DAFYDD ap MAREDUDD ap TUDUR (fl. 1460) o Dregynon yn Sir Drefaldwyn, un o feirdd llai toreithiog hanner olaf y 15fed ganrif
Enw: Dafydd Ap Maredudd Ap Tudur
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: un o feirdd llai toreithiog hanner olaf y 15fed ganrif
Place: Dregynon
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Rhiannon Francis Roberts
Canodd foliant i Hywel Colunwy (nid i Hywel ap Siencyn), Dafydd Deuddwr, Watcyn ap Tomas ap Rhoser, a Dafydd ab Owain, abad Ystrad Marchell, a hefyd gywyddau o nodwedd grefyddol, megis ‘I'r Grog Dduw.’ Gellir tybio oddi wrth gynnwys ‘Tebic ywr byd kyngyd kaeth’ i'r bardd fynd yn ddall yn ei henaint.
Awdur
- Rhiannon Francis Roberts, (1923 - 1990), Aberystwyth
Ffynonellau
- Jones a Lewis, Mynegai i Farddoniaeth y Llawysgrifau (1928), 66-7;
-
NLW MSS 16, 1553, 13081;
-
Llawysgrif Bodewryd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 1;
-
Llawysgrif Brogyntyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 2.
Dolenni Ychwanegol
- Wikidata: Q20732732
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/