LEWIS, HENRY (1889 - 1968), ysgolhaig Cymraeg a Cheltaidd, ac Athro prifysgol

Enw: Henry Lewis
Dyddiad geni: 1889
Dyddiad marw: 1968
Priod: Gwladys Lewis (née Thomas)
Rhiant: William Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig Cymraeg a Cheltaidd, ac Athro prifysgol
Maes gweithgaredd: Addysg; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: David Myrddin Lloyd

Ganwyd 21 Awst 1889, mab ieuangaf William Lewis, o Ynystawe, Morgannwg. O ysgol sir Ystalyfera aeth i Goleg y Brifysgol Caerdydd lle y graddiodd yn y Gymraeg, ac yna i Goleg Iesu, Rhydychen, i astudio wrth draed yr Athro Syr John Rhŷs. Enillodd raddau M.A. a D.Litt. (Cymru). Dechreuodd ei yrfa fel athro yn ei hen ysgol yn Ystalyfera ac wedyn yn ysgol sir Llanelli. Yn ystod Rhyfel Byd I gwasanaethodd yn Ffrainc fel rhingyll yn y Gwarchodlu Cymreig ac fel ail-isgapten gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. O 1918 hyd 1921 bu'n is-ddarlithydd yn adran y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, a daliodd gadair y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe o'i gychwyniad yn 1921 nes iddo ymddeol yn 1954. Yn 1921 hefyd y priododd â Gwladys, merch ieuangaf William Thomas, o Dreorci, a bu iddynt ddwy ferch.

Anodd yw hi heddiw ddirnad yr anawsterau a oedd yn ffordd astudio'r iaith Gymraeg a'i llên pan sefydlwyd cyrsiau gradd yn y Gymraeg. Ymhlith y dyrnaid bach o ysgolheigion a weddnewidiodd y sefyllfa trwy olygu llawer o'r testunau hanfodol, gan eu dehongli a manylu ar ystyron geiriau, ac ar gystrawen, fe saif H. L. yn y rheng flaenaf - gwaith a wnaed yn gyfochrog â chynnal adran o'r brifysgol gyda chymorth un neu ddau yn unig o ddarlithwyr. Dechreuodd mor gynnar ag 1921 ar gyhoeddi cyfieithiadau Cymraeg Canol o destunau Lladin : Darnau o'r Efengylau (Cymmrodor, 31), Chwedleu seith doethon Rufein (1925), Delw y byd (1928, cywaith gyda Pol Diverres), ac yn bennaf Brut Dingestow (1942), gyda rhagymadrodd gwerthfawr iawn i astudwyr cyfieithu i'r Gymraeg o'r Lladin. Yn gynnar iawn yn ei yrfa hefyd bu'n golygu a dehongli gwaith beirdd yr oesoedd canol. Ei ddau gyfraniad mwyaf arbennig yn y maes hwn yw ei waith ar Iolo Goch ar gyfer Cywyddau Iolo Goch ac eraill (1925 ac 1937), a Hen gerddi crefyddol (1931), a oedd yn llafur arloesol ar adran bwysig o waith y Gogynfeirdd. Golygodd hefyd rai testunau o gyfnod y Dadeni megis Hen gyflwynadau (1948), a rhai diweddar fel Llanwynno, Glanffrwd (1949), Cydymaith yr hwsmon, Hugh Jones, Maesglasau (1949) a Morgannwg Matthews Ewenni (1953).

Ond i ddychwelyd at ei brif feysydd, paratôdd gydag Elizabeth J. Louis Jones y Mynegai i farddoniaeth y llawysgrifau (1928), ar ôl golygu'r flwyddyn flaenorol gynnwys Peniarth MS 53: Proffwydoliaethau Rhys Fardd . Y mae Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd (cylchgrawn a olygodd ei adran iaith a llên o 1950 hyd 1964), ac i raddau llai gylchgronau ysgolheigaidd eraill yn frith tros gyfnod hir o'i erthyglau a'i nodiadau sylfaenol eu pwys ar iaith a llên o gyfnod y Cynfeirdd a'r glosau cynnar ymlaen, ac yn arbennig ar forffoleg a chystrawen, pynciau yr ymdrinir â rhai ohonynt hefyd yn ei lyfr Datblygiad yr iaith Gymraeg (1931), ei ddarlith Syr John Rhŷs The Sentence in Welsh (1942), a'i astudiaeth Yr elfen Ladin yn yr iaith Gymraeg 1961).

Astudiodd lawer ar y Gymraeg yn ei chyd-gysylltiadau, fel y gwelir yn Llawlyfr Cernyweg Canol (1928, 1946), Llawlyfr Llydaweg Canol (1922, 1935 ac 1966 - yr olaf gyda chydweithrediad J.R.F. Piette), ac yn anad unlle yn ei gywaith â Holgar Pedersen yn cyfieithu ac yn ychwanegu at gampwaith hwnnw, sef y Vergleichende Grammatik der Keltischen Sprachen, i gynhyrchu A Concise Comparative Celtic Grammar (1937, ac yn helaethach yn 1961).

Yn gynnar yn ei yrfa bu H. L. yn un o olygyddion ' Cyfres y Werin a'r Brifysgol ', ac yr oedd ganddo law yng nghyfieithu Brenin yr ellyllon (Gogol) ar ei chyfer. Yr oedd yn aelod o bwyllgor golygyddol Geiriadur Prifysgol Cymru, a pharatôdd y Collins-Spurrell Welsh dictionary (1960). Ymhlith ei orchwylion eraill bu'n cymryd rhan yn niwygio Caniedydd yr Annibynwyr Cymraeg, a diwygio orgraff Beibl y plant (1929), Y Testament Newydd (1936), Y Beibl (1955), a'r Apocrypha (1959). Cyfieithodd amryw o adroddiadau'r Llywodraeth, a chomisiynau, etc., gan gyfrannu'n fawr at godi safon Cymraeg cyfieithiadau o'r fath. Bu'n aelod o amryw fyrddau cyhoeddus, pwyllgorau a chymdeithasau gwirfoddol : i enwi rhai ohonynt yn unig - Cyd-bwyllgor Addysg Cymru, cyngor Coleg Harlech (bu'n gadeirydd), clerc a Warden Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru, is-lywydd Cyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru, aelod anrhydeddus o'r Royal Irish Academy, is-lywydd o Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Gwnaethpwyd ef yn C.B.E. yn 1954, ac anrhydeddwyd ef â gradd LL.D. gan Brifysgol Cymru a D.Litt.Celt. gan Brifysgol Genedlaethol Iwerddon. Bu farw 14 Ionawr 1968.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.