BUTE Ardalyddion Bute, Castell Caerdydd, etc.

Gyda chysylltiadau Cymreig y teulu dylanwadol hwn y bydd a fynno'r nodiadau sydd yn dilyn. Yn Ynys Bute, Sgotland, y mae eu prif gartref.

WILLIAM HERBERT, Iarll Penfro Cyntaf o'r 2il greadigaeth, Barwn Herbert o Gaerdydd (bu farw 1570)

Mab ydoedd ef i Richard Herbert, Ewias, a'i wraig Margaret, merch ac aeres Syr Matthew Cradock, Abertawe. Yn 1551 crewyd ef yn ' baron Herbert of Cardiff ' ac iarll Pembroke. Cynhullodd yr Herbertiaid, ieirll Pembroke (o'r ail greadigaeth), ystadau mawrion a bu eu dylanwad a'u grym yng Nghymru yn fawr; gweler HERBERT, ieirll Pembroke (o'r ail greadigaeth). Bu'r ddau iarll cyntaf yn llywyddion Cyngor y Goror a bu eu dilynwyr yn aelodau o'r cyngor hwnnw. Daeth y 4ydd iarll yn iarll Trefaldwyn hefyd, ac o hynny ymlaen dygid y ddau deitl ynghyd. Cafodd y teulu ystadau abaty Wilton yn Wiltshire hefyd. Wedi'r Adferiad lleihaodd eu diddordeb yng Nghymru a gwanhaodd eu dylanwad yn y wlad. Gwerthwyd llawer o'u tiroedd Cymreig ac aeth y gweddill i feddiant THOMAS, yr is-iarll Windsor cyntaf (1699), a baron Mountjoy (1712), ail fab yr iarll Plymouth 1af (1682), pan ymbriododd yr is-iarll a Charlotte, unig blentyn 7fed iarll Pembroke (a Montgomery), a gweddw yr ail farwn Jeffreys. Gwerthodd yr is-iarll Windsor rai o arglwyddiaethau'r teulu yn sir Fynwy, eithr disgynnodd y tiroedd yn Sir Forgannwg i'w ŵyres, CHARLOTTE JANE, cyd-aeres yr ail is-iarll. Priododd Charlotte Jane, 1766, JOHN, ARGLWYDD MOUNTSTUART (1744 - 1814), mab ac aer 3ydd iarll Bute, a fu'n brif weinidog o 1762 hyd 1763. Yn 1776 crewyd yr arglwydd Mountstuart yn ' BARON CARDIFF OF CARDIFF CASTLE,' ac, yn 1796, yn is-iarll Mountjoy, iarll Windsor, ac yn ARDALYDD ('MARQUESS OF') BUTE.

Dechreuasai'r ardalydd Bute 1af adnewyddu castell Caerdydd er mwyn ei wneuthur yn haws byw ynddo. Bu farw yn 1814. Gan i'w fab hynaf, John, arglwydd Mountstuart, farw o'i flaen (yn 1794), fe'i dilynwyd gan ei ŵyr, John, ail ardalydd Bute, a aned ar 10 Awst 1793.

JOHN, ail ardalydd Bute (1793 - 1848)

Cyfeirir at John fel 'the creator of modern Cardiff.' Cafodd ei addysg yn Eton ac yng Ngholeg Crist, Caergrawnt (M.A., 1812). Daeth yn arglwydd-raglaw sir Forgannwg. Efe ydyw'r Arglwydd Bute y bu a fynnai ef gymaint i'w wneuthur a chynnydd cyflym Caerdydd a'r cyffiniau, yn fasnachol ac mewn ystyron eraill, yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif. Cafodd llwyddiant masnachol Caerdydd a rhannau o Ddeheudir Cymru symbyliad pwysig a hwb ymlaen pan agorwyd, 5 Hydref 1839, y Bute Dock cyntaf, sef y West Bute Dock. (Y mae'r East Bute Dock, 1859, y Roath Basin, 1874, a'r Roath Dock, 1887, yn perthyn i gyfnod olynydd yr ail ardalydd.) Yr oedd yr Arglwydd Bute yn F.R.S., F.S.A., F.R.A.S., ac yn is-lywydd y Royal Cambrian Institution.

Bu'r ail ardalydd farw yn sydyn yng nghastell Caerdydd, 18 Mawrth 1848. Dilynwyd ef gan ei fab

JOHN PATRICK CRICHTON STUART, 3ydd ardalydd Bute (1847 - 1900)

Disgrifir ei yrfa ef yn y D.N.B. Cafodd ei addysg yn Harrow a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen. Bu'n faer Caerdydd, 1890, yn llywydd Coleg Prifathrofaol Caerdydd, 1890, ac yr oedd ei ddiddordebau ynghlwm mewn dulliau eraill hefyd â chynnydd Caerdydd yn fasnachol a diwylliannol. Yr oedd yn llywydd yn eisteddfod genedlaethol y Rhyl, 1892. Yr oedd yn ysgolhaig a chyhoeddodd lyfrau : (a) cyfieithiad ganddo ef ei hun o'r llyfr gwasanaethau eglwysig a elwir yn ' Breviary,' 1879 - yr oedd wedi troi'n Babydd cyn hyn; (b) On the ancient language of Teneriffe, 1891; The Arms of the Royal and Parliamentary Boroughs, 1897, yn gyd-awdur â J. R. N. Macphail a H. W. Lonsdale); efe hefyd ydoedd cyfieithydd llyfr D. Bikelas, Seven Essays on Christian Greece, 1890. Yn ei gyfnod ef bu llawer o waith archwilio i mewn i adeiladu'r castell yng Nghaerdydd a llawer o ailadeiladu arno. Bu farw 9 Hydref 1900. (Am ragor o fanylion gweler erthygl faith arno yn y South Wales News, 10 Hydref 1900.)

Dilynwyd y 3ydd ardalydd gan

JOHN, 4ydd ardalydd Bute (1881 - 1947)

Ganwyd 20 Mehefin 1881. Yn ei gyfnod ef bu llawer o waith adnewyddu ar Caerdydd a Chaerffili. Gwerthodd ef y rhan fwyaf o'i ystadau yn Ne Cymru yn 1938. Yr oedd yn ' Knight of the Thistle.' Bu farw 25 Ebrill 1947, gan gael ei ddilyn gan y 5ed ardalydd, a drosglwyddodd gastell Caerdydd i Gorfforaeth Caerdydd yn 1950; y mae'r castell yn awr yn gartref ysgol genedlaethol drama a cherddoriaeth. Yn 1950 hefyd trosglwyddodd y 5ed ardalydd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru y casgliad helaeth o ddogfennau'r ystad (yn cynnwys dogfennau maenorau yn Ne Cymru) a oedd wedi cael eu cynnull ynghyd mewn canolfan yn ymyl y castell.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.