DOLBEN (DOULBEN, DOULBIN, DAULBIN), Segrwyd, sir Ddinbych

Ymsefydlodd y teulu hwn (nad yw, mae'n debyg, o ddechreuad Cymreig —’ Doulben’ ydyw'r ffurf a geir yn y cofysgrifau cynharaf) yn sir Ddinbych i gychwyn ar ôl i'r brenin Harri VII roddi Segrwyd i Robert Dolben yn dâl am ei gymorth yn Blackheath yn erbyn y gwrthryfelwyr o Gernyw (1497). Daeth ei ŵyr, o'r un enw, yn gofiadur a stiward Dinbych, a dechreuodd eraill o'r teulu fasnachu yno, gan roddi i'r fwrdeisdref do ar ôl to o gynghorwyr a swyddogion trefol.

Mab oedd DAVID DOLBEN (1581 - 1633), esgob Bangor, i Robert Wyn Dolben (gorŵyr y Robert Dolben cyntaf), a Jane, merch Owen ap Reinallt, Llugwy. Aeth i Goleg S. Ioan, Caergrawnt, yn 1602, gydag un o'r ysgoloriaethau a sefydlasid gan Dr. John Gwyn (bu farw 1574), a graddiodd yn B.A. 1606, M.A. 1609, a D.D. 1626. Wedi ei ordeinio gan George Abbot, esgob Llundain, 1607, bu'n ficer Hackney (1619), Llangernyw (1621), canon Llanelwy (1626); cafodd ei ethol yn un o brif fwrdeiswyr Dinbych yn 1627. Pan fu farw Lewes Bayly etholwyd ef yn esgob Bangor, fe'i cysegrwyd gan Abbot, erbyn hyn yn archesgob Caergaint (Mawrth 1632), ac ymddiswyddodd o ofalaeth Llangernyw. Yr oedd yn weinydd cryf, a gofalai na châi dylanwad teuluol sefyll yn ffordd disgyblaeth eglwysig; eithr fe'i cymerwyd yn glaf fis Mai 1633, ymddiswyddodd o'i swyddi eraill, a bu farw fis Tachwedd yr un flwyddyn yn Bangor House, tŷ esgobion Bangor yn Shoe Lane, Holborn. Claddwyd ef yn Hackney, ei hen eglwys, lle y mae mae coffa iddo (gweler copi o'r arysgrif yn Browne Willis, Bangor, 112). Geilw Anthony Wood ef yn ‘learned,’ ond nid oes dim o'i waith wedi ei gadw ar wahân i rai caniadau a ganodd pan oedd yn efrydydd, er cof am Syr Edward Lewkner (bu farw 1605), perthynas i Syr Richard Lewkner, y barnwr Cymreig ac ynad heddwch yn Sir Benfro (Williams, Welsh Judges, 33; Venn, Alumni Cantab., I, iii,82). Fodd bynnag, y mae'r ffaith iddo adael arian i'w goleg i brynu tua 300 o lyfrau Hebraeg yn awgrymu fod iddo ddiddordebau ysgolheigaidd. Gwelir ei hewyllys yn N.L.W. MS. 1600 (423). Nid ydyw John Williams (Ancient and Modern Denbigh, 206) yn dyfynnu unrhyw ffynhonnell pan yw'n disgrifio Dolben fel’an able Welsh scholar and preacher.’ Mynegwyd iddo enwi Edmund Griffith, deon Bangor, i'w ddilyn fel esgob, ond gwadwyd hyn yn ei ddyddiau ef ei hun (Calendar of State Papers, Domestic Series, 1633-4, 318).

