'Gyda Baxter a Howe, saif ar flaen y diwinyddion Piwritanaidd'. Ganwyd yn 1616, a bu farw 24 Awst 1683. Adroddir ei yrfa'n llawn yn y D.N.B., ond nid oes a fynno hi ddim â Chymru, ond yn yr ystyr mai ar weithiau diwinyddol John Owen y magwyd cenedlaethau o bregethwyr Calfinaidd enwocaf Cymru. Ond yr oedd gwaed Cymreig ynddo. Mab oedd ef i Henry Owen, ficer Stadhampton (swydd Rhydychen), ŵyr felly i Griffith Owen o Dal-y-bont a Pheniarth (Llanegryn, Meirion), a gor-ŵyr i'r barwn Lewis Owen. Yr oedd hefyd yn perthyn i Hugh Owen (1639-1700) o Fronclydwr - yn gefnder cyfan i'w fam (gweler J. E. Griffith, Pedigrees, 323). Brodiwyd braidd yn ffansïol ar y ffaith hon gan rai a fyn mai dylanwad personol ei 'ewythr' a droes Hugh Owen yn Ymneilltuwr, yn ystod ei breswyl yn Rhydychen. Eithr nid aeth Hugh Owen yno cyn canol 1660, pan oedd John Owen eisoes wedi ymado â'r lle. Nid oes yn wir mo'r praw lleiaf fod unrhyw gyfathrach rhwng y diwinydd mawr a'i deulu yng Nghymru. Eto, yn ddiamau, fe wyddai Ymneilltuwyr yng Nghymru am y berthynas - cyfeirir ati gan Henry Maurice.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.