MORTIMER (TEULU), Wigmore, sir Henffordd.

Daeth teulu Mortimer i Loegr o Normandi gyda byddin William y Concwerwr, a thua 1075 rhoddwyd i un o'r teulu, sef RALPH de MORTIMER, diroedd yn Sir Amwythig a sir Henffordd, gyda chastell a threflan Wigmore yn yr ail sir fel canolfan. Gan ddechrau felly, tyfodd y teulu yng nghwrs amser i fod yn un o'r prif deuluoedd yn hanes y Goror. Ceir cyfeiriadau at y Ralph hwn yn cryfhau castell ‘Dinieithon’ ac yn darostwng ‘Melenyth,’ y ddau yn sir Faesyfed. Yn ystod y 12fed ganrif ymddengys oddi wrth y cyfeiriadau prin a geir fod llawer o ymladd rhwng y Mortimeriaid a'r Cymry. Yn 1144 ceir HUGH de MORTIMER yn ailennill Maelienydd ac Elfael, hyn yn awgrymu eu darostwng a'u colli rywbryd cynt, ac yn 1145 daliwyd a charcharwyd y tywysog Cymreig Rhys ap Howel ganddo. Ef hefyd oedd yn gyfrifol am farw Meredith ap Madog ab Idnerth yn 1146. Carcharwyd ROGER de MORTIMER am ddwy flynedd yn 1179 oherwydd i'w ganlynwyr fod yn gysylltiedig rywsut â marwolaeth Cadwallon ap Madog. Yn 1191 alltudiwyd ef am dair blynedd, y tro hwn ar y cyhuddiad o gynllwyn gyda'r Cymry yn erbyn y brenin. Dychwelodd mewn amser, ac yn 1195 gyrrodd feibion Cadwallon allan o Faelienydd, ond yn 1196 gorchfygwyd ef a Hugh de Say o Richard's Castle gan Rhys ap Gruffudd ger Maesyfed. Yn hanner cyntaf y 13eg ganrif Llewelyn ap Iorwerth oedd y prif dywysog yng Nghymru, ac yn 1230 cysylltwyd y Mortimeriaid â Llewelyn pan briodwyd RALPH de MORTIMER â Gwladys Ddu, merch y tywysog. Bu iddynt fab, ROGER de MORTIMER, ac ychwanegodd ef yn fawr at diroedd y teulu pan briododd yn 1247 â Matilda, ferch William de Braose, cynarglwydd Brycheiniog. Yr oedd Matilda yn gyd-aeres hefyd i stadau teulu Marshal drwy ei mam Eva, merch William Marshal, iarll Penfro, a thrwyddi hi felly enillodd y Mortimeriaid ran helaeth o Frycheiniog, arglwyddiaeth Maesyfed, a thiroedd yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Drwy'r ychwanegiadau hyn, enillodd y teulu nerth a safle uchel ymhlith arglwyddi'r gororau. Gelyn pennaf Roger oedd ei berthynas Llywelyn ap Gruffudd, a bu ysbeidiau o ryfel a heddwch rhyngddynt hyd farw'r ddau yn 1282. Yr adeg hon, yr oedd y frwydr rhwng yr arglwydd Normanaidd a'r tywysog Cymreig yn rhan o frwydr helaethach rhwng y barwniaid Seisnig a'r brenin Harri III, ac yn ddiweddarach yn rhan o ryfel Edward I yn erbyn Cymru. Yn 1262 a 1266 trechwyd Mortimer gan Lywelyn, ac ym mis Medi 1267, trwy gytundeb Trefaldwyn, gorfu iddo ildio rhan o'i diroedd i'r tywysog. Ym mis Tachwedd 1276 apwyntiwyd Mortimer yn gapten dros y brenin Edward I yn siroedd Amwythig, Stafford, a Henffordd, a'r tiroedd cyfagos, fel rhan o'r ymgyrch yn erbyn Cymru. Llwyddodd i ennill llawer o diroedd oddi ar ei elynion. Yr oedd Mortimer yr adeg yma hefyd yn amlwg iawn yng ngwasanaeth y brenin mewn materion cyfreithiol. Bu farw 1282.

