Mab Syr William ap Thomas, Raglan, a Gwladys, merch Syr Dafydd Gam. Bu'n gwasanaethu yn lluoedd Lloegr yn Normandi gyda'i gyd- Gymro Mathau Goch; cymerwyd ef yn garcharor yn Formigny (Ebrill 1450) a chafodd ei wneuthur yn farchog Nadolig yr un flwyddyn. Yn yr ymdrech rhwng plaid Lancaster a phlaid Iorc yr oedd ei ddiddordebau (os nad ei gydymdeimlad hefyd) yn ei dueddu i bleidio plaid Iorc ‐yr oedd nerth y blaid honno ar ororau De Cymru yn gorbwyso nerth y blaid arall. Pa fodd bynnag, ymheddychodd â'r brenin ac â'r frenhines Margaret yn 1452 a thrachefn yn Leicester yn 1457. Am rai o'r blynyddoedd a ddilynodd yr oedd yn deyrngar i'r Goron, ac y mae hyn yn esbonio i raddau y dirfawr ofn a deimlid gan blaid Iorc yn Ludford (12 Hydref 1459). Yn dâl am ei deyrngarwch rhoddwyd iddo ddarnau helaeth o'r tiroedd a gymerasid oddiar Iorc a Warwick (5 Chwefror 1460). Yn 1459 priododd Anne Devereux, chwaer Walter, arglwydd Ferrers (o Chartley). Ar ôl brwydr Northampton (Gorffennaf 1460) rhoes Warwick iddo lawer o awdurdod yn Ne Cymru. Ym mis Hydref yr oedd yn cynrychioli swydd Henffordd yn y Senedd. O hyn allan dangosodd ei fod ar ochr plaid Iorc - ac y mae hyn yn esbonio i raddau helaeth sut y bu iddynt gael y fuddugoliaeth yn Mortimer's Cross (2 Chwefror 1461). Yr oedd ei ddyrchafiad yn ffafr y brenin yn gyflym yn awr. Gwnaethpwyd ef yn aelod o'r Cyfrin Gyngor, ac yr oedd yn bresennol yn Baynards' Castle pan gyhoeddwyd iarll March yn frenin o dan yr enw Edward IV (Mawrth 1461). Adeg y coroni fe'i gwnaethpwyd yn Arglwydd Herbert (o Raglan) 4 Tachwedd. Am rai blynyddoedd o hyn ymlaen yr oedd Edward IV yn tywallt ffafrau arno 'to the secret displeasure of the earl of Warwick.' Wedi iddo'n ffurfiol dderbyn castell Penfro i'w law oddiar y Lancastriaid y gorfu arnynt ei drosglwyddo rhoddwyd gofal y tywysog ifanc Harri, iarll Richmond, arno; yn ei ewyllys dyweddiodd Herbert y tywysog hwnnw â'i ferch Maud. Gwnaethpwyd ef yn farchog o Urdd y Gardys (Ebrill 1462) a daeth yn aelod o Gyngor Mewnol y Brenin. Aeth yr anghydfod rhwng Herbert a Warwick yn gasach fyth pan wnaethpwyd William, mab ac aer Herbert, yn Arglwydd Dunster (Medi 1466), ac yn neilltuol gas pan aeth Herbert gyda'r brenin i fynnu cael Sêl Fawr y Deyrnas gan y Canghellor, sef George, archesgob Caerefrog a brawd Warwick (Mehefin 1467). Y flwyddyn ddilynol (Gorffennaf 1468) gorchmynnwyd i Herbert fyned i ddarostwng Harlech, a ddelid o hyd gan y Lancastriaid; cwympodd y castell ym mis Awst. Yn rhodd am hyn cafodd Herbert iarllaeth Pembroke (8 Medi). Mewn cân darawiadol apeliodd Guto'r Glyn at Herbert ac erfyn arno ddyfod yn arweinydd cenedlaethol i'r Cymry ac erlid y swyddogion Seisnig o'r wlad. Pa fodd bynnag, gorchfygwyd yr iarll gan filwyr Warwick yn Edgecote (Gorffennaf 1469), cymerwyd ef yn garcharor, a thorrwyd ei ben. Yng ngolwg beirdd Cymreig yr oes yr oedd hyn yn drychineb cenedlaethol.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.