Syr RHYS ap THOMAS (1449 - 1525), prif gynorthwywr Cymreig y brenin Harri VII

Enw: Rhys Ap Thomas
Dyddiad geni: 1449
Dyddiad marw: 1525
Priod: Joan Mathew
Priod: Eva ferch Henri ap Gwilym
Plentyn: Gruffudd ap Rhys
Rhiant: Elizabeth ferch Syr John Gruffydd
Rhiant: Thomas ap Gruffudd ap Nicolas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: prif gynorthwywr Cymreig y brenin Harri VII
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: James Frederick Rees

trydydd mab Thomas ap Gruffydd ap Nicholas. Cymerasai ei daid, Gruffudd ap Nicholas, brydles yn 1440 ar arglwyddiaeth Dinefwr a thrwy hynny gosododd sylfaen ffortiwn y teulu. Yr oedd ei dad, Thomas ap Gruffydd, wedi cryfhau safle'r teulu trwy briodi Elizabeth merch ac aeres Syr John Gruffydd, Abermarlais, a allai hawlio ei fod yn ddisgynnydd y tywysogion Cymreig. Yn fachgen ieuanc treuliasai Rhys ap Thomas beth amser gyda'i dad yn llys Bwrgwyn, gan ddychwelyd c. 1467. Pan fu farw ei dad etifeddodd Rhys y stad gan fod ei ddau frawd hŷn nag ef wedi marw o flaen eu tad. Pleidio teulu Lancaster oedd y traddodiad yn y teulu eithr yn wyneb amgylchiadau'r amseroedd hynny yr oedd rhaid wrth wyliadwriaeth a gofal. Yn ystod teyrnasiad Edward IV cododd Rhys lu milwrol lleol i gynorthwyo'r brenin, eithr wedi i Richard III esgyn i'r orsedd aeth i gyswllt â Harri Tudur a oedd y pryd hwnnw yn alltud yn Llydaw. Nid oes ddadl, y mae'n debyg, na fu iddo addo cynorthwyo Harri ac iddo, pan laniodd hwnnw yn Aberdaugleddau ddefnyddio ei ddylanwad lleol cryf o blaid Harri — y mae'n rhaid ystyried mai dychymyg ydyw'r stori i Rhys esmwythau ei gydwybod trwy adael i Harri groesi dros ei gorff tra cwrcydiai yntau o dan bont Mullock yn ymyl Dale. Ymunodd â llu Harri yn ymyl y Trallwng a chydag ef wŷr arfog a godasai yn nyffryn Tywi a gwnaethpwyd ef yn farchog am ei wasanaeth ar faes brwydr Bosworth (22 Awst 1485). Ym mis Tachwedd yr un flwyddyn derbyniodd arwyddion eraill o ffafr y brenin. Rhoddwyd iddo swydd cwnstabl a stiward arglwyddiaeth Brycheiniog, siambrlen siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi, a stiward arglwyddiaeth Buellt; efe, felly, a ddaliai'r prif swyddi yn Ne Cymru y gellid dewis gwŷr iddynt gan y brenin yn unig. Parhaodd Syr Rhys yn flaenllaw o blaid y frenhiniaeth newydd. Yr oedd yn bennaeth llu o wŷr meirch ym mrwydr Stoke (16 Mehefin 1487) pan orchfygwyd Lambert Simnel yr ymhonnwr ac y cymerwyd ef yn garcharor; cymerodd ran hefyd yr ymgyrch yn erbyn Boulogne (mis Hydref 1492). Ym mrwydr Blackheath (17 Mehefin 1497) cymerodd yr arweinydd, Lord Audeley, yn garcharor, a gwnaethpwyd Syr Rhys yn ‘knight-banneret.’ Yr oedd yn bresennol pan roes Perkin Warbeck ei hunan i fyny yn Beaulieu Abbey ym mis Medi 1497. Am y gwasnaethau hyn (a rhai eraill) fe'i gwnaethpwyd yn K.G. — Marchog o Urdd y Gardys — ar 22 Ebrill 1505. Parhaodd i fwynhau'r ffafr brenhinol wedi i Harri VIII esgyn i'r orsedd a chymerth ran yn ymgyrch y brenin hwnnw i Ffrainc yn 1513. Treuliodd ei flynyddoedd diwethaf yng nghastell Carew a roesai'r perchennog yn gyfnewid am fenthyg arian ar yr eiddo. Yn y castell hwnnw cynhaliodd Syr Rhys dwrnameint mawr i ddathlu ei ethol yn K.G.; gwahoddodd i'r twrnameint gynrychiolwyr o brif deuluoedd uchelwyr ym mhob rhan o Gymru. Gwnaeth gyfnewidiadau mawr yn y castell — adeiladu adeilad y porth a dodi ffenestri yn y castell.

Priododd Syr Rhys ap Thomas (1) Eva, merch Henri ap Gwilym, Cwrt Henri, a (2) Jane, merch Thomas Mathew, Radyr, Morgannwg, a gweddw Thomas Stradling, S. Dunawd, Morgannwg. Bu farw yn 1525 a chladdwyd ef yn eglwys y Brodyr Llwydion, Caerfyrddin. Symudwyd ei gorff yn ddiweddarach i eglwys S. Pedr yn yr un dref; adnewyddwyd y beddfaen yn 1865. Bu ei weddw farw yn 1535 yng nghastell Pictwn a chladdwyd hithau yn eglwys y Brodyr Llwydion. Aeth ei stadau, eithr nid ei swyddi, i'w ŵyr, Syr Rhys ap Gruffydd, eithr fforfediodd hwnnw hwynt i'r Goron (a cholli ei fywyd hefyd) yn 1531 pan ddygwyd cyngaws o gynllwyn yn ei erbyn (gweler dan ‘Rice’).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/