Cywiriadau

GAMBOLD (TEULU).

Yr oedd teulu o'r enw hwn yn nhref Aberteifi yn y 17eg ganrif a'r 18fed ganrif. Pan gymerwyd Lewis Morris o Fôn i'r carchar yn Aberteifi (1758), a'i ollwng dan feichiafon (Morris Letters, nodyn ar waelod i, 223), yn nhŷ rhyw WILLIAM GAMBOLD y lletyai; y mae'n bosibl (ond yn annhebyg) mai hwn oedd y gŵr a nodir ar ddiwedd yr ysgrif hon. Drachefn, enwir rhyw 'Gambold' neu 'Gambwll' droeon yn llythyrau'r Morysiaid; yn ôl cofnodion y 'Customs' (Miss Lucy Williams o Gaergybi a ddarganfu hyn), yr oedd hwn yn gapten y Pelham, un o longau'r doll yng Nghaergybi; ac yn un o'r llythyrau (i, 446) disgrifir ef fel 'having introduced the Cardiganshire exercise among our squadrons.'

Ond y Gambold cyntaf a haedda fanylu arno yw WILLIAM GAMBOLD (1672 - 1728), clerigwr a gramadegydd. Dywed ei fab, yr esgob Gambold (mewn llythyr a argraffwyd yn y rhagymadrodd i argraffiad cyntaf English-Welsh Dictionary John Walters), iddo gael ei eni 10 Awst 1672, o deulu parchus a roes addysg dda iddo ar gyfer urddau eglwysig. Yn ôl Foster (Alumni Oxonienses), yr oedd yn 18, ac yn 'fachgen tlawd,' mab i William Gambold o dref Aberteifi, pan ymaelododd yn S. Mary Hall, Rhydychen, 23 Mai 1693. Symudodd i Goleg Exeter yn 1694, ond nid oes gofnod iddo raddio. Ar 1 Rhagfyr 1709 (West Wales Records, ii, 226; iii, 250), daeth yn rheithor Casmael gyda Llanychaer; gellid meddwl iddo fod yn gurad yno cyn hynny, oblegid yn Nhachwedd 1707 yr oedd yn cadw ysgol yn Llanychaer (Cymm. Trans., 1904-5, 186); dywed ei fab ei fod yn hynod ymroddgar fel person plwyf. Yn Rhydychen yr oedd yn gyfaill i Edward Lhuyd, a dywed Lhuyd iddo gyfrannu gwybodaeth at ychwanegiadau Lhuyd i argraffiad Gibson o Britannia Camden. Mor gynnar â 1707 cynlluniai Gambold eiriadur Cymraeg, a daeth hwnnw'n brif waith ei fywyd pan analluogwyd ef yn ddiweddarach (gan ddamwain) i gyflawni ei ddyletswyddau plwyfol. Gorffennwyd y geiriadur yn 1722, ond methodd Gambold hel digon o arian i'w gyhoeddi. Yn llythyrau'r Morysiaid (ii, 140-1, 221, 224) clywir sôn am yr esgob Gambold yn ceisio gwerthu'r llawysgrif i'r geiriadurwr Thomas Richards o Langrallo - yn ôl eu harfer, tuedda'r Morysiaid (i, 114; ii, 150, 233) i ddibrisio'r gwaith. Daeth y llawysgrif wedyn (tua 1770) i ddwylo geiriadurwr arall, John Walters; heddiw y mae yn y Llyfrgell Genedlaethol. Cyhoeddodd William Gambold yn 1727 A Grammar of the Welsh Language; ail argraffwyd hwn ar ôl ei ddydd ef (Llyfyddiaeth y Cymry, 346-7). Bu farw 13 Medi 1728.

