
Rhiant: Tomas ab Einion
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: uchelwr
Maes gweithgaredd: Perchnogaeth Tir; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Griffith John Williams

a drigai yn Ynysdawy ym mhlwyf Llangyfelach, mab Tomas ab Einion, sef yr Einion hwnnw y mynnai ' Iolo Morganwg ' mai Einion Offeiriad ydoedd. Lluniodd ' Iolo ' bob math o straeon am y teulu hwn, a throes Hopcyn yn fardd, yn awdur rhamantau a damhegion a gramadegau, etc. Ymgais a geir yma i egluro'r cyfeiriadau a geir ato yng nghanu beirdd y 14eg ganrif. Ceir yn ' Llyfr Coch Hergest ' bump o awdlau a ganwyd iddo, ac y mae'r cynnwys yn dangos ei fod nid yn unig yn un o brif noddwyr y beirdd yn y Deheudir, ond hefyd yn ŵr a ymddiddorai yn eu celfyddyd ac a gasglai lawysgrifau Cymraeg. Yn 1403, pan oedd Owain Glyndŵr yng Nghaerfyrddin, anfonodd wŷr i gyrchu Hopcyn ap Tomas fel y gallai egluro iddo pa oleuni a daflai'r hen ddaroganau ar ei dynged ef. Edrychid arno fel ' maister of Brut,' hynny yw, fel awdurdod ar yr hen ddaroganau. Y mae Hopcyn ap Tomas yn enghraifft wych o'r uchelwr Cymraeg diwylliedig yn y 14eg ganrif.

Dywedir yn llyfrau'r ganrif ddiwethaf ac yn Hopkiniaid Morganwg, 1909, fod Hopcyn ap Tomas yn perthyn i'r un teulu â Hopcyniaid Llandyfodwg a'r cyffiniau. Nid oes dim sail i hyn oll. ' Iolo Morganwg ' biau'r ddamcaniaeth hon.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.