Ni adawodd yr esgob blant. Daeth ei frawd JOHN DOLBEN, Caeau Gwynion, trwy ei ferch Emma (a briododd y Parch. Hugh Williams, Llantrisant), yn daid Syr William Williams (1634 - 1700), llefarydd Tŷ'r Cyffredin. Bu brawd arall, WILLIAM DOLBEN (a fu farw 1643), yn siryf sir Ddinbych yn 1639 ar ôl gwasnaethu bwrdeisdref Dinbych a chael pardwn (1625) gan Siarl I am droseddau yn erbyn personau (‘crimes of violence’); collodd ei swyddi, fel dyn (’ common barrator’) cynhennus, yn 1638, ond cafodd hwy yn ôl y flwyddyn wedyn. Bu mab hynaf William, sef JOHN DOLBEN (bu farw 1662), a gafodd yr ystad, yn is-gyrnol ym myddin Siarl I; dirwywyd ef (yn ôl degfed) i'r swm o £107 gan y Senedd yn 1647 (Cal. Ctte. for Compounding, iii, 1718); cymerth dau aelod o'r teulu ran yn yr ymgais i gymryd castell Dinbych dros y brenin ym mis Mai 1648, a bu'r cyrnol Dolben yn weithgar unwaith eto o blaid y brenin alltud yng ngwrthryfel Booth yn 1659. Yn 1684 yr oedd JOHN DOLBEN (bu farw 1709), mab yr is-gyrnol, yn un o ddeg ar gomisiwn tiroedd cudd y Goron yn sir Ddinbych (Cal. Treasury Books, vii, 1132). Gydag ef daeth y llinell wrywol uniongyrchol i ben, ac aeth yr ystad, trwy ei ferch, i'w gŵr hi, John Mostyn, gor-ŵyr Syr Roger Mostyn (bu farw 1641), ac arloesydd y diwydiant brethyn deuled yn Ninbych (1749- c. 1770).

Parhaodd canghennau eraill o'r teulu yn flaenllaw ym mywyd cyhoeddus a gwleidyddol y sir hyd y 18fed ganrif — rhai aelodau ohonynt yn dal swyddi bychain o dan Gyngor (Gororau) Cymru a adnewyddwyd ar ôl yr Adferiad (Calendar of State Papers, Domestic Series, 1660-1, 104; 1667, 139; Cal. Treas. Books., iv, 751; vi, 534; vii, 543; ix, 1845) ac eraill yn cymryd rhan ym mywyd bwrdeisdrefol Rhuthyn (W. M. Myddelton, Chirk Castle Accounts, 1666-1753, 352, 357).

Eithr i gangen a symudasai i Sir Benfro yr oedd y rhai mwyaf blaenllaw ar ôl amser yr esgob yn perthyn. Sefydlydd y gangen hon oedd John Dolben, marsiandwr, Hwlffordd, gŵr na wyddys i sicrwydd beth oedd ei berthynas â'r hen deulu ond a briododd Alice, merch Richard Myddelton, Dinbych, a chwaer Syr Hugh Myddelton. Mab iddo oedd WILLIAM DOLBEN (1588 - 1631), ficer Stackpool Elidyr, Sir Benfro (1616), ficer Lawrenny, Sir Benfro (1620), rheithor Llanynys, sir Ddinbych (1623), a rheithor Stanwick a Benefield, Northants (1623); priododd Elisabeth, merch y capten Hugh Williams, Wig, milwr crwydrol (A.P.C., 1621-3, 368), ac Elisabeth, nith yr archesgob John Williams. Trwy ddylanwad ewythr ei wraig (a oedd yn esgob Lincoln ar y pryd) fe'i gwnaethpwyd yn ganon Caistor yn eglwys gadeiriol Lincoln (1629), ac ychydig cyn ei farw dywedwyd iddo gael ei enwi am esgobaeth yng Nghymru — eithr nid i Fangor (fel yr awgrymir yn D.N.B.), oblegid tua mis ar ôl iddo ef farw y daeth y sedd honno'n wag. Daw ei gydymdeimlad â'r Piwritaniaid — peth anghyffredin yn ei deulu ef — i'r golwg yn ei gymynrodd o £20 tuag at y ‘darlithiau’ a sefydlwyd yn Hwlffordd yn 1630 gan ewyllys ei gefnder William Myddelton, marsiandwr, Llundain (Report on Charities, rhif 28, 1834, 726; N.L.W., Haverfordwest MS. 390a). Ceir erthyglau llawn ar ei ddau fab, JOHN DOLBEN, archesgob Caerefrog, a Syr WILLIAM DOLBEN, barnwr, ac ar rai o ddisgynyddion enwog yr archesgob, yn y D.N.B. — y mae a fynno'r hyn a ddywedir isod amdanynt â'u cysylltiadau Cymreig, gan mwyaf.

