JEFFREYS, GEORGE, y barwn Jeffreys 1af ('first baron Jeffreys of Wem') (1645 - 1689), barnwr

Enw: George Jeffreys
Dyddiad geni: 1645
Dyddiad marw: 1689
Priod: Anne Jeffreys (née Bludworth)
Plentyn: John Jeffreys
Rhiant: Margaret Jeffreys (née Ireland)
Rhiant: John Jeffreys
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: barnwr
Maes gweithgaredd: Cyfraith
Awdur: Arthur Herbert Dodd

Ganwyd 15 Mai 1645 yn Acton, Wrecsam, chweched mab John Jeffreys a'i wraig Margaret, merch Syr Thomas Ireland, Bewsey, Lancashire ('a very pious good woman ' yn ôl ei mab). Ei daid oedd John Jeffreys (bu farw 1622), prif farnwr cylchdaith Môn y sesiwn fawr; ef oedd y cyntaf i fabwysiadu cyfenw'r teulu, ef a osododd sylfeini stad Acton trwy ychwanegu a chadarnhau'r tiroedd a ddaliai y rhai hyn, disgynyddion Tudur Trefor (gyda'u harwyddair ' Pob dawn o Dduw'), yng nghaeau cyffredin ('comin') Wrecsam; trwy briodi, yn drydedd wraig iddo, weddw Syr Edward Trevor, Brynkinallt, ychwanegodd gyswllt â hen deulu lleol arall. Cafodd George Jeffreys ei addysg yn y blynyddoedd 1652-9 yn hen ysgol ei daid, sef ysgol Amwythig, a Philip Henry, cyfaill ei fam, yn ei arholi o bryd i bryd ynglyn â'i gynnydd yn yr ysgol; wedyn yn ysgolion S. Paul's (1659) a Westminster (1661); Trinity College, Caergrawnt (1662) (eithr ni chymerodd radd); ac yn yr Inner Temple (1663). Dechreua ei yrfa gyfreithiol yn ninas Llundain pan ddaeth yn ' Common Sergeant ' (1671). Pan ddewiswyd William Dolben yn gofiadur yn hytrach nag ef yn 1676, troes ei wyneb tua'r llys; daeth yn ' Solicitor General ' i'r dug York (y brenin Iago II wedi hynny) ac yn farchog yn 1677, yn gofiadur Llundain pan ymddiswyddodd Dolben (1678), yn brif farnwr cylchdaith Caer yn 1680, yn bleidydd ar ran y Goron yng Nghyngor y Goror yn Llwydlo, ac yn ustus heddwch dros Sir y Fflint, ac yn farwnig yn 1681. Gan iddo gefnogi amcanion y brenin pan oedd Siarl II yn llywodraethu ar ei gyfrifoldeb ei hun (1681-5), a Iago II hefyd yr un modd, fe gododd yn gyflym i fod yn arglwydd brif farnwr ac yn aelod o'r Cyfrin Gyngor (1683) ac o Dy'r Arglwyddi, ac yn arglwydd ganghellor (1685); eithr glynodd yn gadarn wrth Eglwys Loegr, a hyn, y mae'n debyg, ydoedd y rheswm paham y penderfynodd Iago na allai ei wneuthur yn is-iarll Wrecsam ac yn iarll Fflint. Trosglwyddodd y sêl fawr o'i ofal o'r diwedd ym mis Tachwedd 1688 - dyma'r sêl a daflodd Iago i afon Thames; eithr methodd yn ei ymdrech i ddilyn y brenin dros y môr, a bu farw yng ngharchar ar 18 Ebrill 1689. Ceir manylion am ei yrfa yn y D.N.B.

Er gwaethaf y gwenwyn gwleidyddol a oedd ynddo a'i dymer wyllt ac afreolus (a achosid i raddau gan y clefyd poenus y bu farw ohono yn annhymig pan nad oedd ond 44 oed), rhoddir canmoliaeth uchel i Jeffreys fel gwr o'r gyfraith gan gyfreithwyr eraill, e.e. gan yr arglwydd Birkenhead yn ei Fourteen English Judges, 1926, 84-6, 96-8. O safbwynt ei alwedigaeth, ac, ar y cyntaf, ar yr ochr wleidyddol, yr oedd yn chwyrn o elyniaethus yn erbyn Syr William Williams (1634 - 1700); ceisiodd ddistrywio gyrfa hwnnw trwy ei ddirwyo yn drwm am gyhoeddi 'libel' yn 1680, a llawenychodd hefyd pan fethodd Williams, a oedd yn erlyn yn achos y Saith Esgob (1688), a chael eu dyfarnu'n euog. Un o'r saith hyn oedd William Lloyd, esgob Llanelwy, gwr yr oedd Jeffreys yn noddwr iddo ac yntau'n meddwl yn dda o'i noddwr, yn union fel y gwnâi cefnder Jeffreys, Syr John Trevor (1637 - 1717), a noddid hefyd gan Jeffreys. Eithr siomwyd yr esgob, fodd bynnag, pan obeithiodd y byddai i Jeffreys, yn rhinwedd ei swydd fel barnwr Caer, wrthweithio llacrwydd ustusiaid heddwch sir Ddinbych (a Griffith Jeffreys, siryf 1683, a nai i'r barnwr yn eu plith) trwy gymryd mesurau cryfion yn erbyn yr Anghydffurfwyr lleol; yn sesiwn yr Wyddgrug, 1682, rhoes ataliad ar y cyngaws yn erbyn Philip Henry a gadawodd i Ambrose Lewis, cyfaill Henry, fynd yn rhydd ar ôl ei ddwrdio yn unig; ysgolfeistr Piwritanaidd oedd Lewis a gydymffurfiasai yn 1662 ond a ddrwgdybid wedi hynny - ac yr oedd hyn i gyd yn digwydd ar adeg pan oedd peth cythrwfl oherwydd araith a draddodasai dug Monmouth yng Nghaer.

Wedi marw ei wraig gyntaf priododd Jeffreys Anne, gweddw Syr John Jones, Ffonmon, Sir Forgannwg, mab Philip Jones (1618 - 1674), a oedd yn un o wyr pennaf Cromwell - yr 'arglwydd' Jones. Daeth yr arglwyddiaeth i ben pan fu farw John Jeffreys, mab yr arglwydd Jeffreys 1af; priododd ef ferch Philip, 7fed arglwydd Pembroke. Dilynydd John Jeffreys yn y llinach benteuluol ydoedd ei nai, Syr GRIFFITH JEFFREYS (bu farw 1695), ' Jacobite,' a ail-adeiladodd Acton Hall - yr oedd ei wraig, yr arglwyddes Dorothy Jeffreys (bu farw 1729), yn noddwr mawr i Wrecsam; eithr daeth y llinach i ben yn 1714 a gwerthwyd y stad yn 1747. Y mae darlun yr arglwydd Jeffreys 1af, gan Syr Godfrey Kneller, a arferai fod yn Acton, yn awr yn Erthig, gerllaw Wrecsam.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.