Y mae pwysigrwydd a blaenoriaeth yr Herbertiaid yng nghanolbarth Cymru yn dyddio o'r adeg - yn gynnar yn nheyrnasiad Harri VIII - yr ymsefydlodd Syr RICHARD HERBERT (1468 - 1539), a oedd newydd gael ei wneuthur yn farchog, yn Nhrefaldwyn. Mab oedd ef i'r Iorcydd Syr Richard Herbert, Coldbrook, a roddwyd i farwolaeth, gyda'i frawd William, yr iarll Pembroke 1af, wedi buddugoliaeth y Lancastriaid yn Edgecote, 1469; yr oedd hefyd yn nai i Syr Rhys ap Thomas. Fe'i cysylltodd Richard ei hun â gyrfa esgynnol Syr Charles Worcester, arglwydd Herbert o Raglan a iarll 1af Worcester yn nes ymlaen, a etifeddodd stadau teulu Pembroke, a'r dylanwad a olygent, trwy ei briodas ag Elizabeth Herbert, ŵyres yr iarll Pembroke 1af a chyfyrderes Syr Richard.
Ar ôl llenwi rhai swyddi bychain yn y llys brenhinol ac yn Ne Cymru o dan Harri VIII, daeth Herbert yn gynrychiolydd ei noddwr yng nghanolbarth Cymru; yr oedd Somerset yn stiward maenorau brenhinol Trefaldwyn, Kerry, a Chydewain, ac yn gwnstabl castell Trefaldwyn (a chanddo hefyd awdurdod i ddewis ei swyddogion ei hun), a dewisodd Herbert yn dderbynnydd ('receiver') y rhan fwyaf o diroedd fforffetiedig York a Mortimer; bu'n ei gynorthwyo hefyd yn erbyn hawliau gwrthgyferbyniol Walter Devereux, arglwydd Ferrers. Yr oedd Herbert yn pleidio Cromwell ac yn gryf o blaid y polisi a gynhwysid yn y Deddfau Uno - anfonodd betisiwn ar hynny at Gromwell yn 1536; dywed ei or-ŵyr, Herbert o Cherbury, iddo ddefnyddio ei awdurdod mewn modd eang yn nwyrain, gorllewin, a gogledd Cymru ('the East, West and North Wales') - awdurdod a nerthid gan y ffaith ei fod yn aelod o Gyngor y Goror - i ddifodi, mewn modd didosturi, eithr gyda chyfiawnder ar yr un pryd, y gwrthryfelwyr, y lladron, etc.
Trwy drefnu priodasau doethion gydag aelodau prif deuluoedd y sir gadawodd yno i'w ddisgynyddion - eithr heb ychwanegu dim at ei ffortiwn ei hun - safle o bwysigrwydd a blaenoriaeth; digwyddodd hefyd i'r rhan fwyaf o'r disgynyddion brofi eu bod yn bobl o nerth corfforol a dewrder anghyffredin, fel efe ei hunan, ac yn nodedig hefyd ar gyfrif eu hirhoedledd a'u gallu epiliol. Bu farw 23 Mai 1539; dywedodd Rowland Lee amdano - ' the best of his name that I knew,' a theimlai fod ei golli ef, o safbwynt achos trefnu a chyfraith yng nghanolbarth Cymru, yn gyfystyr â cholli braich.
Yr oedd WILLIAM HERBERT, Parke, trydydd mab Syr Richard Herbert o'i wraig gyntaf, ymhlith yr ustusiaid heddwch cyntaf a ddewiswyd yn Sir Drefaldwyn (1541) o dan y Ddeddf Uno, ac efe oedd cynrychiolydd seneddol cyntaf y fwrdeisdref - bu'n feili 'r dref yn 1538; bu hefyd yn aelod seneddol dros y sir yn 1545 a 1547, yn siryf sir Drefaldwyn yn 1547 a Sir Aberteifi yn 1549.