Problem fwyaf ei olynydd, EDMUND de MORTIMER, oedd gwrthryfel Rhys ap Maredudd o Ystrad Tywi, a gorchmynnwyd iddo yn aml yn y blynyddoedd 1287-8 weithredu yn erbyn y gwrthryfelwr. Bu farw 1304. Cydweithiai mab Edmund, sef ROGER de MORTIMER (yn ddiweddarach iarll March) â'i ewythr Roger, arglwydd y Waun, a rhyngddynt dyrchafwyd y teulu i safle uchel iawn. Ofnent dwf eu gelynion mawr, y Despensers, yn Ne Cymru, ac mewn cweryl rhwng iarll Henffordd a Hugh le Despenser yn 1321 ynglŷn â meddiannu Gŵyr cymerasant ran iarll Henffordd. Ymladdwyd yn llwyddiannus yn y De, ond yn Ionawr 1321/2, wedi iddynt gymryd arfau yn erbyn y brenin, trechwyd a charcharwyd y ddau. Pan goronwyd Edward III, fodd bynnag, enillodd Roger Mortimer o Wigmore fwy o ffafr nag erioed. Ar 20 Chwefror 1326/7 apwyntiwyd ef yn ustus Cymru ac esgobaeth Llandaf tra rhyngai fodd y brenin. Ailapwyntiwyd ef i Landaf ar 4 Awst 1328, a gwnaed ef yn ustus Cymru am ei oes ar 27 Awst 1328. Sicrhawyd y swydd o ustus Cymru iddo ar 4 Tachwedd 1328, ar ôl ei ddyrchafu'n iarll March, a'r un dydd apwyntiwyd ef yn ustus esgobaeth Tyddewi am ei oes. Ym mis Mehefin 1327 gwnaed ef yn geidwad tiroedd yn ‘Glamorgan and Morganwg’ tra rhyngai fodd y brenin, ac ym mis Medi 1327 rhoddwyd iddo diroedd gwerth £1,000 y flwyddyn, yn cynnwys castell Dinbych a thiroedd sied iarll Arundel yng Nghymru. Gwnâi ei safle swyddogol a'i diroedd eang ef bron yn feistr yng Nghymru hyd ei ddienyddio yn 1330 fel bradwr. Dilynwyd ef gan ei ŵyr, ROGER de MORTIMER (1327? - 1360), ac er i'r taid golli ffafr fel bradwr, trosglwyddwyd y tiroedd ar y Goror i'r ŵyr ymhen amser. Ar ei ôl ef daeth ei fab EDMUND de MORTIMER (1351 - 1381), a briododd Philippa, ferch Lewnel (Lionel), dug Clarence, a'i wraig Elisabeth de Burgh (o Gaerlleon-ar-Wysg a Brynbuga); mab iddynt hwy oedd Roger de Mortimer (1374 - 1398) a mab arall oedd EDMUND de MORTIMER (1376 - 1409? isod). Pan fu Roger de Mortimer farw yr oedd ei fab EDMUND de MORTIMER (1391 - 1425) o dan oed, ac mewn canlyniad brawd Roger, Edmund (uchod), oedd prif gynrychiolydd y teulu ar y Goror. Ar ddechrau gwrthryfel Owain Glyndŵr unodd Edmund a'i frawd-yng-nghyfraith, Henry Percy, yn erbyn y gwrthryfelwr. Carcharwyd ef, fodd bynnag, yn 1402, ac yn ystod ei garchariad priododd â Chatherin, merch Glyndŵr. Ymunodd â chynlluniau'r Cymro, ac yn y cytundeb enwog rhwng Mortimer, Glyndŵr, a iarll Northumberland, yr oedd Mortimer i gael de Lloegr. Ofer oedd y cynllunio, a bu farw yn amddiffyn castell Harlech, 1409?. Bu ei nai Edmund farw yn 1425 a throsglwyddwyd y stadau i Risiart, dug Efrog, mab ANNE MORTIMER (chwaer Edmund) a Rhisiart, dug Caergrawnt. Teulu'r Richard hwn a adwaenir fel ‘teulu York’ yn ein llyfrau ar hanes ‘Rhyfel y Rhosynnau’; ond i'r Cymro, eu cyswllt â'r Mortimeriaid (a'u tarddiad, pell yn ôl, o Wladus Ddu, ferch Llywelyn Fawr), a'r adnoddau tirol ac ariannol a milwrol yng Nghymru a ddug y cyswllt hwnnw iddynt, sy'n cyfrif fwyaf. Nid ‘Lancaster a York’ oedd y ddwy blaid i'r Cymro, eithr ‘Tudur, Penmynydd’ a ‘Mortimer’; ac yn y de-ddwyrain a'r Goror (h.y. yn nhiroedd eang y Mortimeriaid) yr oedd nerth plaid ‘York’ yng Nghymru — gweler dan deulu Herbert, Trefaldwyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/