MANSEL (TEULU), Oxwich, Penrhys, a Margam, Sir Forgannwg.

Nid oes brinder defnyddiau at ysgrifennu hanes y Mawnseliaid. Y mae dogfennau Penrhys ac abaty Margam yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn rhifo llawer o filoedd. Astudiwyd rhan helaeth ohonynt gan Walter de Gray Birch (o'r Amgueddfa Brydeinig), a gyhoeddodd A History of Margam Abbey yn 1897 a Descriptive Catalogue of the Penrice and Margam Abbey Muniments, chwe chyfrol, 1893-1905, catalog yr ychwanegir ato gan dair cyfrol a baratowyd yn y Llyfrgell Genedlaethol. Heblaw hyn oll y mae gwaith cynhwysfawr C. A. Maunsell ac E. P. Statham, History of the Family of Maunsell (Mansell, Mansel), a gyhoeddwyd yn dair cyfrol cwarto (London, 1917-20) - cyfrolau sydd yn delio â'r prif gainc, sef Mawnseliaid Penrhys a Margam, ac â changhennau eraill. Cawsid manylion yn 1886 gan G. T. Clark yn ei Limbus Patrum Morganiae et Glamorganiae; cofier, serch hynny, wrth ddefnyddio llyfr Clark, ei baratoi rai blynyddoedd cyn i De Gray Birch ddechrau gweithio ar ddogfennau Penrice a Margam.

Dechreua Clark (op. cit.) gyda HENRY MANSEL, gŵr y tybir iddo ymsefydlu yng Ngŵyr yn ystod teyrnasiad Edward I. Yn ei ddilyn ef ceir RICHARD (ROBERT ?) MANSEL, RICHARD MANSEL, Syr HUGH MANSEL (a briododd Isabel, ferch ac aeres Syr John Penrice o gastell Penrhys yng Ngŵyr), a PHILIP MANSEL, a laddwyd yn Rhyfeloedd y Rhosynnau ac y dygwyd cyngaws o 'attainder' yn ei erbyn. Gwraig Philip Mansel oedd Mary, ferch Griffith ap Nicholas, Newton; mab i'r ddau hyn oedd JENKIN MANSEL, Oxwich, ' y gwrol,' a lwyddodd i gael gosod o'r neilltu yr anghlod teuluol a'r golled a achoswyd oblegid 'attainder' ei dad.

Mab Jenkin Mansel, sef Syr RICE MANSEL (a fu farw 1559), o Oxwich a Penrhys, a brynodd abaty Margam gan y Goron (De Gray Birch, Catalogue). Mab iddo oedd Syr EDWARD MANSEL (a fu farw 1595), Oxwich, Penrhys, a Margam, a briododd Jane Somerset, merch Henry, ail iarll Worcester; plant i'r ddau hyn oedd THOMAS MANSEL (yr aer); FRANCIS MANSEL (y tarddodd Mawnseliaid Muddlescombe, Sir Gaerfyrddin, ohono; amdanynt hwy gweler catalog Ll.G.C. o ddogfennau Muddlescombe, a hefyd yr ysgrif ar Francis Mansel); a Syr Robert Mansel, is-lyngesydd llynges Lloegr.