Eithr cymerwyd lle dylanwad Herbertiaid Parke gan eiddo plant Syr Richard Herbert o'i ail wraig. Yr hynaf o'r rhain oedd EDWARD HERBERT, Trefaldwyn a Blackhall (1513 - 1593). Fe'i cysylltodd ef ei hun â'i gyfyrder William Herbert, iarll 1af Pembroke (o'r ail greadigaeth), y gŵr a etifeddodd ddylanwad teulu Raglan yng nghanolbarth Cymru, a bu'n gwasnaethu dano yn erbyn gwrthryfelwyr y gorllewin yn nheyrnasiad Edward VI (1548) ac yn ben ar 500 o wŷ'r o ganolbarth Cymru yn erbyn y Ffrancwyr yn nheyrnasiad Mari (1557); cafodd ganddo hefyd arglwyddiaeth Cherbury (1553). Yn herwydd y cysylltiad â theulu Pembroke cafodd nawdd Robert Dudley, iarll Essex (ewythr gwraig Pembroke), daeth yn geidwad castell Holt ac arglwyddiaeth Bromfield a Iâl yn Sir Ddinbych (1570), a phan brynwyd arglwyddiaeth Powis gan fab iau Pembroke, sef Syr Edward Herbert (1587), daeth yn stiward honno ac yn gwnstabl castell Trefaldwyn. Yr oedd yn siryf yn 1557 a 1568, ac, yn ddiweddarach, yn ' custos rotulorum,' a bu'n cynrychioli'r sir ym mhob Senedd ond tair o 1553 hyd 1588, pryd yr enillodd yr etholiad cyntaf yno y bu cystadlu ynddi, etholiad yr heriwyd ei chanlyniad yn y Star Chamber oherwydd achwyniad i'w fab-yng-nghyfraith, y siryf, ddangos unochredd.
Trwy hyn oll llwyddodd i drefnu goruchafiaeth ei deulu ynglŷn â gwleidyddiaeth boliticaidd y sir, goruchafiaeth a barhaodd hyd y Senedd Faith oddigerth am y blynyddoedd c. 1597-1629, pryd y rhennid ef rhyngddynt a Herbertiaid Powis cyn i'r rheini gael eu dyrchafu i'r bendefigaeth. Serch hyn i gyd, a serch ei safle fel 'Squire of the Body' i'r frenhines Elisabeth, edrychid arno, o leiaf hyd 1574, fel un o dri Phabydd blaenaf y sir. Parhaodd ymgyrch ei dad yn erbyn 'Outlaws and thieves' yng nghanolbarth Cymru, a llwyddodd i'r fath raddau nes y gallodd sefydlu a noddi llawer o deuluoedd newydd yn y sir ac adeiladu iddo'i hun Blas newydd (Llys Mawr, Lymore, neu Blackball), lle yr oeddid yn byw mewn dull a oedd bron â bod yn frenhinol.
Un o 11 plentyn yr Edward Herbert uchod. Y mae'n debyg iddo gael ei addysg yn Gray's Inn. Cynrychiolodd ei sir yn senedd 1586 (fe'i dewisasid dros y fwrdeisdref yn 1580 eithr diddymwyd yr ethol hwnnw) a sefydlodd linach teulu Herbertiaid Cherbury a unwyd wedi hynny â llinach Dolguog (a sefydlwyd gan ail fab Edward Herbert). Y trydydd mab oedd CHARLES HERBERT, a anwyd c. 1567; efallai iddo gael ei addysg yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen. Gyda'i gâr, Syr William Herbert (bu farw 1593), yr oedd yn un o'r sefydlwyr ('planters') yn Munster, Iwerddon. Bu'n siryf sir Drefaldwyn yn 1603. Trwy ei wraig Jane, merch Hugh ab Owen, cafodd stad gyfagos Aston, a daeth yn dad Syr EDWARD HERBERT (c. 1591 - 1657).
Daeth pedwar o feibion Richard Herbert yn enwog. Sonnir am Edward, y barwn Cherbury 1af, ar ei ben ei hun. Bu ei fab ef, RICHARD HERBERT (c. 1600 - 1655), ail farwn Herbert o Cherbury, yn cynrychioli sir Drefaldwyn yn y Senedd Fer a'r fwrdeisdref yn y Senedd Faith, gan gael ei ethol pan oedd yn ymladd yn ' Rhyfel yr Esgobion,' lle y dangosodd wrhydri eithriadol yn erbyn y Sgotiaid yn Newburn (28 Awst 1640); yn nes ymlaen, fodd bynnag, bu raid iddo wynebu achwyniad difrifol mewn llys milwrol.