O bum mab William Gambold, yr enwocaf o bell ffordd yw'r mab hynaf, JOHN GAMBOLD (1711 - 1771), esgob Morafaidd; ganwyd 10 Ebrill 1711 yng Nghasmael. Ar brydiau'n unig y mae ei yrfa'n cyffwrdd â Chymru, ac adroddir hi'n dda (gyda chyfeiriadau llawn) gan Alexander Gordon yn y D.N.B.; gellir felly fanylu mwy yma ar ei hochr Gymreig. Ymaelododd yn Christ Church, Rhydychen, 10 Hydref 1726, ac yn y coleg hwnnw y daeth i adnabod Charles Wesley ac i ymuno â 'Methodistiaid Rhydychen.' Graddiodd yn 1730; urddwyd ef yn 1733, a phenodwyd ef yn 1735 yn ficer Stanton Harcourt ger Rhydychen; ond yn 1739 cyfarfu â Zinzendorff a thueddwyd ef fwyfwy at Forafiaeth. Yn 1742 rhoes ei fywoliaeth i fyny; priododd yn 1743 a dychwelodd i'w sir enedigol (am fanylion ei daith gweler Cymm., xlv, 28) i gadw ysgol yn Stryd y Farchnad yn Hwlffordd. Ond yn 1744 aeth i Lundain, ac ymuno'n ffurfiol ag Eglwys y Brodyr; codwyd ef yn esgob ynddi yn 1753. Adwaenai Richard Morris ef yn Llundain (Morris Letters, ii, 140-1, 221), ac ni allai'r gŵr cellweirus bydol hwnnw lai na sylwi ar y modd yr oedd yr esgob yn 'dibrisio cyfoeth - rhoes fywoliaeth dda i fyny i fyw heb incwm o gwbl, yn llawen mewn tlodi a charpiau'; etyb ei frawd Lewis (Morris Letters, ii, 224): 'Dynion felly oedd esgobion yr Eglwys Fore.' Yn 1768 torrodd iechyd Gambold i lawr, a dychwelodd i Hwlffordd, yn weinidog y gynulleidfa; bu farw yno 13 Medi 1771 ar ben blwydd marw ei dad, a chladdwyd yn y fynwent y tu cefn i gapel y Morafiaid ar S. Thomas's Green. Ar ben ei waith cenhadol, yr oedd Gambold yn Roegwr gwych, a chanddo wybodaeth ddofn o'r tadau Groegaidd; 'llonydd' (Quietist) a chyfriniol oedd ei ddiwinyddiaeth. Nid oedd wedi anghofio'i Gymraeg. Efe, yn 1760, a ddiwygiodd ac a ddug drwy'r wasg Un Ymadrodd ar Bumtheg ynghylch Iesu Grist, cyfieithiad gan Evan Williams (1724 - 1759) o Zinzendorff; ac yn 1770 dug allan emyniadur Morafaidd Cymraeg, Ychydig Hymnau allan o Lyfr Hymnau Cynulleidfaoedd y Brodyr (gweler Cymm., xlv, 112) - cymerwyd tri o'r emynau allan o waith 'yr Hen Ficer'; trosiadau Gambold o emynau Morafaidd Saesneg yw'r gweddill (34), a chystal yw cyfaddef mai anystwyth braidd ydynt.

Haedda dau o feibion eraill William Gambold air byr. Y trydydd mab oedd GEORGE GAMBOLD, a fu farw yn 1755. Methodist oedd yntau ar y cychwyn; y mae gennym lythyr (T.L. 1256, 28 Rhagfyr 1744) oddi wrtho at Howel Harris, ac yn 1748 yr oedd yn gynghorwr. Daliodd ymlaen ag ysgol ei frawd John yn Hwlffordd. Ond troes yntau'n Forafiad, ac efe a John Sparks oedd dau sylfaenydd y seiat Forafaidd a ddaeth wedyn yn gynulleidfa Forafaidd yn Hwlffordd (1763) - yr unig un yng Nghymru.