Daeth THOMAS MANSEL (a fu farw 1631) yn farwnig. Bu'n siryf ac yn aelod seneddol dros sir Forgannwg, ac efe oedd tad ARTHUR MANSEL, tad Bussy Mansel. Dilynwyd y barwnig 1af gan ei fab hynaf Syr LEWIS MANSEL (a fu farw 1638), yr ail farwnig, a ymaelododd yn Rhydychen, 30 Ionawr 1600/1 ac a dderbyniwyd yn Lincoln's Inn, 5 Chwefror 1603/4. Dywed Anthony Wood iddo roddi £50 y flwyddyn am lawer o flynyddoedd i lyfrgell Coleg Iesu, Rhydychen; yr oedd yn gefnder i Francis Mansell, pennaeth Coleg Iesu. Ymddengys i Syr Lewis gael ei ddilyn gan ei fab HENRY MANSEL, a fu farw yn ŵr ieuanc, fodd bynnag, ac a ddilynwyd gan ei frawd Syr EDWARD MANSEL (bu farw 17 Tachwedd 1706 yn 70 oed), y 4ydd barwnig, ac un o wŷr mwyaf blaenllaw De Cymru yn ei gyfnod. Ymwelodd y dug Beaufort â Margam yn amser Syr Edward, sef pan oedd yn gwneud ei 'Progress' (1684) trwy Gymru fel llywydd cyngor y goror - ' Lord President of Wales '; gweler T. Dineley, Account of the Progress. Ceir cyfeiriadau mynych at Syr Edward yn nogfennau Margam yn y Llyfrgell Genedlaethol; gweler ail gyfrol catalog y Llyfrgell - e.e. ei swydd a'i waith fel is-lyngesydd Deheudir Cymru - a hefyd gatalogiau De Gray Birch. Merch iddo oedd Martha a briododd Thomas Morgan, Tredegar - gweler Morgan (Teulu), Tredegar; achosodd y briodas hon gryn bryder a thrafferth i Syr Edward, yn enwedig ar yr adeg honno pan oedd y mab-yng-nghyfraith ieuanc yn anfodlon iawn i ddychwelyd o'i daith ar gyfandir Ewrop.

Crewyd Syr THOMAS MANSEL (a fu farw 1723), barwnig, mab ac aer Syr Edward Mansel, yn farwn 1af Mansel ar 31 Rhagfyr 1711. Fel ei dad yr oedd yn flaenllaw yn Neheudir Cymru; yr oedd hefyd yn ŵr go bwysig yn Lloegr, yn enwedig yng nghylchoedd y Senedd a'r Llywodraeth. Bu'n aelod seneddol dros Gaerdydd, 1689-98, a thros sir Forgannwg o 1699 hyd 1711. Cyflwynodd Edward Lhuyd ei Archaeologia Britannica, 1707, iddo. Bu yntau, fel ei dad, yn is-lyngesydd Deheudir Cymru. O 1704 hyd 1709 ac o 1711 hyd 1712 yr oedd yn ' Controller of the Household ' i'r frenhines Anne. Yr oedd yn un o gomisiynwyr y Trysorlys, 1710-1, ac yn un o ' Tellers' yr Exchequer, 1712-4. Yr oedd yn gyfarwydd iawn â'r deon Swift sydd yn cyfeirio ato yn ei Journal to Stella; yr oedd hefyd ar delerau cyfeillgar â Robert Harley (iarll Oxford wedi hynny), Francis Gwyn, ac Erasmus Lewis - tri gŵr y ceir llythyrau oddi wrthynt at Mansel yng nghasgliad Margam; gweler hefyd Hist. MSS. Comm., Report on the Duke of Portland MSS.

Dilynwyd y barwn Mansel 1af gan ei ŵyr, THOMAS MANSEL, ail farwn Mansel. Bu ef farw yn 1744 heb aer, a dilynwyd ef gan ddau ewythr: (a) CHRISTOPHER MANSEL, 3ydd barwn Mansel, na oroesodd ei nai ond am ychydig fisoedd, a (b) BUSSY MANSEL, 4ydd farwn Mansel (bu farw 1750); ei ail wraig ef oedd Barbara, merch William, ail iarll Jersey. Yr aer olaf yn dwyn yr enw Mansel oedd MARY MANSEL (chwaer Christopher a Bussy), a phan briododd hi John Ivory Talbot, Lacock Abbey, Wiltshire, y daeth y newid ar gyfenw y brif gangen - Talbot, Mansel Talbot, Talbot, etc.

Fel y gwelwyd uchod, cymerai rhai aelodau o'r teulu gryn ddiddordeb yn hanes a llenyddiaeth eu gwlad; gweler G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1946), ac edrycher ei fynegai o dan enwau Syr Edward Mansel (bu farw 1585) a Syr Lewis Mansel (bu farw 1636). Rhoes Syr Lewis fenthyg Llyfr Coch Hergest (Jes. Coll. MS. 1) i'r Dr. John Davies, Mallwyd, yn 1634, a dywedir i Syr Edward ysgrifennu ' An Account of the cause of the Conquest of Glamorgan by Sir Robert Fitz Hamon and his twelve knights ' (gweler Llanover MSS. C. 27 a C. 74 a J. H. Matthews, Cardiff Records, iv).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.