MACKWORTH, Syr, HUMPHREY (1657-1727), diwydiannwr a seneddwr

Enw: Humphrey Mackworth
Dyddiad geni: 1657
Dyddiad marw: 1727
Priod: Mary Mackworth (née Evans)
Plentyn: Herbert Mackworth
Rhiant: Anne Mackworth
Rhiant: Thomas Mackworth
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwydiannwr a seneddwr
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: David Williams

Ganwyd ym mis Ionawr 1657, mab Thomas ac Anne Mackworth, Betton Grange, Sir Amwythig. (Yr oedd ei daid, o'r un enw, yn flaenllaw fel milwr ac fel gwleidyddwr ar ochr y Piwritaniaid yn y Rhyfel Cartrefol.) Ymaelododd yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen, 11 Rhagfyr 1674, aeth i'r Middle Temple, 10 Mehefin 1675, daeth yn fargyfreithiwr yn 1682, a gwnaethpwyd ef yn farchog gan Siarl II ar 15 Ionawr 1683.

Yn 1686 priododd Mary, ferch Syr Herbert Evans, Gnoll, Castell Nedd, Sir Forgannwg. (Y mae'r weithred briodas, sydd yn rhoddi'r manylion am y trefniadau ariannol, wedi ei dyddio 16 Mehefin.) Pan fu ei chwiorydd farw, daeth Mary yn unig aeres ei thad; bu hithau farw cyn mis Gorffennaf 1696. Wedi ei briodas, ymsefydlodd Mackworth yng Nghastell Nedd. Cawsai David Evans, taid ei wraig, a'i thad, brydlesoedd a oedd bron yn gyfystyr â rhoddi iddynt hwy yn unig hawl i godi glo yn y cylch hwnnw. Adnewyddwyd y prydlesoedd hyn i Mackworth, a fu'n ddiwyd yn datblygu gweithio glo ar stadau ei wraig. Buasid yn toddi copr yng Nghastell Nedd yn niwedd yr 16eg ganrif, ac y mae'n bosibl i'r gwaith gael ei ddwyn ymlaen ar brydiau yn yr 17eg ganrif. Defnyddid glo lleol o'r cychwyn wrth doddi copr yno ac yng Nghernyw, ac oblegid hyn daeth Mackworth i gymryd diddordeb mewn toddi copr, ac efallai iddo ddechrau toddi yng Nghastell Nedd mor gynnar â 1695. Yn 1698 prynodd hawliau diwydiannol eang yn Sir Aberteifi. Darganfyddasid haenau mwynawl gwerthfawr ar stadau Gogerddan yn 1690, a ffurfiasid cwmni gan Syr Carbery Pryse i'w gweithio. Daeth y gwaith hwn yn fwyfwy pwysig yn 1693 pan ddaeth monopoli y 'Society of Mines Royal' i'w derfyn. Wedi marw Syr Carbery Pryse yn 1694, prynwyd ei hawliau mwynawl ef am £16,440 yn 1698 gan Mackworth; aildrefnodd ef yr antur o dan yr enw 'Company of Mine Adventurers,' a chafwyd siarter yn 1704. Datblygodd y diwydiant toddi copr wedi hynny yng Nghastell Nedd, a oedd mewn man canolog rhwng siroedd Aberteifi a Chernyw, y ddau le y ceid defnyddiau crai ohonynt. Yr oedd Mackworth, fodd bynnag, yng nghanol anghydwelediadau a chwerylon cas â pherchenogion gweithydd glo eraill yn y gymdogaeth, yn enwedig Syr Edward Mansel , Briton Ferry, ac aeth ei gwmni, y 'Company of Mine Adventurers,' cwmni a sefydlasid ar seiliau ariannol a oedd yn ansicr ac (i raddau) yn anghyfreithlon, yn fethdalwyr yn 1709. Bu pwyllgor a etholwyd gan Dŷ'r Cyffredin yn chwilio i'r mater (1710), a daeth y pwyllgor hwnnw i'r casgliad bod Mackworth yn 'guilty of many notorious and scandalous frauds,' eithr daeth gwaredigaeth i Mackworth gan i Lywodraeth y Chwigiaid gwympo y flwyddyn honno. Yn 1713 ffurfiodd y 'Company of Mineral Manufacturers,' eithr daeth gweithrediadau'r cwmni hwn i ben yn 1719, serch bod toddi yn mynd ymlaen yng Nghastell Nedd hyd at farwolaeth Mackworth. Yn 1715 prynodd rai maenorau yng Nghastell Nedd.

