WALTERS, JOHN (1721 - 1797), clerigwr a geiriadurwr

Enw: John Walters
Dyddiad geni: 1721
Dyddiad marw: 1797
Plentyn: Henry Walters
Plentyn: Daniel Walters
Plentyn: John Walters
Rhiant: John Walters
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a geiriadurwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Griffith John Williams

Ganwyd 22 Awst 1721, mab John Walters, masnachwr coed yn Llanedi yn sir Gaerfyrddin. Bu ei rieni farw pan oedd yn llanc ifanc. Aeth i Fasaleg yn sir Fynwy i gadw ysgol, a bu wedi hynny yn ddisgybl yn ysgol ramadeg y Bont-faen. Yna aeth i Fargam i gadw ysgol, ac yn 1750 ordeiniwyd ef yn offeiriad. Bu'n gurad ym Margam, ac wedi hynny cafodd guradiaeth barhaol Llanfihangel Ynys Afan. Arhosodd yno hyd 1759 pan gafodd reithoraeth Llandochau yn ymyl y Bont-faen, a ficeriaeth Saint Hilari. Yn 1795 rhoddwyd iddo brebend yn eglwys gadeiriol Llandaf. Bu farw ar 1 Mehefin 1797, a chladdwyd ef yn Llandochau. Yr oedd ganddo bum mab, ac enillodd dau ohonynt, John a Daniel, gryn fri fel beirdd ac ysgolheigion. Ef, y mae'n debyg, a ddenodd Rys Thomas, yr argraffydd, i'r Bont-faen i sefydlu'r wasg gyntaf ym Morgannwg. Cyhoeddodd A Dissertation on the Welsh Language, 1771, a Dwy Bregeth, 1772, ond ei brif waith ydoedd y geiriadur mawr Saesneg-Cymraeg. Fe'i seiliwyd ar eiriadur anghyhoeddedig William Gambold, ond bu Walters wrthi'n ddyfal yn casglu defnyddiau o bob math. Fe'i hargraffwyd yng ngwasg y Bont-faen, a daeth y rhan gyntaf allan ar 5 Ebrill 1770. Cyhoeddwyd 14 rhan rhwng 1770 a 1783, ond ni allwyd argraffu'r gweddill hyd 1794, pan drefnodd ‘Owain Myfyr’ i gwpláu'r gorchwyl yn Llundain. Lluniodd lu o eiriau sydd wedi ennill eu lle yng ngeirfa'r iaith, a cheisiodd ddangos sut i gyfieithu idiomau Saesneg. Cyhoeddwyd dau argraffiad yn y ganrif ddiwethaf, a dyma'r gwaith a oedd wrth benelin Daniel Silvan Evans pan luniai ei eiriadur Saesneg - Cymraeg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/