Yn y Senedd dangosai ei fod yn ffafrio Strafford eithr caniatawyd iddo, pan dorrodd gwrthryfel Iwerddon allan, fynd i'r wlad honno gyda nifer o wŷr meirch (Mawrth 1642). Pan dorrodd y Rhyfel Cartrefol allan, bu ar gomisiwn yn swydd Amwythig a oedd yn darparu arfau rhyfel a gwŷr i ymladd - buasai'n ustus heddwch yn y sir honno er 1634 - ac felly bu raid iddo golli ei swydd yn Westminster (12 Medi 1642), cododd (ar ei draul ei hun, i raddau helaeth) fyddin o wŷr meirch a 1,200 o wŷr traed, a daeth, yn olynol, yn llywodraethwr Bridgnorth (17 Medi 1642) a Llwydlo (28 Medi), yn bennaeth castell Aberystwyth (12 Ebrill 1644), ac yn llywodraethwr Casnewydd-ar-Wysg (1645) - gan gasglu at ei gilydd yng Nghasnewydd filwyr o'r newydd a defnyddiau at wasanaeth y brenin, pan oedd hwnnw'n ceisio atgyfnerthion, yn ddynion a defnyddiau, ar ôl brwydr Naseby. Bu'n hebrwng y frenhines i'r pencadlys brenhinol pan ddychwelodd hi o Holland yn 1643, a chafodd ei anrhegu â gradd M.A. ('er anrhydedd') gan Brifysgol Rhydychen (21 Chwefror 1643). Talodd ddirwy o £1,000 yn 1647 er mwyn cael meddiannu ei eiddo ei hun, a'r flwyddyn ddilynol etifeddodd stadau a theitlau ei dad (6 Awst 1648). Bu farw yn Nhrefaldwyn 13 Mai 1655. Mary, merch John, iarll 1af Bridgewater, llywydd Cyngor y Goror, 1631-42, oedd ei wraig.
Pumed mab Richard Herbert (Trefaldwyn) oedd George Herbert, y bardd. Y chweched oedd Syr HENRY HERBERT (1595 - 1673). Aeth ef i Ffrainc yn llanc i ddysgu'r iaith. Am y negeseuon llysgenhadol y dywed W. R. Williams (The parliamentary history of the principality of Wales, 140) iddo eu cyflawni yno - camgymeriad yw hyn, gan mai Syr John Herbert (1550 - 1617) a'u gwnaeth; aeth Syr Henry Herbert i'r wlad honno, fodd bynnag, yn 1619 i baratoi ar gyfer llysgenhadaeth ei frawd hynaf. Cafodd ei gyflwyno i'r llys brenhinol gan ei gâr William Herbert, 3ydd iarll Pembroke, a chafodd ei wneuthur yn ' Master of the Revels,' 1623-42 a 1660-73. Bu'n cynrychioli Trefaldwyn yn Senedd 1626, eithr treuliodd weddill ei oes yn Lloegr - yr oedd priodas ffortunus mewn ystyr ariannol (1627) wedi ei alluogi i brynu cyfran ei frodyr Edward a George ym maenor Ribberford, swydd Worcester. Bu'n ymladd yn y ' Bishops' War,' 1639, a bu'n eistedd tros Bewdley yn y Senedd Fer â'r Faith (ac ar ôl yr Adferiad) eithr gadawodd ('deserted') ei sedd i ymuno â'r brenin pan dorrodd y Rhyfel Cartrefol allan, ac felly fe'i dirwywyd i'r swm o £1,330. Daeth ei fab HENRY HERBERT (bu farw 1738) yn farwn Herbert of Cherbury (o'r ail greadigaeth) yn 1694.
Treuliodd THOMAS HERBERT (1597 - c. 1642), seithfed mab Richard Herbert (fe'i ganwyd wedi marw ei dad), y rhan fwyaf o'i oes rhwng 13 a 30 oed ar y môr neu yn y fyddin; bu'n ymladd yn yr Iseldiroedd a'r dwyrain pell, aeth gyda Syr Robert Mansel i Algiers yn 1620-1, ac efe oedd pennaeth y llong a gludai'r tywysog Siarl (Siarl I wedi hynny) i Sbaen pan oedd yn ceisio'r Infanta yn wraig (1623). Ar ôl 1625 ymneilltuodd o fywyd cyhoeddus, a threulio'i amser yn ysgrifennu adroddiadau disgrifiadol a dychanol o fywyd ar y môr.
Syr EDWARD HERBERT (c. 1591 - 1657), gŵr o'r gyfraith.
