Gorwyr Ednyfed Fychan, senesgal Llywelyn ab Iorwerth. Yn yr achau Cymreig disgrifir ef fel arglwydd Tregarnedd yn sir Fôn a Dinorwig yn Sir Gaernarfon; daliai diroedd hefyd yn Twynan a mannau eraill yng ngogledd sir Ddinbych, yn Llansadwrn yn Sir Gaerfyrddin, ac yn Llanrhystud yn Sir Aberteifi. Etifeddasai Tregarnedd a'r tiroedd yn sir Ddinbych ar ôl ei dad, Rhys ap Gruffydd, a fu farw yn gynnar yn 1284; daeth Llanrhystud iddo ar ôl ei ewythr, Syr Hywel ap Gruffydd, a gollodd ei fywyd yn y trychineb ar 'bont Môn' ym mis Tachwedd 1282. Yr oedd traddodiadau hynafiaid Gruffydd a oedd yn agosaf ato yn gryf o blaid brenhinoedd Lloegr; bu ei dad a Hywel ei ewythr yn gynorthwywyr gweithgar ac yn rhai yr ymddiriedai'r brenin ynddynt yn ystod rhyfel Cymreig 1282-4; ymunodd Gruffydd yng ngwasanaeth teulu'r frenhines Eleanor, ac yn 1283 derbyniwyd ef fel ' yeoman ' yng ngwasanaeth teulu'r brenin ei hunan. Parhaodd yn ffyddlon i'w ddygiad-i-fyny teyrngar; yr oedd eisoes yn farchog pan dalodd wrogaeth yn 1301 i Edward o Gaernarfon fel tywysog newydd Cymru, a daeth yn aelod o osgorddlu teulu'r tywysog. Ddeng mlynedd wedi iddo farw parheid i sôn am Gruffydd yng Ngogledd Cymru fel ' gwr y llys.'
O 1297 hyd 1314 Gruffydd Llwyd oedd, mewn gwirionedd, prif gynullydd a chasglwr milwyr dros y brenin yng Ngogledd Cymru; dro ar ôl tro bu'n codi milwyr o Gymry i fynd i wasanaethu yn Fflandrys neu Sgotland, a bu ef ei hunan yn gwasnaethu yn y ddeule hynny. Efe oedd y Cymro cyntaf i gael ei ddefnyddio ar raddfa helaeth fel siryf yng Ngogledd Cymru - yn Sir Gaernarfon 1301-5, yn sir Fôn 1305-6, yn Sir Gaernarfon eilwaith 1308-10, ac yn Sir Feirionnydd 1314-6, a thrachefn 1321-7. Yr oedd hefyd yn Fforestydd Gogledd Cymru, 1307-17. Ymddiriedai Edward o Gaernarfon yn fawr ynddo pan oedd yn dywysog a phan ddaeth yn frenin. Yn 1321, yng nghwrs un o'r argyfyngau a ddeuai i ran Edward mor aml, pan y'i cafodd ei hun yn wynebu cynghrair o farwniaid y Mars o dan arweiniad Roger Mortimer o Gastell y Waun, ustus Cymru ar y pryd, gorchmynnodd i Gruffydd Llwyd godi byddin yng Ngogledd Cymru ac ymuno â'r fyddin frenhinol gan ddifodi unrhyw wrthryfelwyr y deuid ar eu traws ar y ffordd. O'r herwydd ymosododd Gruffydd, ym mis Ionawr 1322, ar amryw gestyll a'u cymryd, gan gynnwys castell yr Holt, castell y Trallwng, a chastell cryf Mortimer ei hunan, sef castell y Waun, ac ymostyngodd Mortimer a'i gynghreiriaid i Edward heb ragor o wrthwynebiad. Yr ymgyrch hwn o eiddo Llwyd oedd yr un y daeth traddodiad i'w gyfrif a'i gamgyfleu fel gwrthryfel yn erbyn swyddogion y brenin yng Nghymru. Mewn gwirionedd yr oedd Gruffydd yn gweithredu mewn cyswllt clos â'r brenin, a thrwy gymryd castell y Waun gwnaeth y gwasanaeth mwyaf a allai i'r brenin. Parhaodd yn gyson hyd y diwedd yn ei deyrngarwch i'r brenin; yn 1327 llwyddodd i osgoi ymddangos fel un o'r cynrychiolwyr o Sir Feirionnydd yn y Senedd a fu'n dyst i'r gweithrediadau ffurfiol terfynol ynglyn â darostyngiad y brenin; un o'r cyfeiriadau diwethaf ato yn y cofysgrifau gwladol ydyw hwnnw sydd yn dangos ei fod, yn 1331, yn gysylltiol a'r personau a oedd, fe ymddengys, o blaid rhoddi Mortimer, hen elyn y brenin, i farwolaeth y flwyddyn cynt.
Bu farw cyn 12 Gorffennaf 1335. Ei fab Ieuan oedd ei aer. Yn ôl yr achau Cymreig bu iddo hefyd, o'i briodas â Gwenllian, merch Cynan ap Maredudd, saith o ferched.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.