Ar y llaw arall, nid ymadawodd yr ieuengaf o'r brodyr, WILLIAM GAMBOLD, erioed â'r Methodistiaid. Dechreuodd gynghori yn 1766, a bu ar deithiau yng Ngogledd Cymru (Methodistiaeth Cymru, ii, 304); yr oedd yn gyfaill mawr i Howell Davies (Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, iv, 55). Er hynny, yr oedd ar delerau cyfeillgar iawn â'r Brodyr, ac y mae cofnodion diddorol ganddo ar hanes crefydd yn Nyfed ar glawr yng nghronfa'r Brodyr yn Hwlffordd (Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, iv, rhifynnau 1 a 2). Y mae'n bosibl (dim mwy) mai efe oedd y William Gambold a enwir ar ddechrau'r ysgrif hon; ond yn 1770 beth bynnag yr oedd yn ffarmio gerllaw Llawhaden. Yr oedd eto'n fyw yn 1794.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

GAMBOLD, (TEULU).

Ar ôl ymddangosiad y Bywgraffiadur a'r argr. Saesneg (1959), daeth cryn swm o wybodaeth ychwanegol ar y teulu hwn i'r amlwg. Yn hytrach nag argraffu'n awr res o gywiriadau a diwygiadau eraill na byddent yn hwylus i'r darllenwyr heb fod yr ysgrif wreiddiol wrth eu penelin ar y pryd, barnwyd hi'n well ail-lunio'r ysgrif honno yn ei chyfanrwydd, ond rhoi'r newidiadau rhwng cromfachau sgwâr - ac yn yr un modd nodi'r ffynonellau newydd ar ddiwedd yr ysgrif.

[Ymddengys yr enw ' Gambold ' (sydd i'w gael mewn rhannau eraill o Brydain hefyd) yn gynnar iawn ym mhlwy Llandudoch; noder bod rhan o'r plwy, sy'n ddaearyddol yn Sir Benfro, yn perthyn i fwrdeistref Aberteifi ar draws yr afon. Yr oedd rhyw WILLIAM GAMBOLD yn byw yn Aberteifi yn 1653, ac yn aelod o'r ' Court Leet '. Bu ganddo, fe ymddengys, fab o'r enw HECTOR. Credir (er nad yw'r mater yn glir) mai meibion i hwnnw oedd TIMOTHY a WILLIAM (y gramadegydd), a mab i TIMOTHY oedd DAVID (bu farw 1761). Ymdrinir yn gyntaf â disgynyddion David. Daeth ei ferch ef, ANNE, yn briod â Benjamin Millingchamp a fu farw 1784, swyddog gyda'r doll yn y porthladd; a chysylltir y gainc hon o'r Gamboldiaid bellach â'r swyddogaeth honno. Bu WILLIAM, mab David, rhydd-ddeiliad yn Aberteifi (West Wales Records, III, 77, dan 1760) yn ' purser ' yn y Llynges - nodir mai yn Biwmaris yr oedd ei breswylfod a dyna sut y gwelir ei enw yn Llythyrau Morysiaid Môn, ac yr adroddir ei gampau yn yr ysgarmesoedd ym Môn a mannau eraill, yn erbyn y smyglwyr. Nid oes fawr amheuaeth bellach nad hwn a roes lety i Lewis Morris yn 1758, pan ryddhawyd hwnnw o garchar Aberteifi. Bu wedyn yn gapten y llong Pelham. Y mae sôn hefyd (yn Llythyrau'r Morysiaid - gweler mynegai Hugh Owen iddynt - ac yn helaeth yn recordiau'r Customs yng Nghaergybi a Llundain) am ryw GEORGE, efallai brawd hyn i William, yntau'n gapten.]