Mab oedd ef i Charles Herbert, Aston (uchod), brawd iau Richard Herbert. Cafodd ei addysg yn y Queen's College, Rhydychen (1608), a'r Inner Temple (1609), ac fe'i gwnaethpwyd yn fargyfreithiwr (1618). Daeth yn aelod seneddol Trefaldwyn yn 1620, eithr wedi hynny bu'n cynrychioli etholaethau yn Lloegr, gan mwyaf o dan nawdd iarll Pembroke. Yr oedd yn edmygydd mawr o Selden erioed, ac ymunodd ag ef yn seneddau 1626 a 1628 i ymosod ar Buckingham ac yn yr ymgyrch o blaid y ' Petition of Right,' a bu'n amddiffyn Selden yn y cyngaws a ddilynodd, eithr ymheddychodd â'r llys y flwyddyn wedyn ac arweiniodd yr achos yn erbyn Prynne a'i gyd- Biwritaniaid; serch hynny, bu'n gweithredu fel bargyfreithiwr dros yr archesgob John Williams pan erlyniwyd hwnnw gan Laud.
Yn rhinwedd ei swydd fel 'Solicitor-General' (cawsai ei wneuthur yn farchog yr un pryd) bu'n amddiffyn polisi'r brenin yn y Senedd Fer; gadawodd y Faith i fod yn ' Attorney-General,' ac felly daeth yn gyfrifol am gymryd y 'Five Members' i'r ddalfa a thrwy hynny cafodd ei gyhuddo ei hunan o flaen Tŷ'r Cyffredin a'i anfon i garchar am dymor byr.
Yr oedd ym mhencadlys y brenin yn ystod y Rhyfel Cartrefol; eithr ni hoffid mohono gan y frenhines y buasai'n gyfreithiwr iddi (o 1635 hyd 1640), na chan y brenin (a wrthododd y proclamasiwn a ddrafftiasai, o'i anfodd, er mwyn cael diddymu'r Senedd Faith; barn y brenin oedd: ' He no more understood what the Meaning of it was, than if it was in Welsh, which was the language of the Attorney's Country'); ni hoffid mo Herbert ychwaith gan Hyde, ei gyd-ymgeisydd yn y gyfraith, a achubai bob cyfle i'w waradwyddo. Cafodd rywun mwy cydnaws yn y tywysog Rupert, gyda'r hwn y ffodd o'r wlad yn 1649 i fod ill dau yn achos ychwaneg o gwerylon neu ddadlau yn llys yr alltudion hyd nes y ceisiodd Siarl II ei fodloni trwy gynnig iddo'r swydd (mewn enw yn unig) o Arglwydd Geidwad y Sêl Fawr (16 Ebrill 1653); eithr bu raid i'r brenin dderbyn ei ymddiswyddiad ymhen y flwyddyn (Mehefin 1654), a bu Herbert farw ym Mharis, yn dlawd ac yn alltud, Rhagfyr 1657. Cydnabyddid ei unionder yn lled gyffredinol, a bod ganddo allu mawr fel cyfreithiwr, eithr yr oedd ei gogddysgeidiaeth ynghyd â'r balchter a'r ysbryd ymladdgar a oedd yn draddodiad yn ei deulu yn ei wneuthur yn ddyn anodd cydweithio ag ef.
Bu ei fab hynaf, ARTHUR HERBERT (1647 - 1716), iarll Torrington, yn swyddog uchel yn y llynges o dan Iago II nes y collodd ei le am wrthwynebu polisi'r brenin; bu'n helpu i ddwyn William III drosodd yn 1688, ac efe oedd pennaeth y llynges hyd nes y cyrhaeddwyd Beachy Head (1690).
Dilynodd yr ail fab, Syr EDWARD HERBERT (1645 - 1698), iarll Portland, yng nghamre ei dad, a dilynodd Syr George Jeffreys fel prif ustus cylchdaith Caer o'r Sesiwn Fawr (1683) a phrif ustus llys mainc y brenin (1685); wedi iddo golli ffafr Iago II am na chaniatâi ei gydwybod, fel gŵr o'r gyfraith, iddo gymeradwyo rhai o amcanion mwyaf mympwyol y brenin, fe'i dilynodd i alltud serch hynny, gan ddyfod yn arglwydd (mewn enw) ac yn Arglwydd Ganghellor hyd nes y cymerwyd ei swydd oddi arno am ei fod yn Brotestant (1692). Bu farw yn S. Germain, Tachwedd 1690.
Collodd y trydydd mab, CHARLES HERBERT, ei fywyd wrth wasanaethu William III yn y rhyfel yn Iwerddon (1691). Yr oedd y tri yn ddiblant a daeth llinell Herbertiaid Aston i'w therfyn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.