REES, HENRY (1798 - 1869), gweinidog enwocaf y Methodistiaid Calfinaidd yn ei gyfnod

Enw: Henry Rees
Dyddiad geni: 1798
Dyddiad marw: 1869
Priod: Mary Rees (née Roberts)
Plentyn: Anne Davies (née Rees)
Rhiant: Ann Rees
Rhiant: David Rees
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog enwocaf y Methodistiaid Calfinaidd yn ei gyfnod
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Griffith Wynne Griffith

Ganwyd 15 Chwefror 1798 yn Chwibren Isaf, Llansannan, sir Ddinbych, mab hynaf David ac Ann Rees; brawd iau ydoedd William Rees ('Gwilym Hiraethog'). Bu yn yr ysgol yn Llansannan am dair blynedd, a bu'n gwasnaethu yn Syrior, fferm a berthynai i Thomas Jones, Dinbych. Yn 1814 ymwelodd â'r Bala i geisio'r Geiriadur Ysgrythyrol gan Thomas Charles, ac yn nhŷ Charles cyfarfu hefyd â John Elias - yr unig dro i'r tri arweinydd enwog yma i'r Methodistiaid Calfinaidd gyfarfod.

Dechreuodd Henry Rees bregethu tua diwedd 1818, a phrofodd ar unwaith y meddai ddoniau nodedig o ddisglair yn y pulpud - gwrando arno'n pregethu a fu'r achos i John Jones, Talsarn, ei roddi ei hun i'r weinidogaeth. Bu yn ysgol T. Lloyd, Abergele, 1819-21. Yn 1820 derbyniwyd ef yn bregethwr. Yn 1821 aeth i Amwythig yn brentis o lyfr-rwymydd, a bu'n gwasnaethu'r eglwys Gymraeg yno ar y Suliau a chael bwyd, dillad, a llety yn gydnabyddiaeth. Y pryd hwn bu mewn ysgol yn Dorrington er mwyn ymberffeithio mewn Saesneg. Datblygodd yn bregethwr nodedig o ddifrif, galluog, ac effeithiol, a deuai galwadau'n ddi-dor iddo o bob rhan o Gymru. Pregethodd yn y gymdeithasfa yn y Bala yn 1822 ac wedi hynny'n rheolaidd, gydag ychydig eithriadau, yng nghyfarfodydd y gymdeithasia hyd ddiwedd ei oes. Ymroddodd i astudio gweithiau'r Piwritaniaid, yn enwedig eiddo'r Dr. John Owen. Ordeiniwyd ef yn y Bala ym Mehefin 1827. Priododd Mary Roberts, Amwythig, 20 Tachwedd 1830, a bu iddynt bedwar o blant. Bu tri o'r plant farw yn eu babandod, eithr tyfodd y bedwaredd Ann, i fyny ac ymbriododd â Richard Davies (1818 - 1896). Symudodd i Lerpwl, Nadolig 1836, a gweinidogaethodd yno i'r Methodistiaid Calfinaidd a oedd ganddynt nifer o eglwysi. Yn ddiweddarach daeth i gysylltiad nes ag eglwys Chatham Street. Yn 1839 ymwelodd ag America. Yn 1843 cymerodd ran flaenllaw yn y gwrthwynebiad a oedd yng Nghymru i Fesur Addysg y flwyddyn honno. Yn 1857 bu yn yr Almaen yng nghyfarfod y Cynghrair Efengylaidd yn Berlin. Cydnabyddid ef ers llawer o amser bellach fel prif arweinydd y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghymru; bu'n llywydd cymdeithasfa'r gogledd yn 1855-6 a thrachefn yn 1867; ac yn 1864 penodwyd ef yn llywydd y gymanfa gyffredinol gyntaf. Gan lawer o bobl abl i farnu ystyrid ef y gweinidog mwyaf duwiolfrydig a'r pregethwr perffeithiaf a adnabuasent. Ysgrifennodd amryw erthyglau i'r Traethodydd a chylchgronau eraill. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o'i bregethau. Bu farw yn Benarth, Dyffryn Conwy, 18 Chwefror 1869, a chladdwyd ef yn Llantysilio, Môn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.