PHILIPPS neu PHILIPS, o Dre-gybi gerllaw Aberteifi a Phorth-Einion, ac yn ddiweddarach o briordy Aberteifi

Dywedir yn fynych (e.e. yn Laws, Little England, 355) mai cainc o Philippiaid Pictwn oedd y teulu hwn, ond byddai efallai'n gywirach ei alw'n gainc o deulu Cilsant - cainc a darddodd o Syr Thomas Philipps o Gilsant; gweler yr ysgrif ar Philippiaid Pictwn. Amrywia manylion yr ach fel y ceir hi mewn gwahanol lyfrau, e.e. Dwnn, i, 85; Meyrick, Cardiganshire (ail arg.), 172; W. Wales Hist. Records, i, 14-5. Trydydd (neu bedwerydd) mab Syr Thomas oedd OWEN PHILIPPS; mab i hwn oedd EINION PHILIPPS, siryf Ceredigion yn 1588; a mab iddo yntau, o'i ail wraig Elizabeth Birt, oedd GEORGE PHILIPPS, siryf yn 1606. Hwn, yn 1616, a gafodd Briordy Aberteifi, a fu o hynny allan yn brif aelwyd y teulu; priododd ag Anne Lewis, a chafodd fab, HECTOR PHILLIPS, siryf yn 1634; priododd ef (yn drydydd wr iddi) ag Anne, ferch Syr William Wogan (John Wogan, meddai rhai) o Gas Gwis ('Wiston'), a'u mab hynaf oedd

JAMES PHILIPPS (tua 1624 - 1675),

a fu'n siryf yn 1649. Yr oedd ef a'i frawd Hector (isod) yn bleidwyr selog i'r Senedd yn y Rhyfel Cartrefol; buont ill dau'n ' Commissioners of Sequestration ' yn ne-orllewin Cymru; a bu James yn aelod o bwyllgor y fyddin (yr oedd yn gyrnol), ac (yn 1651) yn aelod o'r ' High Court of Justice '; bu hefyd yn aelod seneddol dros Geredigion yn Seneddau 1653, 1654, 1656 (rhoes ei sedd i fyny yn y flwyddyn honno i fod yn aelod seneddol dros sir Benfro) a 1659, a thros fwrdeisdrefi Ceredigion yn 1660 a 1661, ond collodd y sedd honno ar betisiwn (Meyrick, op. cit., 340-1). Cyhuddid y ddau frawd o fod yn hynod reibus; ond teg yw dweud hefyd bod geirda i James (yn 1661 - Cambrian Register, i, 167) fel dyn parod ei gymwynas. Bu farw yn 1675. Bu'n briod deirgwaith. Y wraig gyntaf oedd Frances, ferch ei gâr Syr Richard Philipps o Bictwn. Yr ail (1647) oedd KATHERINE (1631 - 1664), ferch John Fowler, masnachwr o Lundain - yr oedd ei mam hi, Katherine (Oxenbridge), wedi dyfod yn ail wraig i'w dad ef yr Hector Philipps uchod, ac y mae'r priodasau hyn yn adlewyrchiad diddorol o'r cyswllt agos, mewn economeg a gwleidyddiaeth a chrefydd, rhwng de-orllewin Cymru a dinas Llundain. Dan ei ffugenw ' Orinda ' y mae Katherine Philipps (a aned ar galan Ionawr 1631) yn hysbys iawn (gweler yr ysgrif arni yn D.N.B., neu draethawd Edmund Gosse yn Seventeenth Century Studies, serch bod rhai o'r manion yn hwnnw'n anghywir), ac y mae ei phrydyddiaeth a'i llythyrau'n sôn llawer am Aberteifi a'r cylch; bu farw yn Lundain, 18 Ionawr 1664. Ganed dau blentyn o'r briodas hon: Hector (a fu farw'n blentyn), a KATHERINE PHILIPPS (ganwyd 1656; yr oedd yn fyw yn 1699), a briododd a Lewis Wogan o Boulston (gweler ysgrif Francis Green ar y teulu, Cymm., xv, yn bennaf 135-8); cawsant 15 o blant, ond un yn unig (merch) a'u goroesodd. Trydedd wraig James Philipps oedd Jane Rudd o Aberglasneu (Caerfyrddin) - gelwir hi'n ' Anne ' yn y llyfrau, ond prawf ei hewyllys (1674) mai Jane oedd ei henw.

Brawd iau James Philipps oedd HECTOR PHILIPPS (bu farw 1693), a dderbyniwyd i'r Middle Temple yn 1654. Cyffyrddwyd uchod â'i ddaliadau politicaidd; bu'n siryf yn 1688, ac yn aelod seneddol dros fwrdeisdrefi Ceredigion yn 1679 (ddwywaith), 1681, 1685, 1689, a 1690 (Meyrick, op. cit., 348); bu farw fis Mawrth 1693. Bu'n briod ddwywaith; merch i'r cadfridog seneddol enwog Philip Skippon (gweler D.N.B.) oedd ei wraig gyntaf. Etifeddodd diroedd ei frawd James, ond ni adawodd ond merch ar ei ôl. Aeth y tiroedd (cyn 1744 fan ddiweddaraf) i Brysiaid Gogerddan. Bu'r Priordy ym meddiant (1774) tad Thomas Johnes o'r Hafod; wedyn un o'r Boweniaid o Dredroer ('Troed-yr-aur') a'i pioedd, a chyflogodd ef y pensaer John Nash o Aberteifi i'w ailadeiladu. Yn 1897 daeth i feddiant teulu o'r enw Pritchard, ac Emily Pritchard, un ohonynt hwy, a sgrifennodd ei hanes - Cardigan Priory, 1904. Llwyr weddnewidiwyd ef ar ôl hynny - heddiw, ysbyty ydyw.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.