LEWIS, Syr HENRY (1847 - 1923), lleygwr blaenllaw gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yng Ngogledd Cymru

Enw: Henry Lewis
Dyddiad geni: 1847
Dyddiad marw: 1923
Priod: Anne Lewis (née Edwards)
Rhiant: Thomas Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: lleygwr blaenllaw gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Mab i THOMAS LEWIS (1821 - 1897), a oedd yntau'n fab i Thomas Lewis o Lanwenllwyfo a Chemaes ym Môn (J. E. Griffith, Pedigrees, 257). Sefydlodd Thomas Lewis yr ail yn 1840 fasnach ŷd a blawd, lwyddiannus iawn, ym Mangor. O 1886 hyd 1894 bu'n aelod seneddol dros Fôn, gan ddilyn Richard Davies. Teithiodd gryn lawer, a byddai'n darlithio mor fynych ar Balesteina nes cael yr enw ' Thomas Palestina Lewis.' Bu farw 2 Rhagfyr 1897.

Ganwyd Henry Lewis ym Mangor, 21 Tachwedd 1847, ac addysgwyd yn Ysgol Friars, Bangor, ac yng Ngholeg y Methodistiaid Calfinaidd, y Bala. Tyfodd yn ŵr pwysig iawn ym Mangor, ac yn ei gyfundeb yng Ngogledd Cymru. Bu'n gymwynaswr mawr i Goleg y Gogledd, yn enwedig pan aethpwyd ati i sicrhau tir at godi adeiladau newyddion y coleg. Cyhoeddodd yn 1901 (gyda H. Barber) The History of Friars School, Bangor, ac yn 1907 lyfr ar Eglwys y Tabernacl, Bangor, sy'n cynnwys hefyd lawer o wybodaeth ddefnyddiol ar hanes y dref. Priododd (1872) ag Anne, ferch Roger Edwards; cawsant saith o blant. Urddwyd ef yn farchog yn 1911. Bu farw 16 Tachwedd 1923.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.