CRADOCK, Syr MATHEW neu MATHIAS (1468? - 1531), swyddog brenhinol yn Ne Cymru

Enw: Mathew Cradock
Dyddiad geni: 1468?
Dyddiad marw: 1531
Priod: Katherine Warbeck (née Gordon)
Priod: Alice Cradoc (née Mansel)
Plentyn: Margaret Herbert (née Cradock)
Rhiant: Jennet Horton
Rhiant: Richard ap Gwilim ap Evan ap Cradock Vreichvras
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: swyddog brenhinol yn Ne Cymru
Maes gweithgaredd: Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Yr oedd yn un o ddisgynyddion Einion ap Collwyn, ac yn fab i Richard ap Gwilim ap Evan ap Cradock Vreichfras a Jennet Horton o Gastell Cantelupeston (Candleston), ger Newton, Sir Forgannwg. Fel swyddog dywedir iddo fod yn feddiannol ar awdurdod mawr yn Ne Cymru. Disgrifir ef ar ei feddfaen fel dirprwy i Charles, iarll Worcester, ym Morgannwg, fel canghellor y cyfryw, ac fel ystiward Gŵyr a Chilfai. Credir iddo fod yn ystiward Gŵyr yn 1491 a 1497. Apwyntiwyd un Matthew Cradok yn gwnstabl cestyll Kayre Filli a Kenfike yn Ne Cymru 6 Mawrth 1485-6 (Pat. Rolls, 1 H. VII), ac, yng Ngorffennaf 1491, rhoddir comisiwn i un Matthew Cradok neu Cradoke ac eraill i gasglu tuag at ryfel y brenin yn erbyn Ffrainc yn arglwyddiaethau ' Cardif, Glamorgan, Morgannok, Gower, Ilande, Uske, Carlyon ' (Pat. Rolls, 6 H. VII). Nodir hefyd Matthew Craddoke o Lundain neu Abertawe fel un a dderbyniodd bardwn am fethu ymddangos i ateb cyhuddiad o flaen ustusiaid y brenin, 6 Chwefror 1504-5 (Pat. Rolls, 20 H. VII). Canodd y bardd cyfoes Iorwerth Fynglwyd ddwy gerdd yn cyfeirio at Syr Mathew, un pan garcharwyd y bardd ganddo yn Abertawe, ac un yn dymuno cael ei gymodi ag ef (Lewis a Jones, Mynegai). Priododd (1), Alice, merch Philip Mansel o Gastell Oxwich, a (2), Katherine Gordon, gweddw Perkin Warbeck. Bu iddo ferch, Margaret, o'r wraig gyntaf. Priododd hi Richard Herbert o Ewyas, sir Henffordd, a hwy oedd rhieni William Herbert a wnaed yn iarll Penfro, 1551. Bu farw rhwng 14 Mehefin a 16 Awst 1531 a chladdwyd ef yn Abertawe.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.