Mab Gruffydd ap Hywel (gweler Hywel y Pedolau) ap Gruffydd ab Ednyfed Fychan a Nest, merch Gwrwared ap Gwilym o Gemais. Ef ymhlith uchelwyr Cymreig y 14eg ganrif oedd y dyn cyfoethocaf a mwyaf ei ddylanwad. Cynrychiola ei yrfa agwedd meddwl a gobeithion yr aelodau hynny o'i ddosbarth a gefnogai achos teulu brenhinol yr Angeviniaid yng Nghymru yn ystod canrif gyntaf sefydliad y Saeson.
Ymddengys i Rys etifeddu'r stadau teuluaidd a oedd o amgylch maenor Llansadwrn yn y Cantref Mawr yn uniongyrchol oddi wrth ei daid, gan fod yn debyg fod ei dad wedi marw o flaen Syr Hywel. Y cyfeiriad cyntaf ato yn y cofnodion yw fel stiward Aberteifi yn 1309; yn y blynyddoedd dilynol enillodd swyddi eraill yn ne-orllewin Cymru ag elw sylweddol iddynt. Yr hyn, fodd bynnag, a ddaeth ag ef i'r amlwg oedd y gefnogaeth a roddodd i'r Despenseriaid (cyfeillion Edward II) yn 1322, ac o ganlyniad apwyntiwyd ef yn ddirprwy i'r ustus brenhinol yn neheudir Cymru, rhoddwyd iddo brydles ar Ddinefwr a Dryslwyn, gwnaethpwyd ef yn arglwydd Arberth, ac fe'i etholwyd yn siryf Caerfyrddin gyda chadwraeth y dref a'r castell. Chwaraeodd ran bwysig yn argyfwng ymddeoliad Edward II yn 1327, a thebyg yw iddo osgoi distryw cyflawn drwy ffoi i Sgotland. Ychydig ar ôl hyn cafodd ei diroedd yn ôl, ond unwaith eto yn 1330 bu raid iddo ffoi i'r Cyfandir o achos ei ran yn yr ymdrech aflwyddiannus i ddiseddu mam y brenin a'i chyfaill Mortimer. Yn ddiweddarach yn 1330 pan oedd llywodraeth bersonol Edward III wedi ei sefydlu, galwyd Rhys yn ei ôl, adferwyd iddo amryw o'i hen swyddi, ac o hyn hyd ei farw chwaraeodd ran bwysig ymhlith Cymry ei ddydd i hyrwyddo anturiaethau tramor y brenin.
Ym mhob ymgyrch Sgotaidd rhwng 1310 a 1341, ac wedyn yn Ffrainc, saif allan nid yn unig am ei waith yn codi gwŷr yn ne-orllewin Cymru, ond hefyd fel milwr profiadol a gweithgar, ac fel y mwyaf blaenllaw o'r swyddogion Cymreig. Urddwyd ef yn farchog rhwng Mehefin a Thachwedd 1346, hwyrach ar ôl brwydr Cresi lle y bu'n ymladd. Ond ni chafodd weld ail oruchafiaeth fawr Edward III, gan iddo farw cyn Poitiers, ar 10 Mai 1356, yng Nghaerfyrddin, lle y claddwyd ef - o bosibl yn eglwys S. Pedr lle y gorwedd ei daid.
Yn y cyfamser yr oedd wedi ymbriodi â Joan de Somerville, etifeddes gyfoethog a ddaeth â thiroedd iddo mewn chwe sir yn Lloegr. Etifeddodd ei fab, Syr RHYS IFANC (ganwyd 1325), y rhain i gyd gyda'r stadau tra helaeth yng Nghaerfyrddin a Cheredigion. Parhaodd y stadau hyn, a oedd mor odidog yn oes Syr Rhys am eu helaethrwydd, a'r cyntaf o'u bath yng Nghymru, yn eiddo i'w ddisgynyddion hyd ail hanner y bymthegfed ganrif pan ymbriododd unig etifeddes y teulu â Thomas ap Gruffydd ap Nicholas o Ddinefwr : mab hynaf yr uniad hwn oedd Syr Rhys ap Thomas. Mae o ddiddordeb hefyd i sylwi ar berthynas Syr Rhys â Syr Gruffydd Llwyd, cefnder ei dad, a hefyd â'r bardd Dafydd ap Gwilym (mab cefnder o ochr ei fam). Y mae gan Ddafydd gyfeiriad at Syr Rhys mewn cân a gyfansoddodd oddeutu 1346. Y mae gan Iolo Goch hefyd gywydd marwnad iddo.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.