Yr oedd aelodau y teulu a gyfenwid yn ddiweddarach yn Rice yn disgyn o Gruffudd ap Nicholas, a chyraeddasant fan uchaf eu cyfoeth a'u dylanwad ym mherson Syr Rhys ap Thomas Dienyddiwyd ei wyr ef, Syr RHYS AP GRUFFYDD, am fradwriaeth yn 1531. Priodasai Syr Rhys ap Gruffydd, yn 1524, Lady Catherine Howard, merch ail dduc Norfolk. Eiddil oedd y dystiolaeth i'w euogrwydd, y gwir drosedd, y mae'n debygol, oedd ei Babyddiaeth a'i wrthwynebiad i Anne Boleyn. Pan gwympodd ef aeth ei eiddo mawr - dywedid fod tiroedd yn dwyn iddo £10,000 y flwyddyn a bod ei eiddo personol yn £30,000 - i ddwylo'r Goron. Bu'r tair cenhedlaeth a'i dilynodd yn ceisio ailadeiladu ffortiwn y teulu; llwyddasant i adennill rhai o'r tiroedd a fforffedwyd, eithr gwerthwyd y rhan helaethaf ohonynt gan y naill deyrn Tuduraidd ar ôl y llall.
Cafodd GRIFFITH RICE (c. 1530 - 1584), mab Syr Rhys ap Gruffydd, gan y frenhines Mari, yn 1554-5, rai o diroedd coll ei dad yn Sir Benfro, eithr collodd hwy drachefn, yn 1557, pan gafwyd ef yn euog o lofruddio Mathew Walshe yn swydd Durham. Cafodd bardwn pan ddaeth Elisabeth i'r orsedd ac, yn 1560, cafodd y tiroedd a fforffedwyd yn ôl, ynghyd a thiroedd eraill yn siroedd Penfro a Chaerfyrddin - yn cynnwys maenor Newton - y cwbl yn werth £105 10s. 4c. y flwyddyn. Yn 1563 a 1580 cafodd brydlesoedd ar diroedd eraill a fuasai'n perthyn i'w dad. Ceir ef yn fynych ymhlith yr ustusiaid heddwch detholedig yn Sir Gaerfyrddin y rhoddid iddynt ddyletswyddau arbennig gan Gyngor y Goror. Bu'n faer Caerfyrddin yn 1571 ac yn siryf Sir Gaerfyrddin yn 1567-83. Yn 1581 gorfodwyd ef a Syr John Perrot gan y Cyfrin Gyngor i ymrwymo yn swm o £1,000 yr un i gadw'r heddwch.
Yr oedd Syr WALTER RICE (c. 1560 - 1611) mab Griffith Rice, yn aelod seneddol dros sir Gaerfyrddin, 1584-5, Caerfyrddin, 1601 a 1604-11, ac yn siryf Sir Gaerfyrddin, 1586. Cafodd ef, a elwid ' the Queen's Servant,' dir oedd ychwanegol yn siroedd Caerfyrddin a Phenfro yn 1594 (y rhenti yn werth £47 19s. 9 1/2c. y flwyddyn), ac y mae'n bosibl i'w briodas ag Elizabeth, merch Syr Edward Mansell Margam, ddyfod â chymorth dylanwadol ei frawd-yng-nghyfraith, y llyngesydd Syr Robert Mansell, iddo. Aeth Lewys Dwnn ato ynglyn ag ach y teulu a'i gael i lofnodi'r tabl achau, ac fe'i disgrifiodd ef fel 'one of James I pensioners'. Fe'i gwnaethpwyd yn farchog yn 1603.
Yn y genhedlaeth nesaf parhaodd HENRY RICE (c. 1590 - c. 1651) i adennill tiroedd a gollasid. Yn 1625 a 1629 bu'n deisyf ar Siarl I i roddi iddo gynifer o stadau ei hendaid ag a oedd yn aros yn nwylo'r Goron, gan hawlio i Mari ac Elisabeth addo cyn gymaint i'w dad a'i daid. Ef, yn ddiau, oedd awdur dienw y cofiant i Rys ap Thomas a'r amddiffyniad i Rys ap Gruffydd a argraffwyd yn y Cambrian Register, i a ii (1795 a 1796); yr oeddynt yn rhan o'i ymgyrch i adennill stadau y teulu. Nid oes dystiolaeth iddo ef, na'i fab, EDWARD RICE, chwarae unrhyw ran yn y Rhyfel Cartrefol. Daliai'r ddau diroedd yn Dinefwr a Newton yn 1651. Bu Edward Rice yn siryf Sir Gaerfyrddin yn 1663. Ni wyddys i sicrwydd ym mha flwyddyn y bu Edward farw. Aeth y stadau i'w frawd, WALTER RICE, a enwyd yn ddirprwy-raglaw yn sir Frycheiniog yn 1674.
