MANSEL, BUSSY (1623 - 1699), Briton Ferry, Sir Forgannwg, pennaeth milwyr plaid y Senedd yn y Rhyfel Cartrefol ac aelod seneddol

Enw: Bussy Mansel
Dyddiad geni: 1623
Dyddiad marw: 1699
Priod: Anne Mansel
Priod: Catherine Mansel (née Perry)
Rhiant: Jane Mansel (née Price)
Rhiant: Arthur Mansel
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pennaeth milwyr plaid y Senedd yn y Rhyfel Cartrefol ac aelod seneddol
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd yn 1623, mab iau (eithr aer) Arthur Mansel (trydydd mab y Syr Thomas Mansel, barwnig, Margam, a fu farw yn 1631) a'i wraig Jane, merch ac aeres William Price, Briton Ferry. Pan nad oedd ond 22 oed fe'i penodwyd, 17 Tachwedd 1645, yn bennaeth lluoedd arfog y Senedd yn Sir Forgannwg. Daeth yn aelod o'r Uchel Lys Barn (25 Mehefin 1651), cafodd gomisiwn (13 Gorffennaf 1659) fel cyrnol 'to command the Militia Troop in cos. Pembroke, Carmarthen, and Cardigan,' ac, ar 30 Gorffennaf yn yr un flwyddyn, fe'i gwnaethpwyd yn bennaeth holl luoedd y milisia yn Ne Cymru, 'horse and foot, to lead them against the enemy if need be.' Cyn hyn, sef ar 14 Mawrth 1654, fe'i dewisasid yn gomisiynwr milisia yn Ne Cymru. Daliodd swyddi eraill hefyd - aelod o bwyllgor sir Forgannwg (y 'County Committee'), 1645, comisiynwr i godi arian yn Sir Forgannwg, 1647, comisiynwr cynorthwyol y Sir, 1657, comisiynwr i drefnu diogelwch Oliver Cromwell, 4 Mai 1658, a chomisiynwr o dan y ddeddf i droi 'insufficient ministers and schoolmasters' allan o'u swyddi. Y mae rhif 1137 ymysg dogfennau Mawnseliaid Penrice a Margam yn Ll.G.C. yn warant ustusiaid heddwch Sir Forgannwg yn awdurdodi llywiawdr castell Chepstow i ryddhau Bussy Mansel ac eraill a gymerasid i'r ddalfa fel 'disaffected and suspitious persons'; y mae'r ddogfen wedi ei dyddio 25 Gorffennaf 1685 a Syr Edward Mansel, barwnig, Margam, yn un o'r rhai a'i llofnododd.

Etholwyd Bussy yn aelod seneddol dros sir Forgannwg yn 1679 (ddwywaith), 1689, 1690, 1695, a 1698. Priodasai, 17 Ebrill 1646, Catherine, merch Hugh Perry a gweddw Syr Edward Stradling, castell S. Dunawd, Morgannwg (er nad ydyw'r tablau achau arferol yn cyfeirio at ail briodas y mae tystiolaeth i hynny ar gael).

Y mae rhai llythyrau a ysgrifennwyd gan Bussy neu ato yng nghadw yng nghasgliad Penrice a Margam (yn Ll.G.C.); dyma'r cyfeiriadau: L 104a a b, 126, 149, 190, 206, 224, 228-9, 232-5, 238, 240-2, 244, 260, 263, 293-5. Yn L 104 (14 a 15 Chwefror 1669/70) ceir cyfeiriad at weithio gwaith glo. Dengys L 149 fod Bussy erbyn hyn (5 Mai 1678) yn briod yr ail waith - y mae'n ysgrifennu at ei wraig Anne, yn Henllys, yn gofyn iddi dalu £62 1s. 6d. i Syr Edward Mansel, 'Sir Edward haveing allready disbursed soe much for me to my souldiers.' Llythyr ato ynglŷn â choed a werthwyd gan Syr Humphrey Mackworth ydyw L 190 (16 Awst 1687). Cyfeiria L 224 (5 Ebrill 1691) at godi gwŷr at wasanaeth y llynges - hwn, fel amryw o'r llythyrau, wedi ei ysgrifennu at Syr Edward Mansel, dirprwylyngesydd De Cymru. Mewn llythyrau eraill rhydd Bussy newyddion o'r Senedd ac o Lundain.

Bu Bussy Mansel farw yn 1699 (y mae ei ewyllys wedi ei dyddio 30 Mawrth 1699). Ei aer oedd ei ŵyr, THOMAS MANSEL (Clark, Cartae, vi, 2250), a ddilynwyd, yn 1706, fel perchennog stad Briton Ferry gan BUSSY, 4ydd barwn Mansel; dyma'r Bussy a briododd Lady Barbara, merch William, 3ydd iarll Jersey.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.