LEE (LEGH), ROWLAND (bu farw 1543), esgob Coventry a Lichfield (1534-43) a llywydd cyngor gororau Cymru (1534-43)

Enw: Rowland Lee
Dyddiad marw: 1543
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob Coventry a Lichfield (1534-43) a llywydd cyngor gororau Cymru (1534-43)
Maes gweithgaredd: Crefydd; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: William Llewelyn Davies

Er nad oedd Rowland Lee yn Gymro - o ogledd Lloegr yr oedd ei dad a'i fam - rhaid ei gynnwys yma oblegid y gwaith a wnaeth pan fu'n llywydd cyngor y gororau. Ceir manylion ei yrfa yn y D.N.B. Bu'n gweithredu dan Cardinal Wolsey pan oeddid yn diddymu rhai o'r mynachlogydd, a chawsai brofiad helaeth mewn gwaith arall hefyd dros Lywodraeth Lloegr cyn cael ei ethol yn 1534 yn esgob Coventry a Lichfield (a gynhwysai hefyd y pryd hynny yr hyn a ddaeth yn esgobaeth annibynnol Caer) ac yn llywydd cyngor y goror yn Llwydlo - gan ddilyn John Voysey, esgob Exeter, yn yr ail swydd. Yr oedd pethau wedi mynd yn ddrwg yng nghyfnod Voysey, a chynhysgaeth o afreoleidd-dra a gafodd Lee. Pan ddechreuodd ar ei waith mynnodd roddi mewn grym fesurau cryfion i ddifodi pob math ar dorr cyfraith; cafodd hyd yn oed awdurdod i gosbi drwgweithredwyr â chrogi. Ysgrifennai'n wastad at Thomas Cromwell, a rhydd ei lythyrau (sydd yn y Public Record Office, Llundain) ddarluniad pur lawn o'i anawsterau a'r modd y deliai â hwynt. Cafodd y gair o fod yn llym iawn eithr dylid cofio natur y broblem gas a'i hwynebai yn wastad. Credir yn bur gyffredin mai Lee a fu'n gyfrifol am beri i Gymry'r cyfnod newid eu dull o alw eu hunain a mabwysiadu cyfenwau (gweler Ellis, Original Letters, III, iii, 13). Arferid credu mai ar gyngor Lee y trefnodd y brenin Harri VIII i ychwanegu at rif y siroedd a oedd eisoes yng Nghymru; mewn gwirionedd protestiodd Lee yn gryf yn erbyn Deddf 1536 a drefnodd bod Cymru gyfan yn cael ei rhannu'n siroedd ag iddynt ustusiaid heddwch fel yn Lloegr; a phan oeddid yn trefnu, yn Ebrill 1540, i wneuthur arglwyddiaeth Dinbych yn rhan o sir dywedodd ef wrth Cromwell nad ydoedd yn ddoeth gwneuthur hynny. Bu farw yng 'ngholeg' S. Chad, Amwythig, 28 Ionawr 1543, a chladdwyd ef yn yr eglwys honno. Am ychwaneg o fanylion gweler David Williams, A History of Modern Wales, 1950; C. A. J. Skeel, The Council in the Marches of Wales, 1904; R. Flenley, A Calendar of the Register of the Queen's Majesty's Council in the Dominion and Principality of Wales and the Marches, 1918.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.