Yr oedd WALTER RICE wedi marw erbyn 1681 pan ddeisyfodd cyrnol Theophilus Oglethorpe (D.N.B.) ar y Goron i roddi iddo weddill y tiroedd a roddasid yn 1560 i Griffith Rice a'i etifeddion gwryw. Y deiliad ar y pryd oedd GRIFFITH RICE (1667 - 1729), mab Walter, ac yr oedd y tiroedd o dan sylw yn werth £300 y flwyddyn. Bu Griffith Rice fyw, fodd bynnag, i gael etifeddion; yr oedd yn siryf Sir Gaerfyrddin yn 1694 ac yn aelod seneddol y sir 1701 hyd 1710. Methodd ei fab, EDWARD RICE, ag ennill sedd seneddol y sir yn 1722.
Chwaraeodd GEORGE RICE (1724 - 1779), mab Edward Rice, ran bur flaenllaw ym mywyd gwleidyddol ei gyfnod. Yr oedd yn aelod o dwr o Chwigiaid Sir Gaerfyrddin, o dan arweiniad Griffith Philipps, Cwmgwili (gweler Philipps, Cwmgwili), a fu'n ymdrechu'n ffyrnig yn erbyn Toriaid de-orllewin Cymru dan arweiniad Syr John Philipps, Castell Pictwn, i geisio ennill y dylanwad pennaf ym mwrdeisdref Caerfyrddin rhwng 1738 a 1764. Bu'n aelod seneddol y sir o 1754 hyd 1779. Yn ystod y cyfnod hir pan oedd gan y Chwigiaid fonopoli mewn awdurdod gwleidyddol, ac a ddaeth i ben pan fu Siôr II farw yn 1760, yr oedd yn ddilynydd y Pelhamiaid. Dewiswyd ef yn arglwydd-raglaw Sir Gaerfyrddin yn 1755, a daeth yn gyrnol milisia 'r sir yn 1759; yr oedd yn un o ' political managers ' y dug Newcastle yng Nghymru yn 1755, a derbyniodd £173 'for Radnorshire ' allan o gronfa gwasanaeth cudd y gwr hwnnw. Pan ddaeth monopoli'r Chwigiaid i ben trosglwyddodd ei wrogaeth i arweinyddion newydd. Dewiswyd ef yn arglwydd-gomisiynwr y Bwrdd Masnach a Threfedigaethau gan Newcastle yn 1761 - y cyflog yn £1,000 y flwyddyn - a daliodd y swydd o dan weinyddiaethau olynol hyd fis Ebrill 1770 pan ddewiswyd ef gan North yn drysorydd ystafell y brenin. Bu farw yn y swydd honno yn 1779. Priodasai, yn 1756, Cecil, unig blentyn William, yr iarll Talbot 1af, Lord Steward of the Royal Household,' a grewyd, yn 1780, yn iarll TALBOT a barwn DYNEVOR, gyda hawl gan ei ferch i'w ddilyn. Daeth eu mab hwy, GEORGE TALBOT RICE (1765 - 1852), 3ydd barwn Dynevor, yn aelod seneddol (Torïaidd) dros sir Gaerfyrddin, 1790-3; bu ei fab yntau, GEORGE RICE TREVOR (1795 - 1869), a etifeddodd stadau teulu Trevor yn Glynde, Sussex, yn aelod seneddol (Torïaidd) dros sir Gaerfyrddin, 1820-31 a 1832-52. Yr oedd stadau'r teulu yn 1883 yn cynnwys 7,208 o erwau yn Sir Gaerfyrddin, 3,299 yn Sir Forgannwg, a 231 yn Lloegr - y cwbl yn werth £12,562 y flwyddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.