PHILLIPS, JOHN ROLAND (1844 - 1887), hanesydd

Enw: John Roland Phillips
Dyddiad geni: 1844
Dyddiad marw: 1887
Priod: Mary Elizabeth Phillips (née Hargreaves)
Rhiant: David Phillips
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hanesydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: David Williams

Ganwyd yng Nghilgerran, Sir Benfro, ym mis Mehefin 1844, mab David Phillips. (Nid oes yng nghofrestr eglwys y plwyf gofnod ei fedyddio.) Pan yn ysgrifennu am Katherine Phillipps ('The Matchless Orinda') dywedodd J. R. Phillips fod ei gŵr, James Phillips, y Priordy, Aberteifi, yn ' member of the same branch of the family of Phillips of Cilsant as the writer. ' Aeth i swyddfa cyfreithiwr yn Aberteifi a buan y dangosodd ei ddiddordeb mewn hynafiaethau trwy ennill y wobr yn eisteddfod Aberteifi, 1866, am draethawd ar hanes Cilgerran; argraffwyd hwn yn Llundain yn 1867. Aeth i Lincoln's Inn ym mis Tachwedd 1867 gan ddyfod yn fargyfreithiwr ar 10 Mehefin 1870. Yn 1873 priododd Mary Elizabeth, merch A. Hargreaves, Nebraska, U.D.A. Gwnaethpwyd ef yn ustus heddwch yn sir Essex, ac ar 22 Mehefin 1881 daeth yn ynad cyflog cyntaf West Ham; eithr bu farw chwe blynedd yn ddiweddarach - ar 3 Mehefin 1887 - yn South Hampstead, ar ôl afiechyd hir.

Ym maes hanes yr oedd ei ddiddordebau pennaf. Ei brif waith ydyw Memoirs of the Civil War in Wales and the Marches, 1874, yn ddwy gyfrol; yn y gyfrol gyntaf traethir yr hanes, ac yn yr ail y mae casgliad gwerthfawr dros ben o ddogfennau gwreiddiol. Yr oedd hwn yn waith nodedig gan ŵr mor ieuanc. Ysgrifennodd hefyd Historical Notes on Newcastle Emlyn, 1867; A List of the Sheriffs of Cardiganshire, 1868; An Attempt at a Concise History of Glamorgan, 1879 ac 1888; a Memoirs of the Ancient Family of Owen of Orielton, 1886. Adeg ei farw cynnar yr oedd yn paratoi hanes Cymru yng nghyfnod y Tuduriaid a hanes cestyll a mynachdai Cymru. Dywedid ei fod ar ei ben ei hun yn ei gyfnod yn ei wybodaeth o lawysgrifau a dogfennau yn y Public Record Office a'r British Museum yn ymwneuthur â Chymru. Efe oedd ysgrifennydd cyntaf Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ar ôl ei hatgyfodiad yn 1873; ymddiswyddodd yn 1876. [ Cymm., 1951, 182-3.]

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.