RICHARDS, THOMAS (c. 1710 - 1790), clerigwr a geiriadurwr

Enw: Thomas Richards
Dyddiad geni: c. 1710
Dyddiad marw: 1790
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a geiriadurwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Griffith John Williams

Ni wyddys pa le y ganwyd ef, ond yn ôl cofnodion esgobaeth Tyddewi fe'i hurddwyd yn ddiacon yn 1733 ac yn offeiriad yn 1734. Yna cafodd guradiaeth S. Ismael a Llansaint yn Sir Gaerfyrddin, a bu yno hyd 1738. Yna yn 1742 fe'i trwyddedwyd yn gurad parhaol yn Llangrallo a Llanbedr-ar-fynydd. Wedi hynny, yn 1777, cafodd ficeriaeth Eglwysilan, ond ni bu'n byw yn y plwyf hwnnw. Yn Llangrallo yr arhosodd hyd ei farw yn 1790. Bu'n briod ddwywaith, a cheir cofnodion am fedyddio ei blant yng nghofrestri Llangrallo. Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf yn 1746, sef cyfieithiad o lyfr Saesneg Philip Morant, Creulonderau ac Aerlidigaethau Eglwys Rufain. Yna aeth ati i gyfieithu gramadeg a geiriadur Cymraeg-Saesneg y Dr. John Davies yn Gymraeg, gan ychwanegu geiriau a welsai yng ngwaith Edward Lhuyd, yn argraffiad Wotton o gyfreithiau Hywel Dda (1730), ac mewn hen eirfâu, yn ogystal â llawer o eiriau a glywid yn nhafodiaith Morgannwg. Fe'i cyhoeddwyd yn 1753, a daeth argraffiad arall allan yn 1759. Wedi hynny bu'n ychwanegu ato, a chyhoeddwyd hysbysiad yn 1790, ychydig fisoedd cyn ei farw, yn dywedyd fod y gwaith yn barod i'r wasg. Bu hefyd yn cydweithio â'i gymydog, y Dr. John Richards, rheithor y Coety, yn casglu defnyddiau at eiriadur Saesneg-Cymraeg, a bu'n diwygio geiriadur Saesneg-Cymraeg William Evans, 1771, fel yr eglurir ar ddalendeitl yr ail argraffiad yn 1812. Yr oedd yn gohebu â Richard Morris, a chafodd ei eiriadur gryn sylw gan y Morysiaid a hefyd gan Oronwy Owen, er bod yr olaf yn bur feirniadol ohono. Er hynny, cyflawnodd Thomas Richards gryn wasanaeth. O'r diwedd, cafodd llenorion Cymru na ddeallent Ladin gyfle i astudio gramadeg y Dr. John Davies, ac yr oedd y geiriadur yn rhoddi iddynt gyfle i ddeall geirfa'r cywyddwyr. Dyma lyfr a oedd wrth benelin y beirdd pan oeddynt yn cyfansoddi awdlau a chywyddau yn ail hanner y 18fed ganrif. Ac ef oedd un o'r rhai a enynnodd ddiddordeb 'Iolo Morganwg' yn llên Cymru, ac yn arbennig yng ngeirfa'r iaith. Yn ôl ei ewyllys, gadawodd ei lyfrau a'i lawysgrifau i Edward Thomas, ysgwïer Tre-groes ym mhlwyf Llangrallo. Ni wyddys pa beth a ddaeth ohonynt, ond mynnai 'Iolo' mai yn y llawysgrifau hynny y darganfu amryw o'i ffugiadau, megis Brut Aberpergwm, a rhai o'r cywyddau a dadogodd ar Ddafydd ap Gwilym.

Yn ôl Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd xxxiv, 38, bu farw 20 Mawrth 1790.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.