JONES, RICHARD (1787 - 1856?), argraffydd a chyhoeddwr llyfrau

Enw: Richard Jones
Dyddiad geni: 1787
Dyddiad marw: 1856?
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: argraffydd a chyhoeddwr llyfrau
Maes gweithgaredd: Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: William Llewelyn Davies

Argraffydd a chyhoeddwr llyfrau yn Nolgellau, Pontypŵl, Merthyr Tydfil, Machynlleth, a Llanfyllin. Ganwyd 26 Mai 1787 yn Bryntirion, Bontddu, Sir Feirionnydd, mab William Jones a Catherine (Evans).

Rhoddir llawer o fanylion am yr argraffydd a'r cyhoeddwr pwysig hwn gan Ifano Jones yn ei Hist. of Printing and Printers in Wales, 1925; digon felly yw rhoddi yma grynodeb o'r ffeithiau. Prentisiwyd Richard Jones yn swyddfa argraffu Thomas Williams, Dolgellau, gŵr y ceir manylion amdano yntau yng nghyfrol Ifano Jones, daeth yn bartner gyda Thomas Williams yn 1807, a phan ymddeolodd Williams, yn 1808, yn berchennog. Priododd Catherine Evans yn Nolgellau ar 7 Mai 1809.

Richard Jones oedd argraffydd cyntaf Yr Eurgrawn Wesleyaidd, cyfnodolyn a gychwynnwyd ym mis Ionawr 1809; parhaodd i'w argraffu hyd 1811 ac wedyn o 1819 hyd 1824. Argraffodd y cylchgronau hyn hefyd: (a) Cylchgrawn Cymru, (b) Y Dysgedydd Crefyddol, (c) Pethau Newydd a Hen, (ch) Tysor i Blentyn, (d) Yr Athraw, (dd) Trysorfa Rhyfeddodau, (e) Y Dirwestwr. Cyhoeddodd weithiau mwy eu maint, e.e. adargraffiad, 1815, o eiriadur Saesneg - Cymraeg John Walters, gweithiau cyflawn Josephus, 1819, Beibl yr esgob Morgan, 1821, a 17 rhan o esboniad Mathew Henry. Bu'r argraffydd mewn ychydig o helynt ynglŷn â'r dreth ar bapur yn 1824; gwerthodd ei argraffwasg i'r Wesleaid, eithr yr oedd ganddo wasg arall yn 1825. Yn 1827 sefydlodd wasg ym Mhontypŵl a chadw gwasg Dolgellau i fynd; yn 1828 dechreuodd argraffu ym Merthyr Tydfil gyda John Jenkins ('Shôn Shincyn') a Thomas Williams ('Gwilym Morgannwg') yn bartneriaid iddo am gyfnod, sef hyd 1828, pryd y daeth y busnes newydd yn eiddo iddo yn gyfan gwbl (gweler Ifano Jones, op. cit., am deitlau rhai o'r gweithiau a ddaeth o weisg Pontypŵl a Merthyr). Torrodd y cysylltiad â Merthyr Tydfil yn 1829. Yn y cyfamser âi gwasg Dolgellau yn ei blaen; fe'i gelwid yn ' Gomerian Press,' ' Gomer-Wasg,' neu ' Y Wasg Omeraidd.' Pregethai 'r argraffydd gyda'r Wesleaid; gweithredai hefyd fel arwerthwr.

Yn 1842 gadawodd Richard Jones wasg Dolgellau yng ngofal ei deulu a sefydlu gwasg arall ym Machynlleth - honno yng ngofal ei fab ISAAC FRANCIS JONES, a'i gwerthodd, 1849, i Adam Evans, ac ymfudo i U.D.A., lle y bu farw 3 Tachwedd 1850. Y flwyddyn y gwerthwyd gwasg Machynlleth oedd y flwyddyn hefyd pryd y sefydlodd Richard Jones fab arall, yntau'n RICHARD JONES, yn argraffydd yn Llanfyllin, Sir Drefaldwyn; gwerthodd Richard Jones (y mab) y wasg hon ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Bu Richard Jones y tad farw c. 1855, eithr cadwyd busnes Dolgellau ymlaen hyd 1858 gan ei weddw.

Codasai Richard Jones bedwar o'i feibion i fod yn argraffwyr - sef Isaac Francis, Richard, Jabez, ac Abraham. Brawd iddo oedd LEWIS EVAN JONES (bu farw 1860). Dysgodd yntau grefft argraffu yn Nolgellau a dechreuodd argraffu ar ei gyfrifoldeb ei hun yng Nghaernarfon yn 1814.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.