OWEN, LEWIS ('y Barwn Owen'; bu farw 1555), swyddog gwladol

Enw: Lewis Owen
Dyddiad marw: 1555
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: swyddog gwladol
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Mab i Owen ap Hywel ap Llywelyn, o'r Llwyn, Dolgellau. Dan Harri VIII penodwyd ef yn ddirprwy-siambrlen Gwynedd, ac yn ' farwn ' (h.y. yn farnwr) yn nhrysorlys Caernarfon; bu'n siryf Meirion yn 1545-6 a 1554-5, ac yn aelod seneddol drosti yn 1547, 1553, a 1554; preswyliai yng Nghwrt Plas-yn-dre, Dolgellau. Yn ei swydd fel siryf, aeth ati i ddifodi ' Gwylliaid Cochion Mawddwy '; dialwyd arno am hynny gan ei ladd, 12 Hydref 1555, yn y fan a elwir hyd heddiw'n ' Llidiart y Barwn,' ger Mallwyd.

Bu'n briod ddwywaith, ac o'i briodas gyntaf yr hanoedd nifer anarferol fawr o uchelwyr diweddarach Meirion, y coffeir amryw ohonynt yn y gwaith hwn; gweler J. E. Griffith, Pedigrees, 363. O'r mab hynaf, JOHN OWEN o'r Llwyn, y tarddodd cainc Bronclydwr (gweler Hugh Owen, 1639 - 1700). Gellid meddwl mai o'r ail fab, HUGH LEWIS OWEN o Gae'r-berllan, Dolgellau, cyfreithiwr, yr hanoedd teulu Tan-y-gadair (gweler Henry Owen, 1716 - 1795), ond ni ddangosir hynny gan Griffith, a byddai'n annoeth bod yn bendant. Y trydydd mab, EDWARD OWEN o'r Hengwrt (Griffith, op. cit., 201), oedd taid yr hynafiaethydd Robert Vaughan, a hynaif teuluoedd diweddarach Hengwrt a Nannau. Priododd y pedwerydd mab, GRIFFITH OWEN (o Dalybont, Llanegryn), ag aeres Peniarth (Griffith, op. cit., 323); deil rhai mai mab hynaf hwn, Lewis Owen, oedd ' Lewis Owen yr ysbïwr ', a phe profid hynny (ond siglog yw'r dystiolaeth) fe fyddai'r 'ysbïwr' yn daid i'r Annibynnwr enwog o Fronclydwr, oblegid Susan, ferch Lewis Owen o Dalybont, oedd mam ' Apostol y Gogledd ' - fe welir bod teuluoedd Bronclydwr a Thalybont, ill dau'n hanfod o'r ' Barwn Owen,' wedi ymbriodi. Mab arall i Griffith Owen oedd Henry Owen, tad y diwinydd enwog John Owen, 1616 - 1683. Pumed mab y ' Barwn Owen ' oedd ROBERT OWEN o Ddolserau (Dolgellau), gweler Griffith, op. cit., 363, taid y Crynwr Robert Owen, a hendaid y Crynwr Griffith Owen.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.