GUTO'R GLYN, bardd a ganai yn ail hanner y 15fed ganrif (1440-1493);

Enw: Guto'r Glyn
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ifor Williams

os ef piau'r cywyddau i Syr Richard Gethin a Mathau Goch, rhaid tybio iddo gychwyn ynghynt, sef tua 1432-5. Yn ôl Tudur Aled, ef oedd y gorau ar gywydd mab: 'ac erioed prydydd gŵr wyf' medd ef ei hun. Gwyddai sut i glodfori, a dychanu hefyd, fel y dengys ei ganu crafog i Ddafydd ab Edmwnt; a gwyddai sut i gellwair yn ddireidus. Cadwyd amryw o'i gywyddau gofyn a rhai i ddiolch, lle daw ei ddawn i ddyfalu i'r amlwg; a gwedd ar yr un ddawn a welir yn ei ddisgrifiadau o lysoedd Cymreig : Cwrt Moelyrch, plas Syr Risiart o Golbrwc, a thŷ'r person yn Llandrinio, heb sôn am fynachlog Glyn Egwestl, ei loches a'i noddfa pan oedd hen a dall. Ond grym ei ganu yw ei gywyddau mawl a'i farwnadau.

Magwyd ef, yn ôl pob tebyg, yng Nglyn Ceiriog - dyna roes ' Y Glyn ' yn gyfenw iddo. O'r fro honno gallai grwydro'n hwylus i naw o bob deg o'r llysoedd lle cafodd groeso yn ystod ei oes hir. Yr oedd Corwen mewn cyrraedd, a chyfle i borthmona gyda defaid person Corwen i Loegr a'u colli yno, a chael dadl â Thudur Penllyn o'r herwydd. Y dref y disgynnai iddi'n naturiol oedd Croesoswallt, ac fe'i ceir yno. Er clera ym Môn, Gwent, a Gwynedd, ei fro oedd Powys; geilw Ystrad Marchell 'ein tŷ ni.' Hoff oedd o eglwyswyr ac abadau - person Corwen, Dafydd Cyffin a Risiart Cyffin, deoniaid Bangor, Siôn Mechain, person Llandrinio; abad Amwythig, ac abadau Glyn Egwestl.

Yn wleidyddol, un o blaid Iorc ydoedd, a phleidwyr Iorc oedd rhai o'i brif noddwyr, megis William Herbert, iarll Penfro, a'i frawd Syr Rhisiart o Golbrwc. Canodd i'r brenin Edward IV. Ond ni fedrai oddef gweld Cymro 'n lladd Cymro yn 1468, pan oresgynnodd Herbert Ogledd Cymru; erfyn arno drugarhau wrth benaethiaid hael Gwynedd a pheidio â gadael i'r Saeson eu disodli o'u swyddau. 'Dwg Cymru'n un' yw ei gri; 'Dwg Forgannwg a Gwynedd, Gwna'n un o Gonwy i Nedd.' Yr oedd Guto 'n fwy o Gymro na Iorciad yn y bôn, er iddo 'Ddwyn coler gwychder y gard / A nod y Brenin Edward,' chwedl Gutyn Owain. Bu farw ym mynachlog Glyn Egwestl, tua 1493, a'r abad Dafydd a fu mor dyner ohono ym musgrellni henaint a dallineb a roes wledd ei arwyl.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.