DAVIES, HENRY REES (1861 - 1940), hynafiaethydd

Enw: Henry Rees Davies
Dyddiad geni: 1861
Dyddiad marw: 1940
Rhiant: Anne Davies (née Rees)
Rhiant: Richard Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 5 Rhagfyr 1861 ym Mhorthaethwy, yn fab i Richard Davies ac yn ŵyr (fel yr awgryma'i enw) i Henry Rees. Graddiodd gydag anrhydedd mewn gwyddoniaeth yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt (1884). Tyfodd yn ŵr blaenllaw ym mywyd cyhoeddus Môn (cynghorwr sirol, ustus heddwch, dirprwy-raglaw, siryf) ac yng ngweithrediadau Coleg y Gogledd, y bu'n is-lywydd iddo (1916-21) ac yn gadeirydd ei gyngor (1927-35). Bu'n noddwr hael i'r coleg, yn neilltuol i'w lyfrgell a'i amgueddfa; ac yn 1931 cafodd radd LL.D. yn anrhydedd gan Brifysgol Cymru. Ond gyda'i holl waith cyhoeddus, gŵr ysgolheigaidd ei naws oedd ef, a garai'r encilion. Ei brif ddiddordeb oedd hanes Menai ai glannau. Cyfrannodd bennod ar y pwnc i'r Inventory o hynafiaethau Môn a gyhoeddwyd yn 1937 gan y ' Royal Commission on Ancient Monuments '; ond wedi iddo farw y cyhoeddwyd ei waith safonol gan Brifysgol Cymru, yn 1942, dan y teitl nodweddiadol ddiymhongar A Review of the Records of the Conway and the Menai Ferries.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.