Unig fab cyfreithlon Hywel Fychan (a fu farw 1639), y Wengraig yn nhreddegwm Garthgynfor a phlwyf Dolgellau ar lethrau dwyreiniol Cader Idris, a olrheiniai ei dras o Gadwgan, arglwydd Nannau, mab Bleddyn ap Cynfyn, tywysog Powys. Ei fam oedd Margaret, ferch Edward Owen, Hengwrt, plwyf Llanelltyd, ac ŵyres Lewis Owen, barwn Siecr Gogledd Cymru, a laddwyd gan Wylliaid Cochion Mawddwy yn 1555. Ganwyd Robert Powell Vaughan, neu Robert Vaughan fel y daethpwyd i'w adnabod, yn y Wengraig, tua 1592, a barnu oddi wrth gofnod ei fynediad i Goleg Oriel, Rhydychen, yn 20 oed yn 1612. Gadawodd y coleg heb gymryd gradd. Y mae hanes ei fywyd cynnar yn ddirgelwch, ond gellid dadlau oddi wrth ei gyfeillgarwch â Rhys a Sion Cain, a gydnabyddai ef fel ei athrawon mewn achyddiaeth, iddo dreulio cryn amser yng Nghroesoswallt. Ni wyddys chwaith ddyddiad ei briodas â Chatrin (1594 - 1663), ferch Gruffudd Nannau (ganwyd 1568), ond gwyddys ei fod yn byw yn y Wengraig yn 1624. Tebyg yw iddo fyned i fyw i Hengwrt ar ôl priodi. Rhwng 1608 a 1612 ceir fod Robert Owen yn gwystlo Hengwrt i'w frawd-yng-nghyfraith, Hywel Fychan. Yr oedd Robert Vaughan yn ustus heddwch ym Meirion a chymerai ran flaenllaw mewn materion lleol. Ymddengys ei fod yn dal trysoryddiaeth trethi pontydd rhan o'r sir yn ystod y Werinlywodraeth. Nid yw'n debyg i helyntion ymrafael y dyddiau hynny fennu llawer ar ei fywyd. Ei brif ddiddordebau oedd achyddiaeth, hanes cynnar Cymru, hynafiaethau, a chasglu llyfrau a llawysgrifau. Yr oedd ganddo gylch eang o ohebwyr ar y pynciau hyn, e.e. Rhys a Siôn Cain, Dr. John Davies, Mallwyd, Ieuan Llwyd Sieffre, y Palau, John Jones, Gellilyfdy (llawysgrifau'r hwn a ddaeth i'w feddiant tua 1658), Meredith Lloyd y Trallwng, William Maurice Cefnybraich, Wynniaid Gwydir, Syr Simonds D'Ewes, John Selden, a James Ussher, archesgob Armagh. Y llyfrgell lawysgrifau a gasglodd yn Hengwrt yw'r casgliad gwychaf o lawysgrifau Cymraeg a grynhowyd erioed gan unigolyn. Arhosodd yn Hengwrt hyd 1859, pan drosglwyddwyd hi drwy ewyllys Syr Robert Williames Vaughan i W. W. E. Wynne, Peniarth. Prynu etifeddiaeth llyfrgell Hengwrt - Peniarth i'w chadw yn Aberystwyth yn 1905 gan Syr John Williams oedd un o'r dadleuon cryfaf dros osod y Llyfrgell Genedlaethol yno. Casglodd Robert Vaughan lyfrau hefyd, ond chwalwyd hwy gan Thomas Kerslake, llyfrwerthwr ym Mryste, yn nechrau'r 19eg ganrif. Erys y catalog a wnaeth Robert Vaughan o'i lyfrgell (NLW MS 9095B ). Copïodd nifer da o hen destunau llenyddol a hanesyddol, gwnaeth fynegair ysgrythurol, llyfrau achau, yn arbennig y casgliad gwerthfawr sydd yn llawysgrif Peniarth MS 287 , a thraethodau ar amseryddiaeth a phynciau yn hanes Cymru, a chyfieithodd Frut y Tywysogion yn Saesneg. Arfaethai ddwyn allan argraffiad diwygiedig o Historie David Powel, gweler Bulletin of the Board of Celtic Studies, vi, 157. Yr unig waith a gyhoeddodd oedd llyfryn yn dwyn y teitl British Antiquities Revived (Rhydychen, 1662). Ei gynnwys yw gwrthddadl yn erbyn casgliad Syr Thomas Canon mai Cadell oedd mab hynaf Rhodri Mawr ac felly fod tywysogion Deheubarth yn cael blaenoriaeth ar dywysogion Gwynedd, cywiriad yn ach iarll Carbery fel y ceir hi yn Cambria Triumphans Percy Enderbie gan wahaniaethu rhwng Gwaethfoed Powys a Gwaethfoed Ceredigion, a thraethiad byr ar Bum Llwyth Brenhinol Cymru.
Bu Robert Vaughan farw ar ddydd Iau'r Dyrchafael (16 Mai), 1667. Dywed Anthony Wood, ar awdurdod Thomas Ellis, rheithor Dolgellau, iddo gael ei gladdu yn eglwys y plwyf hwnnw. Nis cofnodir yng nghofrestr yr eglwys honno. Ond mewn drafft o'i ewyllys, a wnaethpwyd 1 Mai 1665, yno y gorchmynnai ei gladdu. Gadawodd bedwar mab a phedair merch - HYWEL VAUGHAN, y Fanner, siryf Meirion, 1671, a briododd ddwywaith, (1) â Jane ferch Robert Owen, Ystumcegid, a gweddw Huw Tudur, Egryn, a (2) â Lowri ferch Gruffudd Derwas, Cemaes, a gweddw Wmffre Pugh, Aberffrydlan; YNYR VAUGHAN, a oedd yn ddibriod ond a genhedlodd John fab Ynyr a ymfudodd i Bensylfania; HUGH VAUGHAN, a briododd Elisabeth ferch Edmund Meyrick Ucheldre; a GRUFFUDD VAUGHAN a etifeddodd Ddolmelynllyn ac a briododd Catherine ferch John ap Robert ap John ap Lewis ap Meredith, Glynmaelda; MARGARET a briododd (1) William Prys, rheithor Dolgellau, a (2) Robert Fychan ap Tudur Fychan, Caerynwch; JANE a briododd Robert Owen, Dolyserau; ELIN a briododd Dafydd Elis ap Rowland Elis, Gwanas; ac ANN a briododd Hugh Evans, Berthlwyd, Llanelltyd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.