Ganwyd JOHN DOLBEN (1625 - 1686), archesgob Caerefrog, yn Stanwick. Fe'i derbyniwyd i Ysgol Westminster yn ysgolor y brenin — ei hen-ewythr yr archesgob John Williams yn ei enwebu. Yn 1640 aeth i Christ Church, Rhydychen; ymyrrwyd ar ei astudiaethau yno gan iddo fynd i ymladd ym mhlaid y brenin (1642-6), a bu hynny'n achos i ymwelwyr y Senedd (‘the parliamentary visitors’) beri iddo adael y brifysgol (1648) a mynd i lochesu (c. 1653-5) yn Gwydir, Llanrwst. Yno, gan Grace, chwaer ei fam, a'i gŵr Syr Owen Wynn (gweler o dan Wynniaid Gwydir), gwnaethpwyd ef yn oruchwyliwr yr ystad, a rhoes ei gâr Syr Thomas Myddelton, cadfridog ym myddin plaid Cromwell, fenthyg arian iddo. Ordeiniwyd ef yn ddirgel yn Rhydychen yn 1656 a chafodd ei ddyrchafu yn yr Eglwys wedi'r Adferiad — daeth yn ddeon Westminster (1662), yn esgob Rochester (1666), ac yn archesgob Caerefrog (1683). Yr oedd iddo enw da fel pregethwr a gweinydd, eithr dywed Anthony Wood (Ath. Oxon., ii, 683) fod ganddo fwy o ‘hyfrdra a hunan-hyder’ nag o ysgolheictod ei hen-ewythr a'i ragflaenydd yn Westminster a Chaerefrog, sef John Williams. Mewn ystyr wleidyddol ni ellid ei lwgrwobrwyo; yr oedd yn dŵr cadarn yn Nhorïaeth Eglwys Loegr a gynrychiolid gan Clarendon a Danby, ac fe gymerodd ran bwysig yn y gwaith o ailsefydlu'r Eglwys ar ôl cyfnod y Weriniaeth. Parhaodd i ysgrifennu trwy gydol ei oes at yr arglwyddes Grace Wynn; deuai hi a'i chymydogion ar ei ofyn o bryd i bryd am ei gymorth pan oedd anghydwelediad yn yr esgobaeth yr oedd hi yn byw ynddi neu pan geisiai rhywrai o'r gymydogaeth gael rhyw swydd neu'i gilydd. Eithr ni chadwyd y cysylltiad â'r cylch hwnnw gan ddisgynyddion yr archesgob.

Aeth Syr WILLIAM DOLBEN (bu farw 1696), brawd iau yr archesgob, i'r Inner Temple yn 1648, a daeth yn fargyfreithiwr yn 1655. Fe'i gwnaethpwyd yn ysgrifennydd i Edward Montagu, ail iarll Manchester, cadfridog ym myddin Cromwell a wnaethpwyd yn arglwydd siambrlen wedi'r Adferiad. Pan oedd yn dal y swydd hon yr oedd yn wastad yn derbyn ceisiadau oddi wrth Gymry a oedd yn awyddus am swyddi; dywedir iddo lwyddo i gael dyfarniad yn y llysoedd barn a olygai fod Dr. Michael Roberts, cyn-brifathro Coleg yr Iesu, Rhydychen, yn cael ei le fel cymrawd ei goleg yn ôl. Ym mis Chwefror 1676 dewiswyd Dolben (ar gymeradwyaeth y Goron) yn gofiadur dinas Llundain — efe, yn hytrach na Syr George Jeffreys, yn rhinwedd ei swydd fel serjeant y brenin (1677), a agorodd ar ran y Goron yn y cyngaws yn erbyn Philip, 7fed iarll Pembroke, a gyhuddid o ddynladdiad (1678). Daeth yn farnwr ‘puisne’ llys mainc y brenin (Hydref 1678), a bu iddo ran mewn amryw dreialon gwleidyddol, rhai ohonynt mewn cysylltiad â'r ‘Popish Plot’; fe'i henwogodd ei hun ynddynt ar gyfrif ei wybodaeth a'i uniondeb er y cyfrifid ef yn biwus ac yn drahaus. O ran ei wleidyddiaeth tueddai i goleddu'r un syniadau â'i frawd, eithr barnwr ydoedd yn bennaf peth; collodd ei swydd fel barnwr (1683) oblegid fod ganddo amheuon, fel gŵr y gyfraith, ar bolisi'r brenin tuag at y bwrdeisdrefi, eithr cafodd ei le'n ôl (1689) ar ôl Chwyldroad 1688. O'r adeg y daeth yn fargyfreithiwr hyd ei wneud yn farnwr yr oedd yn gynrychiolydd cyfreithiol yn Llundain i deulu Gwydir, yn gohebu mewn modd cyfeillgar â'r arglwyddes Grace Wynn ac yn eiddigus pan geisiai ei frawd, yr archesgob, gymryd ei le fel ymgynghorwr cyfreithiol i'r teulu hwnnw. Bu'n cynorthwyo John Hacket yn ei ymchwil am ddefnyddiau Cymreig ar yrfa John Williams, i'w rhoddi yng nghofiant yr archesgob (1660).

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/