Ganwyd yn Gwydir, Llanrwst, y pumed a'r ieuengaf o feibion John Wyn ap Meredydd, a oedd yn disgyn yn uniongyrchol o Owain Gwynedd. Ei frawd hynaf, Morys, ydoedd tad Syr John Wynn o Wydir; daeth ei frawd Robert (y gŵr a adeiladodd y Plas Mawr, Conwy) yn ail ŵr Dorothy Williams, nain yr archesgob John Williams.
Aeth John Gwyn i Goleg Queens ', Caergrawnt, yn 1545, a graddiodd (B.A.) yn 1548; yna cafodd ei ethol yn gymrawd yng Ngholeg S. Ioan lle y cymerodd ei M.A. yn 1551 ac LL.D. yn 1560. Pan fu Henry a Charles Brandon, dugiaid Suffolk ac aelodau o'r coleg, farw o'r 'clefyd chwysol' ('sweating sickness') yn 1551, yr oedd Gwyn yn un o'r rhai a ysgrifennodd ar gân er coffa amdanynt. Bu'n proctor yn 1555-6 eithr nid cywir mo'r hyn a ddywed ei nai Syr John (yn ei The history of the Gwydir family ) mai efe, fel proctor, a fu'n gyfrifol am gymryd John Dudley, dug Northumberland, i'r ddalfa pan fethodd yn ei gais i wneuthur Lady Jane Grey yn frenhines - cymerodd hynny le ddwy flynedd yn gynt ac o dan broctoriaid eraill. Yn 1550, pan nad oedd eto ond B.A., cafodd sedd canon Llanfair Dyffryn Clwyd yn eglwys gadeiriol Bangor - trwy brydles ar law'r cabidwl, efallai; rhoes hi i fyny'r flwyddyn ddilynol er mwyn i'w ail frawd Griffith ei chael, eithr cymerodd hi eilwaith yn 1555 a'i chadw hyd ei farw, gan wrthwynebu pob ymgais a wnaethpwyd gan yr archesgob Parker i'w gael i'w rhoddi i fyny. Yn 1556 fe'i dewiswyd yn rheithor di-ofal Llanrhaeadr yng Nghinmerch. Adroddodd yr esgob Rowland Meyrick ei fod yn un o bedwar cyfreithiwr anordeiniedig yn dal bywiolaethau yn yr esgobaeth. Ymddengys na ddeuai byth i'r fywoliaeth gan iddo aros yng Nghaergrawnt nes gorffen ei waith ar gyfer gradd doethur a symud wedi hynny i Lundain (Paternoster Row); yno fe'i derbyniwyd yn 1560 yn un o'r pleidwyr yng Ngholeg y Doethuriaid yn y Gyfraith; y flwyddyn ganlynol cafodd ei dderbyn i'r Middle Temple. Manteisiodd ar ei ddylanwad yn y brifddinas i hyrwyddo buddiannau ei deulu yng Ngogledd Cymru. Bu'n aelod dros fwrdeisdref Aberteifi yn seneddau 1553 a 1563, a thros sir Gaernarfon yn 1572. Cafodd gan y Goron (yn 1563) brydles un-mlynedd-ar-hugain ar y swydd o raglaw sir Aberteifi (gan dalu 'rhent' o 20 nobl y flwyddyn amdani), tua'r un adeg cafodd arglwyddiaeth Maenan (rhan o stadau abaty diddymedig Aberconwy); maentumid yn ddiweddarach gan Dr. Elis Prys iddo hefyd geisio (trwy iarll Leicester, arglwydd Denbigh, 1564) cael trosglwyddo cwmwd Ardudwy iddo. Dywed Syr John Wynn ei fod yn 'learned and a Wise Man and a bountifull housekeeper.'
Bu farw, yn ddi-briod, yn 1574 a chanddo eiddo lawer ('gathered a great Estate') a adawodd i'w frawd a'i ysgutor, Griffith; yn ei ewyllys, 1 Mehefin, 1574, yr oedd wedi gwneuthur trefniant (fe'i dyfynnir yn Cal. of Wynn Papers, 54; Baker, Hist. of St. John's College, i, 421-2; Barber and Lewis, Hist. of Friars' School, 170-1), i £40 y flwyddyn allan o stad Maenan fynd at gynnal tri chymrodor a chwech ysgolor yng Ngholeg S. Ioan - a bod blaenoriaeth i'w roddi, ynglŷn â'r ethol yn gymrodyr, i rai o Lanfair a Llanrhaeadr, cymydau Maenan a Nanconwy, a siroedd Caernarfon, Dinbych, a Meirionnydd, ac, ynglŷn â'r ysgoloriaethau, i ddisgyblion Ysgol y Friars, Bangor. Gwnaethpwyd ymdrechion, eithr yn ofer, i wrthwynebu'r ewyllys; haerid na ellid gadael tiroedd y Goron mewn ewyllys heb ganiatâd oddieithr i'r aer-yn-âl-y-gyfraith; cytunodd Griffith Wynn a'i gyd-ysgutor y doctor Henry Jones i drefnu mai dau a gâi eu dewis yn gymrodyr a thri yn ysgolorion - yr oedd y ddau gymrodor i'w hethol y tro cyntaf gan Griffith Wynn ac yna gan y coleg o blith 'ysgolorion Gwyn ' neu o ysgolion Friars neu Ruthyn, a'r ysgolorion gan Wynn a'i etifeddion-yn-ôl-y-gyfraith mewn cydymgynghoriad â meistri ysgolion Friars a Rhuthyn, ac os methai'r modd hwn yr oedd hawl gan y coleg i ethol rhai o'r tair sir a enwyd. Ymhlith y rhai a allodd fanteisio ar y gymynrodd yr oedd mab Griffith, OWEN GWYN, meistr Coleg S. Ioan, ei or-or-nai, John Williams, archesgob York, David Dolben, esgob Bangor, ac amryw o aelodau teulu Bodwrda. Mewn canlyniad i orchymyn yn y Siansri yn 1650 diddymwyd y cymrodoriaethau, oherwydd na allai'r stad eu cynnal mwyach, ond cadwyd yr ysgoloriaethau, a hyd at yr Adferiad rhoddid y flaenoriaeth i'r ysgolion yn eu cais am gymrodoriaethau gwreiddiol y brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.