LLOYD, MEREDITH (fl. 1655-77), cyfreithiwr a hynafiaethydd

Enw: Meredith Lloyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfreithiwr a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Cyfraith
Awdur: Walter Thomas Morgan

Brodor o'r Trallwng a pherthynas i Robert Vaughan o Hengwrt. Yr oedd ef ei hun yn gasglwr llawysgrifau, a dywed awdur catalog llyfrgell Hengwrt yn y Cambrian Register, iii, ar sail papurau a llythyrau a gafodd gan ddisgynnydd i Lloyd o Faesyfed, mai ef oedd yn berchen ar lawysgrifau Thomas Wiliems o Drefriw ac iddo eu rhoddi i Robert Vaughan. Benthyciodd Vaughan ganddo hefyd y 'Vita Sancti Cadoci' (Peniarth MS 385 ) a'i chopïo (Peniarth MS 275 ), ond naill ai esgeulusodd Vaughan ei dychwelyd neu hwyrach fe'i cafodd yn rhodd. Argraffwyd rhai llythyrau a fu rhwng Vaughan a Lloyd yn y flwyddyn 1655 yn y Cambrian Register, iii, 301-2, 310-2, ac yn y Cambro-Briton, i, 410-5. Ceir hefyd ddau lythyr pwysig wedi eu rhwymo yn Peniarth MS 275 , a ysgrifennwyd yn 1655 a 1658. Dengys yr ohebiaeth fod Lloyd yn uchel ei barch gan Vaughan, a ymgynghorai yn fynych ag ef ynghylch ei ymchwilidau. Ymddiriedwyd i Lloyd y gorchwyl o geisio benthyg 'Llyfr Llandaf' i'w gyfaill oddi wrth John Vaughan, Trawscoed yn 1655. Yr oedd gan Vaughan feddwl uchel am ei ysgolheictod, ac fe'i cymhellodd i astudio'r hen gyfreithiau oherwydd ei wybodaeth o'r gyfraith ac o Hen Gymraeg. Yr oedd Lloyd hefyd yn gyfarwydd iawn â'r copïwr enwog, John Jones o Gellilyfdy, ac ymwelodd ag ef yng ngharchar y Fleet, Llundain. Ymhlith casgliad Wynnstay, sydd yn awr yn y Llyfrgell Genedlaethol, ceir llythyr diddorol (C. 102), a ysgrifennwyd yn 1677 gan Lloyd at ei berthynas, William Maurice o Lansilin, yr hynafiaethydd enwog, lle trafodir cynnwys llyfrgell Hengwrt, ac awgrymu ei gwerthu i William Williams, a ddaeth yn adnabyddus yn ddiweddarach fel 'y Llefarydd Williams.'

Y mae Robert Owen, yn ei Short Historical Sketch of Welshpool, yn awgrymu mai gwrthrych yr erthygl hon yw'r Meredith Lloyd o Frynellin y soniwyd amdano yn rhestr bwrdeisiaid y Trallwng, a argraffwyd yn Collections, historical & archaeological relating to Montgomeryshire, xii, 328, a dywed ei fod yn ddisgynnydd o lwyth pendefigaidd Neuadd Wen. Ond ni ellir darganfod sail i hyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.