OWEN (TEULU), Peniarth, plwyf Llanegryn, Meirionnydd.

Fel y gwelir yn yr erthygl ar deulu Wynne, Peniarth, daeth y stad i eiddo'r Wyniaid trwy briodas (1771) WILLIAM WYNNE, Wern, plwyf Penmorfa, Sir Gaernarfon, a JANE, arglwyddes-waddolog Bulkeley, merch hynaf ac aeres Lewis Owen, Peniarth. Rhoddir manylion am y teulu a oedd yn byw yn Peniarth cyn y briodas hon (a) gan W. W. E. Wynne yn ei nodiadau yn E. Breese, Kalendars of Gwynedd, a S. R. Meyrick, Heraldic Visitations, a (b) yn J. E. Griffith, Pedigrees, 323. Braslun yn unig a roir yma. Hawliai'r teulu ddisgyn o Ednowain ap Bradwen. Ceir LLEWELYN a dalodd warogaeth am ei diroedd i'r brenin Edward I. Mab i Lewelyn oedd EDNYFED, a briododd Gwenllian, merch a chydaeres Gruffydd ab Adda ap Gruffydd, Dôl Goch, rhaglod cwmwd Ystumaner am beth amser yn ystod amser Edward III - ceir beddrod Gruffydd ab Adda yn eglwys Tywyn. Aer y briodas hon oedd ARON AB EDNYFED a ddilynwyd gan EDNYFED, hwnnw gan ei fab GRUFFYDD, a hwnnw gan RHYS AP GRUFFYDD, gŵr y gwnaethpwyd ei ewyllys yn 1476. Mab i Rys ap Gruffydd oedd JOHN AP RHYS a briododd Angharad, merch Dafydd ap Meurig Fychan, Nannau. Aer John ap Rhys ac Angharad oedd WILLIAM, a oedd yn fyw yn 1566, ac a briododd Elizabeth, merch Howel ap Jenkin ab Iorwerth, Ynysmaengwyn, hen gartref Cymreig arall tua thair milltir i lawr o Beniarth yng nghyfeiriad Tywyn. Adnabyddid aer y briodas honno fel DAVID LLOYD (y mae ei ewyllys wedi ei dyddio 11 Gorffennaf 1570). Priododd David Lloyd Nest (neu Annes), merch Gruffydd ap John ap Gruffydd, Cefnamwlch, Sir Gaernarfon, eithr gan na bu iddo aer fe'i dilynwyd gan ei chwaer ELIZABETH, gwraig GRUFFYDD OWEN, Talybont, Llanegryn, 4ydd mab y ' barwn ' Lewis Owen, Dolgellau. Aer y briodas hon oedd LEWIS OWEN I (bu farw 1633), a adawodd ddwy ferch - (1) MARGARET (bu farw 4 Hydref 1667), yr aeres, a (2) Susan, a gafodd Bronyclydwr, ac a ddaeth yn fam i Hugh Owen. Trwy ei gŵr cyntaf, Richard Owen, Morben, Machynlleth, daeth Margaret yn fam i LEWIS OWEN II (1625 - 1691), siryf Meirionnydd, 1646-7, ac aelod seneddol y sir (etholwyd 1659). Aer Lewis Owen II drwy ei wraig, Jane, merch Syr Richard Lloyd, Esclusham a Dulasau, oedd RICHARD OWEN I (bu farw 1714), siryf Sir Drefaldwyn, 1694, Meirionnydd, 1695, a Sir Gaernarfon, 1705. Dilynwyd ef a'i wraig Elizabeth (merch ac aeres Humphrey Pughe, Aberffrydlan) gan eu mab, LEWIS OWEN III (bu farw 1729), siryf Meirionnydd 1714, Sir Gaernarfon, 1715, a 'Custos Rotulorum' Sir Feirionnydd, 1722-8. Ei wraig ef oedd Margaret merch Syr William Williams, ail farwnig, Llanforda (mab y ' Llefarydd ' Williams), a chawsant RICHARD OWEN II, a fu farw pan nad oedd ond 13 oed. Chwaer Richard Owen II oedd JANE, arglwyddes-waddolog Bulkeley (bu farw 1765), yr aeres bellach, a briododd, yn ail ŵr, Edward Williams (bu farw 1762), mab John Williams, Bodelwyddan. O'r briodas honno bu tair merch: (1) JANE (bu farw 1811), (2) Elizabeth, a (3) Margaret. Y gyntaf o'r tair, sef Jane, oedd yr aeres, a hyhi a briododd WILLIAM WYNNE, Wern Sir Gaernarfon, yn 1771. Am y Wyniaid a ddilynodd William Wynne ym Mheniarth gweler yr erthygl ar deulu Wynne, Peniarth.

Gweler hefyd yr erthyglau ar John Owen (1616 - 1683), deon Christ Church, nai Lewis Owen I, a Lewis Owen (y 'barwn' Owen).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.