VAUGHAN, Syr JOHN (1603 - 1674), barnwr

Enw: John Vaughan
Dyddiad geni: 1603
Dyddiad marw: 1674
Priod: Jane Vaughan (née Stedman)
Plentyn: Anne Vaughan
Plentyn: Lucy Vaughan (née Vaughan)
Plentyn: Edward Vaughan
Rhiant: Lettice Vaughan (née Stedman)
Rhiant: Edward Vaughan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: barnwr
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Cyfraith
Awdur: John Gwynn Williams

Ganwyd 14 Medi 1603 yn Nhrawsgoed, Sir Aberteifi, mab hynaf Edward Vaughan a Lettice (Stedman); gweler yr ysgrif ‘Vaughan o'r Trawsgoed.’ Addysgwyd ef yn ysgol Worcester (1613-8), yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen (1618-21), a'r Inner Temple (ei dderbyn yno yn 1621, ei alw i'r Bar yn 1630, a dyfod yn ‘bencher’ yn 1664). Yn y Star Chamber y gwnaeth ei enw ar y cychwyn. Etholwyd ef i'r Senedd dros fwrdeisdref Aberteifi yn Ebrill 1640 a Rhagfyr 1640, ac efallai mor gynnar â Chwefror 1627/8. Ychydig o hanes dilys sydd amdano o 1642 hyd 1660. Cynigiodd Clarendon swydd barnwr iddo yn 1660, ond fe'i gwrthododd. Etholwyd ef drachefn i'r Senedd yn Ebrill 1661, dros sir Aberteifi y tro hwn. Daeth yn un o brif arweinwyr y ‘country party’ ac ymhlith yr huotlaf yn y Tŷ. Bu'n flaenllaw yn yr ymosodiadau ar Clarendon yn 1667. Cafodd ddyrchafiad sydyn ym Mai 1668 i fod yn brif farnwr llys y Common Pleas, a gwnaed ef yn farchog. Enillodd enwogrwydd arhosol am ei ddyfarniad pwysig yn ‘Bushell's Case’, na ddylid cosbi rheithwyr am roddi dedfryd yn groes i gyfarwyddyd y barnwr. Bu'n gyfeillgar â rhai o ddynion disgleiriaf ei oes — John Selden, a gyflwynodd iddo ei Vindiciae Maris Clausi; Thomas Hobbes, a ymwelai ag ef deirgwaith yr wythnos ar un pryd; Syr Matthew Hale, ei gymydog yn Acton; ac Edward Stillingfleet, a draddododd ei bregeth angladd. Bu farw 10 Rhagfyr 1674, a chladdwyd ef, yn ôl pob tebyg, yn y Temple Church, Llundain.

Rhoes beth cynhorthwy i luoedd y brenin yn ystod y Rhyfel Cartrefol (gweler J. R. Phillips, Civil War, ii, 154-7), ond i bob pwrpas ymddeolodd o fywyd cyhoeddus tan yr Adferiad. Dywedir iddo helpu'r Seneddwyr i gipio castell Aberystwyth yn 1646 (Cambrian Register, i, 166). Ni ellir profi hynny. Rhestrwyd ef ymysg y ‘delinquents’ ar 29 Mehefin 1648. Ei dystiolaeth ei hun yn 1660 oedd iddo gael ei ddirwyo a bod ei gartref wedi ei lwyr ysbeilio i'w ddirfawr golled (S.P. Dom., Charles II, 29/8, 126; gweler hefyd Cambrian Quarterly Magazine, i, 61). Yn 1660, apwyntiwyd ef yn stiward Mefenydd a phedair arglwyddiaeth arall yn perthyn i'r Goron yn Sir Aberteifi. Penododd yr iarll Carbery ef yn un o'i ddirprwy-raglawiaid dros y sir. Daeth rhai materion Cymreig i'w sylw yn y Senedd. Pan gododd dadl ynglŷn ag etholiad yn nhref Caernarfon, rhoddwyd ef ar y pwyllgor i archwilio'r broblem am ei fod yn deall, gellir tybio, ‘the ancient true Celtique or Brittish tongue’ (Jnl. of Sir Simon d'Ewes, gol. Notestein, 455). Yn 1662, yr oedd yn un o dri a enwyd i drafod y priodoldeb o gyfieithu'r Llyfr Gweddi newydd yn Gymraeg (Commons Jnl., viii, 409). Ymddiddorai yn hanes a hynafiaethau Cymru. Fel un o ysgutorion ewyllys Selden, yr oedd ganddo allwedd i lyfrgell amhrisiadwy'r sgolor hwnnw. Cadwodd ohoni (gweler dan Field, Theophilus) lawysgrif ‘Llyfr Landaf’ a rhoes ei benthyg i Robert Vaughan, Hengwrt, i'w chopïo (gweler ysgrif E. D. Jones yn Cylch. Ll.G.C., iv, 123). Yn un o'i opiniynau mwyaf nodedig, dywedodd nad oedd hawl gan y llysoedd yn Westminster i anfon ‘final process’ i Gymru (Reports, 395). Yr oedd ei awdurdod yn ddigon i ddiogelu'r llysoedd Cymreig am gyfnod. Sylfaenodd ei ddadl ar safle Cymru yn y Canol Oesoedd, ac, yn ei farn ef, ni newidiwyd y sefyllfa yn hyn o beth gan ddeddfau uno Harri VIII. Mor ddiweddar â 1745, defnyddiwyd ei ddadleuon yn effeithiol yn achos Lampley v. Thomas, pan benderfynwyd na ellid gyrru gwŷs ‘latitat’ i Gymru (English Reports, 1 Wilson, 193). Yn R. v. Athos awgrymodd y barnwr Fortescue ei fod o bosibl yn rhy bleidiol i'w wlad enedigol (‘but he being a native of Wales, might be prejudiced in favour of his country,’ English Reports, 8 Modern, 145).

Tyfodd y stad yn Nhrawsgoed yn sylweddol o dan ei ofal. Ar ddechrau ei yrfa prynodd diroedd gwerth £4,300 yn Aberteifi, a thiroedd yn Nhrefaldwyn ar ddiwedd ei oes. Trosglwyddwyd y stad yn gyfan gwbl i'w unig fab, Edward. Goroeswyd ef gan ei wraig, Jane (Stedman). Yr oedd iddynt hefyd ddwy ferch, Anne a Lucy. Y mae dau ddarlun olew o'r prif farnwr yng Nghymru, y naill yng Ngwysaney a'r llall ar fenthyg yn Ll.G.C.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/