Ganwyd yn Llangefni, 29 Tachwedd 1818. Ei dad oedd Richard Davies (1778 - 1849) o Langristiolus, siopwr yn Llangefni; a'i fam oedd Anne Jones o Goed Hywel gerllaw. Cawsant dri mab: John (bu farw 1848, y craffaf o'r brodyr, meddir), Robert (1816 - 1905), a Richard; bu'r tri yn yr Ysgol Genedlaethol yn Llangefni. Llwyddodd masnach y tad gymaint erbyn tua 1830 fel yr agorodd ganghennau dan ofal ei feibion - dan John yn y Traeth Coch, dan Robert yng Nghaernarfon, a than Richard yn hen borth Porthaethwy a oedd bellach ar drothwy cyfnod newydd dan yr enw ' Menai Bridge.' Llwyddodd cangen y Borth gymaint fel y rhoddwyd y lleill i fyny, a chanolbwyntiodd y teulu ar Borthaethwy; yno, o fod yn fasnachwyr llwyddiannus iawn mewn coed tramor, tyfasant yn berchnogion llongau ar raddfa fawr, a chasglu cyfoeth dirfawr.
Ar sail hyn y daeth Richard Davies i'r amlwg mewn gwleidyddiaeth. Y pryd hynny, yr oedd Radicaliaid ac Ymneilltuwyr Cymru 'n dyheu fwyfwy am ryddhad oddi wrth iau Torïaeth a'r Eglwys Wladol, y buont dani gyhyd. Yn herwydd ei gyfoetu, ymddangosai Davies yn wr addas i ymgeisio am sedd yn y Senedd, a phenderfynwyd ei ddwyn i'r maes ym Mwrdeisdrefi Caernarfon yn etholiad 1852 - ceir hanes yr ymgais, gan Owen Parry, yn y gyfrol Er Clod (1934, gol. T. Richards), 135-50. Hen sedd Dorïaidd oedd hon, dan fodiau uchelwyr y cylch, a methodd Davies - yr oedd mwyafrif o 93 yn ei erbyn. Eto, ystyrir etholiad 1852 yn garreg filltir yn hanes gwleidyddol Cymru yn y 19eg ganrif Ond daeth cyfle Davies yn nes ymlaen, yn etholiad hanesyddol 1868, pan ddaeth i'r maes dros Ryddfrydwyr Môn. Teulu Bwcleaid Baron Hill (Biwmares) a oedd wedi meddiannu'r sedd ers cyn cof, naill ai'n bersonol neu trwy wyr o'u dewis hwy; ond erbyn hyn yr oedd y llanw Radicalaidd wedi codi'n gryf, a barnodd y Bwcleaid hi'n ddoeth gilio o'r frwydr. Daliodd Davies y sedd hyd 1886, pan ymneilltuodd am na ddygymyddai â rhoi ymreolaeth i Iwerddon. Nid efe, fel yr honnir yn aml, oedd yr aelod seneddol Ymneilltuol cyntaf yng Nghymru, oblegid yr oedd Walter Coffin wedi ennill Caerdydd yn 1852, ac yr oedd dau aelod seneddol Cymreig arall o Ymneilltuwyr yn 1868. Ond efe oedd ynad heddwch Ymneilltuol cyntaf Môn, ei siryf Ymneilltuol cyntaf (1858), a'i harglwydd-raglaw Ymneilltuol cyntaf (1884). Er bod Richard Davies yn ddyn galluog, ac yn haelionus (eto gyda gofal), yn enwedig i'r Coleg Normal ym Mangor ac i'r ysgolion 'Brutanaidd,' eto efallai nad ynddo'i hunan yr oedd yn bwysig, eithr yn hytrach fel symbol. Yn union fel yr oedd ef (a'i deulu) yn enghraifft dda o'r 'dynion newydd' yng Nghymru a welodd eu cyfle dan fasnach rydd, felly hefyd ym myd gwleidyddiaeth daeth Davies, fel ei gyd-aelod seneddol David Williams (1799 - 1869) ym Meirion, yn symbol, chwedlonol bron, o'r dosbarth canol Rhyddfrydol ac Ymneilltuol na phallodd ei afael ar Gymru hyd yr 20fed ganrif. Yn 1855, priododd Anne, ferch Henry Rees; un o'u plant oedd Henry Rees Davies. Preswyliai Davies gynt yn Mwlch-y-fen, ond yn ddiweddarach yn Nhreborth ar gyfer Porthaethwy. Bu farw yno 27 Hydref 1896, a chladdwyd ef ym mynwent Llandysilio.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.