Ganwyd tua 1390, brodor o Faelor. Owen Gough, beili Hanmer, oedd ei dad, a'i fam yn ferch David Hanmer; bu hi'n famaeth John, arglwydd Talbot (iarll Shrewsbury wedi hynny). O'r llu o Gymry a fu'n ymladd yn Ffrainc yn ystod rhan olaf y Rhyfel Can Mlynedd nid enillodd neb fwy o glod na Mathew Gough. Ceir ei enw yn rhestrau y rhai a gymerth ran ym mrwydrau Crevant (1423) a Verneuil (1424). Bu wedi hynny â gofal gwahanol drefi ac amddiffynfeydd arno - yn cynnwys Laval, S. Denis, Le Mans, Bellême, a Bayeux. Yn 1432 cymerwyd ef yn garcharor yn S. Denis, a pharodd hyn gryn ofid ymhlith beirdd yng Nghymru a gwneuthur apêl am arian pridwerth er mwyn ei ryddhau. Dyma, er enghraifft, yr hyn a ddywed Guto'r Glyn : 'Bu ar glêr bryder a braw, Ban ddaliwyd, beunydd wylaw.' Arno ef, yn bennaf, y syrthiodd y cyfrifoldeb o drefnu trosglwyddo Anjou a Maine i'r Ffrancod, wedi i'r parthau hynny orfod rhoi i fyny; gwaith o'i anfodd oedd hyn ac adroddir iddo syrthio'n ôl ar amryw 'subterfuges, pretences, and dissimulations' wrth gyflawni'r gwaith (1447). Wedi i'r Saeson gael eu gorchfygu yn Formigny (1449) a cholli Normandi wedi hynny, dychwelodd Gough i Lundain a bu'n gyd-ofalwr Tŵr Llundain. Lladdwyd ef ar Bont Llundain, pan oedd yn amddiffyn dinas Llundain yn erbyn Jack Cade a'i gyd- wrthryfelwyr, ar nos Sul 5-6 Gorffennaf 1450 a chladdwyd ef yng nghôr Mair y Brodyr Carmelaidd yn Llundain. Dywed William o Worcester, y croniclydd, i'w farw beri galar cyffredinol yng Nghymru. Y mae'r sylw mawr a roddir iddo gan groniclyddion cyfoes Ffrainc yn gryfach prawf o'i enwogrwydd. Am flynyddoedd wedi ei farw coffeid yr enw ' Matago ' yn annwyl gan drigolion Bellême. Efe a gafodd yr anrhydedd o annerch y milwyr o Loegr ar fin brwydr Formigny. A'i orchfygu ef a barodd fwyaf o lawenychu ymhlith y croniclyddion.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.