Trown yn awr at y gangen arall o'r teulu. Mab hynaf yr Hector Gambold uchod oedd WILLIAM GAMBOLD, y gramadegydd (1672 - 1728), yntau'n fwrdais yn Aberteifi, yn herwydd perchnogi tafarn y ' Nag's Head '. Fe'i ganwyd meddai ei fab John, ar 10 Awst 1672, 'o deulu parchus, a roes iddo addysg dda ar gyfer urddau yn yr Eglwys ' - ond yn Foster Alumni Oxonienses, gelwir ef yn 'fachgen tlawd' ac yn fab i WILLIAM GAMBOLD o Aberteifi; [y mae peth dryswch yng nghofnodion ei goleg cyntaf, S. Mary Hall (a gedwir yn awr yng Ngholeg Oriel): yno gelwir ef yn fab i ' William neu Hector ', a rhoddir ei oedran yn '18 neu 20' pan ymaelododd yno 26 Mai 1693.] Symudodd i Goleg Exeter (1694), ond nid oes gofnod iddo raddio. Yr oedd yn gyfaill i Edward Lhuyd, a thystia Lhuyd iddo gyfrannu ychwanegiadau iddo at ei nodiadau yn argr. Gibson o Britannia Camden. Ar 1 Rhagfyr 1709 (West Wales Records, II, 226 a III, 250), daeth yn rheithor Casmael a Llanychaer, ond gellid meddwl iddo fod yno'n gynt (efallai'n gurad), oblegid yn Nhachwedd 1707 yr oedd yn cadw ysgol yn Llanychaer.

Mor gynnar â 1707, cynlluniai Gambold eiriadur Cymraeg, a daeth hwnnw'n brif waith ei fywyd pan analluogwyd ef gan ddamwain rhag cyflawni ei ddyletswyddau plwyfol. Gorffenwyd hwn yn 1722, ond methodd Gambold gasglu digon o arian i'w gyhoeddi. Yn llythyrau'r Morysiaid (I, 114; II, 150, 233) sonnir fod yr Esgob Gambold yn ceisio gwerthu'r llawysgrif i'r geiriadurwr Thomas Richards (c. 1710 - 1790) o Langrallo - yn ôl eu harfer, tuedda'r Morysiaid i ddibrisio'r gwaith. Tua 1770, daeth y llawysgrif i ddwylo geiriadurwr arall, John Walters (1721 - 1797) - heddiw, y mae yn y Llyfrgell Genedlaethol. Cyhoeddodd William Gambold yn 1727 A Grammar of the Welsh Language; ailargraffwyd hwn ar ôl ei farw (Llyfryddiaeth y Cymry, 346-7). Bu farw 13 Medi 1728.

Yr enwocaf o blant William Gambold [enw ei wraig oedd Elizabeth, ond ni wyddys ei chyfenw; dywedir mai o blwy cyfagos Treletert yr hanoedd] oedd JOHN GAMBOLD (1711 - 1771), esgob Morafaidd, ganwyd 10 Ebrill 1711 yng Nghasmael. Ar brydiau'n unig y mae ei yrfa'n cyffwrdd â Chymru; adroddir hi'n llawn yn ysgrif Alexander Gordon arno yn y D.N.B., felly gellir yma ddelio'n bennaf ag ochr Gymreig ei fywyd. Ymaelododd yng ngholeg Eglwys Crist yn Rhydychen, 10 Hydref 1726, ac yno y daeth i adnabod Charles Wesley, ac i ymuno â ' Methodistiaid Rhydychen '. Graddiodd yn 1730; urddwyd ef yn 1733; a phenodwyd ef yn ficer Stanton Harcourt gerllaw Rhydychen. Ond yn 1739 cyfarfu â Zinzendorf; ac atynwyd ef fwyfwy at Forafiaeth. Yn 1742 rhoes ei fywoliaeth i fyny. Ymbriododd yn 1743 ag Elizabeth Walker, a dychwelodd i Sir Benfro i gadw ysgol yn Stryd y Farchnad yn Hwlffordd (gweler Cymm. xlv. 28); eithr yn 1744 aeth i Lundain, ac ymuno'n swyddogol â'r Morafiaid - codwyd ef yn esgob Morafaidd yn 1753. Adwaenai Richard Morris ef yn Llundain (gweler Morris Letters, II, 140-1 a 221) ac ni allai Richard fydol gellweirus lai na sylwi ar y modd y diystyrai'r esgob gyfoeth - 'rhoes fywoliaeth dda i fyny i fyw heb incwm o gwbl, yn llawen mewn tlodi a charpiau' - etyb ei frawd sinical Lewis (ibid. II, 224) 'dynion felly oedd esgobion yr Eglwys Fore'. Yn 1768 torrodd iechyd Gambold i lawr, a dychwelodd i Hwlffordd, yn weinidog y gynulleidfa Forafaidd yn ei chapel, sydd bellach (1961) wedi ei gau; bu farw yno 13 Medi 1771, a chladdwyd yn y gladdfa y tu cefn i'r capel.

