SKEEL, CAROLINE ANNE JAMES (1872 - 1951), hanesydd

Enw: Caroline Anne James Skeel
Dyddiad geni: 1872
Dyddiad marw: 1951
Rhiant: Anne Skeel (née James)
Rhiant: William James Skeel
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: hanesydd
Maes gweithgaredd: Addysg; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Bertie George Charles

Ganwyd 9 Chwefror 1872 yn Hampstead, lle cartrefai'r teulu yn 45 Downshire Hill, y chweched o saith plentyn William James Skeel (1822 - 1899) ac Anne, ei wraig (1831 - 1895); ganwyd y tad yn Castle Hill, plwyf Cas-lai, Penfro, yn fab i Henry Skeel, ffermwr (bu farw 1847), a daeth yn fasnachwr llwyddiannus yn Llundain, gyda swyddfeydd yn Finsbury Chambers, ac yn gyfarwyddwr y South Australian Land Mortgage and Agency Co. Ltd. Merch Thomas a Martha James o Clarbeston, Penfro, oedd y fam, a chyfnither i'w gŵr. Addysgwyd Caroline i ddechrau mewn ysgol breifat ac yna yn ysgolion uwchradd de Hampstead (c. 1884-87) a Notting Hill (1887-90), ac yng Ngholeg Girton, Caergrawnt (1891-95). Daliai ysgoloriaeth S. Dunstan a chafodd ddosbarth cyntaf dwbl, yn y clasuron yn 1894 ac mewn hanes yn 1895. Dyfarnwyd iddi wobr Agnata Butler yn 1893 ac 1894, a gwobr goffa Thérèsa Montefiore yn 1895. Apwyntiwyd hi ar staff adran Hanes coleg Westfield, Llundain, yn 1895, a bu'n ddarlithydd yno o 1895 i 1907. Wedi cyfnod o seibiant oherwydd afiechyd, dyrchafwyd hi'n bennaeth Adran, 1911-19, yn ddarllenydd a phennaeth yr Adran, 1919-25, ac Athro Hanes yn y brifysgol, 1925-29. Yr oedd yn gymrawd o'r R. Hist. Soc., 1914-28, a bu'n gweithredu ar ei chyngor ac ar ei phwyllgor cyhoeddi, 1921-27, ac yn aelod o Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, y Classical Assocn. a'r Hist. Assocn. Dyfarnwyd iddi fedal Hutchison, 1914, a gradd M.A. (Cantab), 1926, ac yr oedd yn gymrawd ymchwil anrhydeddus Yerrow yng Ngholeg Girton, 1914-17.

Ei gwaith cyhoeddedig cyntaf oedd Travel in the first century AD (1901) a ysgrifennodd gyntaf am wobr Gibson yn Girton yn 1898. Troes at astudiaethau hanesyddol Cymreig gyda chyhoeddi ei phrif waith, The Council in the Marches of Wales: a study in local government in the sixteenth and seventeenth centuries (1904), ei thraethawd am radd D.Litt. ym Mhrifysgol Llundain yn 1903, lle bu'n fyfyriwr mewnol, 1901-03. Dilynwyd y gwaith hwn gan nifer o erthyglau ac adolygiadau yn yr E.H.R., Archæologia Cambrensis, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, Transactions of the Royal Historical Society, Transactions of the Shropshire Archaeological and Natural History Society, History, a Cambridge Historical Journal Y mae'r rhan fwyaf ohonynt yn ymwneud â hanes Cymru a'r Gororau. Canmolwyd a beirniadwyd ei hail erthygl ar y diwydiant gwlân yng Nghymru (Archæologia Cambrensis, 1924) gan A.H. Dodd ac atebodd hithau. Ar y pryd, yr oedd yn fwriad ganddi ysgrifennu llyfr ar y pwnc. Cyfrannodd bennod ar Gymru dan Henry VII i Tudor Studies, gol. R.W. Seton-Watson (1924), ac i Memorials of Old Shropshire T. Auden (1908). Cafodd Wobr Gamble yn 1914 am draethawd ar ddylanwad gwaith Syr John Fortesque. Yr oedd yn un o olygyddion cyfres testunau ar gyfer myfyrwyr a gyhoeddwyd gan yr S.P.C.K. a threfnodd ddetholiadau o weithiau Gerallt Gymro a Matthew Paris ar gyfer y gyfres.

Y mae pwysigrwydd ei chyfraniad i astudiaethau hanesyddol Cymreig yn amlwg oddi wrth ei chyhoeddiadau, ac fe i cydnabyddir yn gyffredinol hyd heddiw, er fod awdurdod peth o'i gwaith wedi ei bylu gan ymchwil ysgolheigion diweddarach. Torrodd lawer o dir newydd ym meysydd hanes cymdeithasol ac economaidd Cymru pryd yr oedd y pynciau hyn yn cael eu hesgeuluso i raddau helaeth. Hi oedd un o'r merched cyntaf i ddal cadair prifysgol. Cydnabyddid yn rhwydd gan ei chydweithwyr a'i myfyrwyr ei gwasanaeth i'w choleg ac i Brifysgol Llundain, fel athrawes ddisglair a'i darlithiau'n nodedig am eu harabedd a'u hysgolheictod ac fel aelod o fyrddau a phwyllgorau'r Brifysgol. Wedi ymddeol yn 1929 symudodd o Hampstead i 34 Heald Crescent, Hendon, lle y bu'n byw'n ddirodes, braidd yn gynnil, yn gwisgo hytrach yn aflêr, gan ddadlau dros geiniogau gyda siopwyr. Edrychai ei chymdogion arni fel gwraig fechan fonheddig a welsai amser gwell. Mewn gwirionedd yr oedd yn gyfoethog iawn; yr olaf o'i theulu (buont oll farw yn ddi-briod) etifeddodd y ffortiwn a adawyd gan ei thad a'i brawd William Henry Skeel (bu farw 1925 gan adael £305,000). Bu farw 25 Chwefror 1951 ac amlosgwyd y corff yn Golders Green. Prisiwyd ei stad yn £269,386 gros. Yn ei hewyllys gadawodd symiau mawr i elusennau eglwysig, a'r gweddill, dros £50,000, i Goleg Westfield, lle y mae llyfrgell wych yn dwyn ei henw. Ar ôl ei marw dadlennwyd iddi roi'n ddi-enw yn ystod ei bywyd, tua £30,000 i deuluoedd tlawd ac i elusennau.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.