JONES, HUGH (1749 - 1825), ' Hugh Jones Maesglasau,' cyfieithydd ac emynydd

Enw: Hugh Jones
Dyddiad geni: 1749
Dyddiad marw: 1825
Rhiant: Elizabeth Jones
Rhiant: William Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfieithydd ac emynydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cerddoriaeth; Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Elwyn Evans

Enwau ei rieni oedd William ac Elizabeth, ac fe'i bedyddiwyd ym Mallwyd ar 24 Tachwedd. Cafodd addysg well nag a oedd yn gyffredin yn ei gyfnod. Aeth i Lundain yn 23 oed a bu'n athro ysgol yno. Yr oedd yn ôl yng Nghymru erbyn 1786 ac ef oedd un o gychwynwyr ac ysgrifennydd achos y Methodistiaid Calfinaidd ym Mallwyd yn y flwyddyn honno. Bu'n gweithio ar y fferm am rai blynyddoedd; yna, o 1798 hyd 1817 bu'n cadw ysgol mewn gwahanol ardaloedd ym Meirionnydd a Sir Drefaldwyn. O 1817 hyd ei farwolaeth, 16 Ebrill 1825, bu'n gweithio i wahanol gyhoeddwyr yn cyfieithu llyfrau i'r wasg - yn Nolgellau gyda R. Jones, yng Nghaernarfon gyda L. E. Jones, ac yn Ninbych gyda Thomas Gee. Cyhoeddodd dros 20 o lyfrau, y rhan fwyaf ohonynt yn gyfieithiadau o'r Saesneg ac yn llyfrau crefyddol. Ei lyfr cyntaf oedd Cydymaith yr Hwsmon (1774). Cyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth, sef Gardd y Caniadau yn 1776 a Hymnau Newyddion yn 1797 - yn hwn y cafwyd ei emyn adnabyddus - ' O tyn y gorchudd yn y mynydd hyn.' Ymhlith ei gyfieithiadau ceir Afalau Aur i Bobl Ifeingc gan Thomas Brooks (1782). Yn 1819 cyhoeddodd R. Jones, Dolgellau, ei gyfieithiad o Holl waith Josephus, yr Hanesydd Iuddewig. Yr oedd hefyd yn gerddor ac ef a gyfansoddodd y dôn ' Capel Cynon.' Adargraffwyd y Cydymaith yng ' Nghyfres y Fil ' ac yng ' Nghyfres Ddeunaw ' Gwasg Prifysgol Cymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.