Serch iddo fod yn genhadwr selog, eto ysgolhaig yn bennaf oedd John Gambold. Yr oedd yn Roegwr gwych, a chanddo wybodaeth ddofn o'r Tadau cynnar. 'Llonydd' (quietist) a chyfriniol oedd ei ddiwinyddiaeth. Nid oedd wedi gollwng ei afael ar ei Gymraeg. Yn 1760, diwygiodd a dug trwy'r wasg Un Ymadrodd ar Bumtheg ynghylch Iesu Grist, cyfieithiad Evan Williams (1724 - 1758) o waith Zinzendorf; ac yn 1770 cyhoeddodd emyniadur Morafaidd Cymraeg, Llyfr Hymnau Cynulleidfaol y Brodyr - tri o'r emynau allan o waith yr Hen Ficer, a 34 o drosiadau Gambold ei hunan, o emynau Morafaidd Saesneg; anystwyth braidd yw'r rheini (gweler Cymm. xlv. 112).

[Y mae trefn enwau brodyr John Gambold, yn yr ysgrif wreiddiol, yn wallus: bellach gweler Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, Medi 1961, am adroddiad cywirach wedi ei seilio ar ewyllys eu tad. Yr hynaf, wrth gwrs, oedd John, ganwyd 1711). Yna daw (2) WILLIAM, ganwyd 1712 neu 1713, (3) HECTOR, ganwyd yng Nghasmael 1714; ymfudodd i U.D.A. yn 1742, a bu farw yn Pennsylvania yn 1788, (4) GEORGE; ac yr oedd merch, MARTHA.

Methodist fu William erioed; dechreuodd 'gynghori' yn 1766; bu ar deithiau yng ngogledd Cymru (Meth. Cymru, II, 304), ac yr oedd yn gyfaill mawr i Howell Davies (Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, IV, 55). Eto, yr oedd ar delerau hollol dda â'r Morafiaid, ac y mae cofnodion diddorol iawn ganddo ar hanes crefydd yn Nyfed, yn y llawysgrif a oedd gynt yng nghronfa'r Brodyr yn Hwlffordd gweler rhifynnau 1 a 2 o Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, IV). Ffarmiai gerllaw Llanhuadain yn 1770; yr oedd eto'n fyw yn 1794.

Bu George farw yn 1755; Methodist oedd yntau ar y cychwyn, ac y mae llythyr oddi wrtho at Howel Harris (T.L. 1256, Rhagfyr 1744); yn 1748 yr oedd yn ' gynghorwr '. Daliodd ymlaen gydag ysgol ei frawd John yn Hwlffordd. Ond wedyn troes yn Forafiad; ac efô a John Sparks (1726 - 1769) oedd dau sylfaenydd y 'seiat' Forafaidd yn Hwlffordd, a dyfodd wedyn yn 'gynulleidfa'.

Awdur

  • Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, (1881 - 1969)

Ffynonellau

  • Cyfeiriadau yng nghorff yr ysgrif ac yn yr ysgrif ar John Gambold yn y Oxford Dictionary of National Biography
  • gwybodaeth a gafwyd yn ddiweddarach oddi wrth Mr. Jack Gambold (Indiana, U.D.A., un o ddisgynyddion Hector frawd yr esgob - y mae Mr. Gambold yn paratoi llyfr ar hanes y teulu)
  • gwybodaeth gan y diweddar Miss Lucy Williams, Caergybi
  • gwybodaeth gan Mrs. Agnes Dorset Thompson (gynt Gambold), Leeds
  • gwybodaeth gan Mr. C. V. Appleton, Caerdydd
  • gwybodaeth gan y Cadfridog R. S. Lewis, Rhaeadr Gwy

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.