hynny yw, llyfr yn trafod celfyddyd cerdd dafod, ac yn rhoddi talfyriad Cymraeg o'r gramadeg Lladin a ddefnyddid yn yr Oesoedd Canol. Canodd awdl i Rys ap Gruffudd ap Hywel ap Gruffudd ab Ednyfed Fychan, a pherthyn hon i'r cyfnod 1314-22. Myn Syr Thomas Williams yn NLW MS 3029B mai gwr 'o Wynedd ' ydoedd, ac iddo lunio'r gramadeg 'yr ynrrydedd a Moliant' i'r un Rhys ap Gruffudd. Ni chyfeirir ato yn y copïau cynharaf o'r gramadeg ond yn unig fel gwr a luniodd dri mesur. Ar wahân i hyn, ni wyddom ddim amdano. Ceisiodd ' Iolo Morganwg ' ddangos mai ef oedd tadcu Hopcyn ap Tomas ab Einion o Ynys Dawy, uchelwr llengar a flodeuai yn ail hanner y 14eg ganrif, ond nid oes dim sail i hynny.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Gellir bod yn fwy pendant ynglyn ag Einion Offeiriad. Yr oedd un o'r enw yn berson Llanrug. Bu ef farw yn 1349. Y mae'n bosibl mai gwybod am ei enw ef a barodd i Thomas Wiliems leoli awdur y gramadeg yng Ngwynedd. Ond mewn erthygl yn Mwletin Bwrdd y Gwybodau Celtaidd, 20, tt. 339-347, dadleuir yn gryf gan J. Beverley Smith dros uniaethu'r gramadegydd â'r Einion Offeiriad a gafwyd yn euog o fod yn gyfrannog yn llofruddiaeth Iorwerth ab Iau gan Ruffudd ap Morgan ab Einion ym Mabwynion neu Gaerwedros yn 1344. Yng nghyfrifon profost cwmwd Mabwynion am y flwyddyn 1352-53 cofnodir ymhlith tiroedd siêd a oedd yn llaw'r brenin un erw o dir a fuasai'n eiddo i Einion Offeiriad, ac ymhlith cyfrifon siambrlen deheudir Cymru am 1354-55 cofnodir taliad am selio gweithred a ddyddiwyd ar ddydd olaf Ionawr 1354 i drosglwyddo tir a fu'n eiddo i Einion Offeiriad yng nghwmwd Gwidigada. Tybir mai'r un Einion a ddaliasai dir ym Mabwynion a Gwidigada. Bu hwn farw yn ôl pob tebyg yn 1353.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.