Bu aelodau'r teulu hwn, sydd o'r un cyff â theuluoedd Cilsant a Castell Pictwn, Sir Benfro, yn flaenllaw yn hanes Sir Gaerfyrddin yn y 18fed ganrif a'r 19eg. Etifeddwyd Cwmgwili gan GRISMOND PHILIPPS (bu farw 1740) ar ôl ei hen-ewythr, Gruffydd Lloyd (bu farw 1713); bu'n siryf Sir Gaerfyrddin yn 1715. Derbyniwyd GRIFFITH PHILLIPS (c. 1720 - 1781) yn fargyfreithiwr (Lincoln's Inn) yn 1741, ceisiodd (ond ni lwyddodd) gynrychioli sir Gaerfyrddin fel aelod seneddol yr un flwyddyn, eithr bu'n eistedd dros y fwrdeisdref yn 1751-61 a 1768-74. Yn wleidyddol bu'n glos ei gyswllt â George Rice, Newton - gan ddilyn yr arweinwyr Chwig hyd farw'r brenin Siôr II yn 1760; o hynny ymlaen fe'i cysylltodd ei hun â gwleidyddwyr blaenllaw y dydd. Tua'r flwyddyn 1738 dechreuodd ymdrech hir rhyngddo â Syr John Philipps, Castell Pictwn, Ceidwadwr (ac efallai Jacobit hefyd), am reolaeth bwrdeisdref Caerfyrddin yn yr ystyr wleidyddol. Gyda chymorth gwerinos y dref llwyddodd Griffith yn 1749 i ddymchwelyd ' Common Council ' Torïaidd y fwrdeisdref a rhwng 1749 a 1763 aeth llywodraeth leol y dref i annhrefn dybryd. Yn 1764, gyda chydweithrediad George Rice a'r arglwydd Verney, cafwyd siarter newydd i'r fwrdeisdref; cyfnerthodd y siarter honno safle parti Philipps yn y dref, eithr nid oedd o bell ffordd yn rhoi iddo lywodraeth cyfangwbl ar y dref. Parhaodd y cydweithrediad rhwng Philipps a Rice hyd y bu Rice farw yn 1779. O hynny ymlaen daeth teulu Rice yn fwy a mwy Torïaidd, eithr parhaodd JOHN GEORGE PHILLIPS (a fu farw 1816), Cwmgwili, mab Griffith Philipps, i gynorthwyo'r Chwigiaid, gan gael cynghreiriaid newydd yn aelodau teulu Vaughan, ac wedi hynny teulu Campbell, Golden Grove. Yn 1785 pleidleisiodd o blaid diddymu y ' Test Act ' a'r ' Co-operation Act.' Bu'n faer Caerfyrddin, 1783 a 1810, yn aelod seneddol Caerfyrddin, 1784-1803, ac yn siryf Sir Gaerfyrddin, 1812. Bu ei fab hynaf, yntau'n JOHN GEORGE PHILLIPS (1783 - 1869), yn gwasnaethu yn y llynges yn ystod rhyfeloedd y Chwyldro yn Ffrainc a'r rhyfeloedd Napoleonaidd. Yn 1831 ceisiodd (eithr yn ofer) gael ei ddewis yn aelod seneddol Caerfyrddin fel pleidiwr diwygio'r drefn seneddol; bu'n faer Caerfyrddin yn 1816.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.