Ganwyd yn Llwydlo, 20 Awst 1748 (Hen Ddull), plentyn hynaf Thomas Johnes (bu farw 1780; aelod seneddol sir Faesyfed 1777-80; o linach Syr Thomas Johnes o Abermarlais, nai i Syr Rhys ap Thomas) ac Elizabeth Knight (cyfnither i Richard Payne Knight, gweler D.N.B.). Addysgwyd ef yn Amwythig, Eton, a Phrifysgol Edinburgh, ond heb raddio. Bu'n aelod seneddol bwrdeisdrefi Ceredigion 1775-80, sir Faesyfed 1780-96, Ceredigion 1796-1816; cyrnol milisia sir Gaerfyrddin 1779-98; arglwyddraglaw Ceredigion 1800-16.
Priododd Johnes (1), 1779, Maria (bu farw 1782), merch y Parch. Henry Burgh o Drefynwy, a (2), 1782, ei gyfnither Jane Johnes o Ddolau Cothi, Sir Gaerfyrddin (1759 - 1834). Yn 1783 aeth i fyw i Hafod Uchtryd, ger Cwmystwyth yng Ngheredigion, ac am y gweddill o'i oes bu'n ymgeleddu ei stad yno. Adeiladwyd plasty newydd iddo gan Thomas Baldwin (gweler D.N.B.), ac ychwanegwyd ato gan John Nash (gweler arno); llosgwyd y tŷ yn 1807, ond ailgodwyd ef gan Baldwin. Adeiladwyd hefyd lawer o dai newydd ar hyd y stad, cyflogwyd meddyg i ofalu am y tlodion, codwyd eglwys newydd, ac agorwyd ysgol i ferched; ond rhoddwyd y prif sylw i'r tir. Gwnaed gerddi cywrain ar dir y plas; gwnaed arbrofion mewn bridio gwartheg a defaid a chyda chnydau newydd, a phlannwyd coed ar y tir na ellid ei drin; cafodd Johnes fedal y ' Royal Society of Arts ' bum gwaith am blannu coed. Ceisiai symbylu ei denantiaid i wella'u dulliau; cyhoeddodd yn 1800 A Cardiganshire Landlord's Advice to his Tenants a chyfieithiad Cymraeg (gan William Owen Pughe), Cynghorion Priodor o Geredigion i Ddeiliaid ei Dyddynod, a chynigiodd wobrau am gnydau da; bu hefyd yn gefnogydd mawr i'r ' Gymdeithas er cefnogi Hwsmonaeth a Diwidrwydd yn sir Aberteifi,' a sefydlwyd yn 1784.
Aeth yr Hafod yn gyrchfan mawr i deithwyr, rhwng atyniadau prydferthwch yr ardal a gwaith Johnes oddi allan ac oddi fewn i'r plas. Casglasai ef lawer o weithiau celfyddyd, ond rhoddodd y pris mwyaf ar ei lyfrgell, yn cynnwys amryw o lawysgrifau Edward Lhuyd (a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r The Myvyrian Archaiology of Wales ) a llawysgrifau ac argraffiadau o groniclau Ffrangeg diwedd yr Oesau Canol. Gwnaeth Johnes astudiaeth arbennig o'r rheini; cyhoeddodd yn 1801 gyfieithiad Saesneg o gofiant i Froissart, ac yn 1803 dechreuodd gyhoeddi ei gyfieithiad o gronicl Froissart o'i wasg ei hun yn yr Hafod, lle'r oedd Sgotyn, James Henderson, yn argraffydd. Cyhoeddwyd hefyd o wasg yr Hafod ei gyfieithiadau o groniclau Joinville, 1807, De la Brocquiere, 1807, a Monstrelet, 1808, argraffiadau newydd o'r cofiant i Froissart, 1810, a'r Advice to his Tenants, ac adroddiadau'r Gymdeithas Hwsmonaeth am rai blynyddoedd.
Bu i Thomas a Jane Johnes fab a fu farw'n faban, a merch, Mariamne, a aned yn 1784. Disgwylid ei gweld hi'n parhau gwaith ei thad yn yr Hafod, ond bu farw ar daith i Lundain yn 1811. Dechreuodd iechyd Johnes dorri yn fuan wedyn, a chan ei fod mewn anawsterau ariannol gwnaeth drefniant yn 1814 i werthu'r hawl i'r Hafod a'i gynnwys wedi'i ddydd ef, a chymryd 'bwthyn' ger Dawlish yn Nyfnaint i dreulio'r gaeaf a'r gwanwyn. Bu farw yn y bwthyn hwnnw, 23 Ebrill 1816.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.