Gŵr o Lasgoed ym Meifod a mab Owain ap Deio ap Llywelyn ab Einion ap Celynin. Bu'n astudio'r gyfraith ganon a sifil yn Rhydychen, a dywedir iddo ennill gradd Doethur Cyfraith. Ymddengys iddo ymarfer a'i ddysg gyfreithiol yng ngwasanaeth Sion, iarll Caerwrangon, prif ustus Gogledd Cymru rhwng 1461 a 1467. Os felly, cefnogai deulu Iorc, ond y mae tystiolaeth y beirdd yn dangos iddo, fel eraill, droi a chefnogi Harri Tudur yn ei raid. Bu ar un adeg yn abad Ystrad Marchell ac am ryw hyd yn abad Ystrad Fflur. Rywbryd wedi diwedd 1489 cafodd abadaeth Aberconwy ym Maenan; parhaodd yn abad yno wedi ei ddyrchafu'n esgob Llanelwy, 13 Rhagfyr 1503. Rhoed iddo, wrth enw Dafydd, esgob Llanelwy, neu Ddafydd, abad Conwy, bardwn cyffredinol, 16 Mai 1508, a thrachefn cymerodd ef a'i brif swyddogion fantais ar wahoddiad i gyfranogi o'r pardwn cyffredinol a roed ar esgyniad Harri VIII i'r orsedd yn 1509. Bu farw 12 Chwefror 1512, a chladdwyd ef, yn ôl dymuniad a gofnodasai yn ei ewyllys a seliwyd y dydd cynt (P.C.C. 23 Fetiplace), wrth allor ei eglwys gadeiriol. At ei ddysg a'i feistrolaeth ar weinyddiaeth eglwysig ychwanegodd fawr ofal am adeiladau a ddaeth o dan ei awdurdod. Atgyweiriodd yr abaty ym Maenan a ddadfeiliasai, ac ailadeiladodd balas yr esgob yn Llanelwy. Dywedir hefyd iddo adeiladu yno bont o goed, yn y lle y codwyd pont faen yn 1630, ac mai Pont Dafydd Esgob y gelwid honno. Canodd y beirdd yn helaeth iddo gan ei foli am ysgolheictod mewn pob gwybodaeth. Gweler gweithiau Bedo Brwynllys, Dafydd Amharedudd ap Tudur, Gruffudd ap Llywelyn Fychan (2), Guto'r Glyn, Hywel Rheinallt, Ieuan ap Tudur Penllyn, Ieuan Deulwyn, Ieuan Llwyd Brydydd, Lewis Mon (2), Owain ap Llywelyn Moel, Rhys Pennardd, Tudur Aled (9), a William Egwad.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.