BREESE, EDWARD (1835-1881), hynafiaethydd

Enw: Edward Breese
Dyddiad geni: 1835
Dyddiad marw: 1881
Priod: Margaret Jane Breese (née Williams)
Plentyn: Charles Edward Breese
Rhiant: Margaret Breese (née Williams)
Rhiant: John Breese
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: John Edward Lloyd

Ganwyd yng Nghaerfyrddin 13 Ebrill 1835, mab John Breese, gweinidog gyda'r Annibynwyr, a Margaret, merch David Williams, Saethon, Llŷn. Gwnaeth marw ei dad yn 1842 beri i dylwyth ei fam, a oedd yn ddylanwadol yn ne sir Gaernarfon, gymryd gofal ohono. Yr oedd ei ewythr David Williams (eisoes wedi llwyddo i raddau helaeth iawn yn ei yrfa fel cyfreithiwr) yn abl i'w helpu mewn modd sylweddol; aeth y nai ato i'w swyddfa ym Mhorthmadog a phasio'n gyfreithiwr ei hunan yn 1857. Yn 1859 dilynodd Breese ei ewythr yn y swydd o glerc yr heddwch yn Sir Feirionnydd ac mewn swyddi lleol eraill, yn cynnwys gofal ystad teulu Madocks, ystad yr oedd yr aer iddi o dan oed ar y pryd. Bu iddo felly ran bwysig yng nghynllunio a datblygu tref newydd Porthmadog, ac edmygid ef gan y cyhoedd oblegid ei allu, ei uniondeb, a'i farn gyfreithiol deg. Yr oedd dyled David Lloyd George, a ddaeth yn fachgen ifanc i'w swyddfa, yn fawr iddo. Rhyddfrydwr ydoedd yn wleidyddol, ac eglwyswr o ran ei grefydd. Priododd, 1863, Margaret Jane, merch Lewis Williams, Fron Wnion, Dolgellau, uchel siryf sir Feirionnydd yn 1865.

Yn gynnar yn ei yrfa dangosodd Breese ddiddordeb cryf mewn hynafiaethau lleol. Ar ôl gwaith ymchwil yn ymestyn dros flynyddoedd lawer, a chyda chymorth ei lyfrgell breifat ardderchog, cyhoeddodd, yn 1873, Kalendars of Gwynedd, cyfrol yn cynnwys cofnod llawn o enwau prif swyddogion cyhoeddus siroedd Môn, Caernarfon, a Meirionnydd (uchel siryfion, aelodau seneddol, etc.), sydd yn parhau hyd heddiw'n waith cyfeirio y gellir dibynnu arno. Bu farw 10 Mawrth 1881, gan adael chwech o blant; daeth tri ohonynt yn gyfreithwyr. Trwy ei fam hawliai ei fod yn disgyn o Rys ap Tewdwr a Trahaearn Goch o Lŷn, a mabwysiadodd arfbais ac arni'r arfau y dywedid ddarfod eu dwyn gan yr hynafiaid hyn.

CHARLES EDWARD BREESE (1867 - 1932), cyfreithiwr a hynafiaethydd

Dilynodd ei fab ei dad nid yn unig fel cyfreithiwr ond hefyd fel un yn ymddiddori mewn hynafiaethau. Pasiodd yn gyfreithiwr yn 1889, bu ar gyngor sirol sir Gaernarfon, a bu'n gwasnaethu fel uchgapten yn y gwarchodlu, yn gadeirydd pwyllgor gwaith y Cambrian Archaeological Association, ac (yn 1930) yn un o is-lywyddion y gymdeithas honno. Bu'n aelod seneddol rhyddfrydol dros ran o sir Gaernarfon o 1918 hyd 1922.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.