IORWERTH FYNGLWYD (fl. c. 1480-1527), bardd

Enw: Iorwerth Fynglwyd
Plentyn: Rhisiart Fynglwyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Griffith John Williams

o Saint y Brid (neu St. Bride's Major) ym Mro Morgannwg; Prawf y cywyddau ymryson a fu rhyngddo â Rhisiart ap Rhys Brydydd ym mhlas Siôn Stradling yn y Merthyr Mawr mai'r bardd hwnnw oedd ei athro. Cadwyd dros 50 o'i gyfansoddiadau yn y llawysgrifau, a rhoddwyd sylw mawr iddynt, nid yn unig gan gopïwyr Morgannwg ond hefyd yn y Gogledd. Canodd lawer i foneddigion ei dalaith ei hun, i'r Gameisiaid a'r Stradlingiaid a'r Bawdremiaid a'r Mawnseliaid, ac i Ddafydd, abad Margam, rhwng 1500 a 1517. Ond ei brif noddwr ydoedd Rhys ap Siô n o Aberpergwm, yr enwocaf o'r teulu nodedig hwnnw. Bu hefyd yng Nghydweli ac Ystrad Tywi, a gellir tybied mai un o'i hoff gyrchfannau ydoedd llys Syr Rhys ap Tomas, lle y cyfarfu â Thudur Aled. Canwyd ei farwnad gan Lewis Morgannwg, mab ei hen athro. Ac ef oedd tad Rhisiart Iorwerth (neu Rhisiart Fynglwyd), un o feirdd pwysicaf Morgannwg tua chanol yr 16eg ganrif.

Gellir edrych arno fel y mwyaf o gywyddwyr Morgannwg. Y mae'n feistr ar fawl confensiynol y beirdd, ond yr hyn a ddyry arbenigrwydd ar ei waith ydyw'r ddawn ddiarhebol a ganfyddir yn ei ganu cymdeithasol, y ddawn i gloi rhyw wirionedd mewn cwpled cofiadwy. Gwelir hyn yn y cywyddau a ganodd i gysuro Rhys ap Siôn o Aberpergwm wedi i'r gŵr hwnnw golli ei dreftadaeth am gyfnod a gorfod myned ar herw. Dyma rai o'r cywyddau mwyaf poblogaidd yng Nghymru yn yr 16eg ganrif, a dyfynnir ohonynt yng nghasgliad y Dr. John Davies o linellau trawgar o weithiau'r beirdd, sef y Flores Poetarum Britannicorum, 1710.

Ceisiodd ' Iolo Morganwg ' ei wneuthur yn saer cerrig enwog, un o hynafiaid y seiri honedig hynny, Richard a Wiliam Twrch, y mynnai iddynt godi porth y Bewpyr yn 1600. Ailadroddir y storiau hyn yn llyfrau'r ganrif ddiwethaf. Nid oes dim sail iddynt. Ni cheir yma ond ymgais ' Iolo ' i egluro rhai llinellau a welsai yng nghanu Iorwerth Fynglwyd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.