Bu Mackworth yn aelod seneddol dros sir Aberteifi yn 1701 ac o 1702 hyd 1705. Wedyn gadawodd etholaeth sir Aberteifi am un Prifysgol Rhydychen, eithr bu'n aflwyddiannus a bu'n eistedd dros Totnes o 1705 hyd 1707. Dymunai gael ei ethol dros sir Aberteifi yn 1708, eithr yr oedd Lewis Pryse , Gogerddan, yn ymgeisydd. Ceisiodd Mackworth gael ei ddewis dros fwrdeisdrefi Aberteifi mewn 'by-election' ym mis Chwefror 1710; y pryd hwnnw, fodd bynnag, yr oedd yr helynt ynglŷn ag arian ei gwmni, etc., ar ei uchafbwynt a threchwyd ef. Cafodd ei ethol unwaith yn rhagor dros y sir ym mis Hydref 1710 a bu'n aelod hyd 1713. Yr oedd yn aelod seneddol diwyd, a bu'n gweithredu ar nifer eithriadol fawr o bwyllgorau. Yr oedd ei ddaliadau gwleidyddol yn nodweddiadol o'r parti Torïaidd ac Uchel Eglwysig, ac, ar waethaf y straen Biwritanaidd a oedd yn ei deulu, bu'n bleidiwr cryf i'r 'Occasional Conformity Act.'

Yr oedd Mackworth yn un o'r pedwar lleygwr a gynorthwyodd Dr. Thomas Bray i ffurfio'r S.P.C.K. ar 8 Mawrth 1699. Yn 1706 trefnodd ei gwmni i dalu £20 y flwyddyn tuag at ysgol elusennol yng ngwaith mwyn Esgair Hir yn Sir Aberteifi, a £30 y flwyddyn i weinidog yn yr un lle, ynghyd â £20 y flwyddyn tuag at ysgol elusennol yng Nghastell Nedd. Ar 17 Medi 1719, yn herwydd yr anhawster i gael ysgolfeistr yng Nghastell Nedd, awgrymodd i'r S.P.C.K. gyflogi ysgolfeistr 'cylchynol' neu 'grwydrol' i agor ysgolion newydd ac i addysgu is-athrawon ynddynt. Cyhoeddodd nifer o weithiau crefyddol. Y mae ei dduwioldeb a'i weithredoedd haelionus yn gwrthgyferbynnu'n ddirfawr â'i weithrediadau ariannol amheus. Bu farw 25 Awst 1727.

Dilynwyd Mackworth yn ei stadau gan ei fab hynaf

HERBERT MACKWORTH (1687 - 1765), aelod seneddol

Bu ef yn cynrychioli Caerdydd yn y Senedd o 1739 hyd ei farw - o dan nawdd plaid awdurdodol castell Caerdydd.

Dilynwyd yntau drachefn gan ei fab

Syr HERBERT MACKWORTH (1737 - 1791), aelod seneddol

Bu yntau'n cynrychioli Caerdydd o 1765 hyd 1790 - y tad a'r mab cydrhyngddynt yn cynrychioli'r un etholaeth am 51 mlynedd. Eithr gorfu iddo ymneilltuo yn 1790 pan ddaeth aer iarll Bute i'w oed ac eisiau'r sedd arno. Gwnaethpwyd ef yn farwnig yn 1776. Bu ei fab ef, Syr ROBERT HUMPHREY MACKWORTH (1764 - 1794), farw yn ddi-etifedd.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.